Credwn ni yn Nuw – Dad nefol, Ef yw Crëwr popeth sydd, Ac yng Nghrist ei Fab – Waredwr, Aned i’n o forwyn bur. Credwn iddo farw’n aberth, Dwyn ein pechod ar y groes. Ond mae’n fyw, fe atgyfododd, Esgynodd i ddeheulaw’r Tad. Iesu, ti yw’r Crist, gwir Fab Duw, Iesu, ti yw’r Crist, gwir […]
Arglwydd ti yw Brenin Nef, Mae dy enw goruwch pob enw arall; Mewn disgleirdeb yn teyrnasu, Wedi llwyr orchfygu Pob rhyw elyn sydd drwy’r byd i gyd. A chanwn ni mai ti yw’n Prynwr, Dyrchafwn di, sanctaidd Waredwr. Canwn drachefn ogoniant i Iesu; Gerbron ei orsedd fe blygwn yma ‘nawr. Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, We […]
Cydganwn foliant am oruchafiaeth, Can’s gwelwn lywodraeth ein Duw ar bob llaw. Cydganwn foliant am oruchafiaeth, Can’s gwelwn lywodraeth ein Duw ar bob llaw. Ef yw’r Iôr, Frenin y ddaear, Iôr, Frenin y bydoedd, Iôr, Dduw’r holl genhedloedd nawr. Coronwch ef, Dduw mawr y ddaear, Iôr, Frenin y bydoedd, Iôr, Dduw’r holl genhedloedd nawr. We’ll […]
Cerddwn ymlaen, calonnau’n dân, A bydd pob cam yn weddi îr. Planwyd gobaith a llawenydd; Clywch yr anthem drwy y tir. Ers dyddiau Crist mae’r fflam yn fyw, Ni all un dim ei diffodd hi, Mae ‘na hiraeth a dyhead Am adfywiad drwy y tir. Boed i’r fflam lewyrchu, Symud y tywyllwch, Troi y […]
Eistedd wyt ar ddeheulaw’r Tad, Cans ti yw yr Archoffeiriad. Eistedd wyt yn y nefoedd fry; Wrth dy draed yn awr Fe ddown i’th foli di. Ramon Pink: We will place you on the highest place, cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones Hawlfraint © 1982 Sovereign Music UK P O Box 356, Leighton Buzzard LU7 3WP UK […]
Sefyll wnawn Gyda’n traed ar y graig. Beth bynnag ddywed neb, Dyrchafwn d’enw fry. A cherdded wnawn Drwy’r dywyllaf nos. Cerddwn heb droi byth yn ôl I lewych disgiair ei gôl. Arglwydd, dewisaist fi I ddwyn dy ffrwyth, I gael fy newid ar Dy lun di. Rwy’n mynd i frwydro ’mlaen Nes i mi weld […]
Pan edrychaf gyda’r sanctaidd lu, A phan syllaf ar dy harddwch di. Pan mae popeth o’m cylch Megis cysgod yn d’oleuni pur. Pan ymgollaf yn dy gariad a’th ras, A’m hewyllys mwy ynghlwm wrthyt ti, Pan mae popeth o’m cylch Megis cysgod yn d’oleuni pur. Addolaf di, Addolaf di, Fy mywyd i yw cael d’addoli […]
Pwy all ddirnad maint ei gariad ef A dirgelion arfaeth fawr y nef? Crist a ddaeth i farw yn ein lle Un waith am byth. Roedd yn Dduw cyn rhoddi bod i’r byd; Daeth fel Oen i farw’n aberth drud. Cariad mor fawr i gymodi’r byd Un waith am byth. Fe ganwn eto am ei […]
Pwy a welodd ei ogoniant? Pwy all fyth amgyffred ei ras? Ryw ddydd ddaw fe wêl pob llygad Pawb a wêl ei wyneb ef. Fry i’r nef fe godwn ni A’n breichiau ni ar led, A llenwir ni bob un a’i ogoniant. A’n llygaid wêl ei harddwch ef Y dwyfol Frenin yw ef. Ie, ar […]
Pwy sydd debyg i ti, O Arglwydd ein Duw? Pwy, ymhlith duwiau lu, Sy’n sanctaidd fel tydi? Teilwng i’th foli – gwnest ryfeddodau. Pwy sydd debyg i ti? Judy Horner-Montemayor: Who is like unto Thee? Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones Hawlfraint © 1975 Integrity’s Hosanna! Music/Sovereign Music UK (Grym mawl 1: 183)