Mor hawddgar yw dy bebyll di, Arglwydd y Lluoedd. F’enaid a hiraetha amdanat ti; Can’s diogel wyf o fewn dy dŷ. Molaf dy enw Dan gysgod clyd d’adenydd di fy Nuw. Gwell gen i ddiwrnod gyda thi, Gwell gen i gadw drws dy dŷ, Gwell gen i ddiwrnod gyda thi Na mil unman arall. Un […]
Fe gyfaddefwn Iôr ein bod ni yn wan, O! mor wan, ond rwyt ti’n gryf; Ac er na feddwn ddim i roi wrth dy draed, Fe ddown atat ti, gan ddweud: ‘Helpa di ni.’ Fe gyfaddefwn… Calon doredig gydag ysbryd gwylaidd, Ni wrthodaist erioed; Fe gur dy galon gyda cherrynt cariad, Llifa’n afon fawr, drwy […]
Iesu Grist, myfyriaf ar dy aberth di – Ildiaist ti bopeth a marw i mi. Lawer tro, rhyfeddais i ti f’achub i – Meddyliau fel hyn ddaw i’m cof, Meddyliau fel hyn ddaw i’m cof. Ac unwaith eto syllu wnaf ar groes Calfari, A sylweddoli dyfnder gras dy gariad i mi. Diolch i ti eto […]
Iesu, Iesu, Sanctaidd wyt, Fab Duw eneiniog, Iesu. Iesu, Iesu, Ti yw’n Harglwydd dyrchafedig, Iesu. Dy enw sydd fel y diliau mêl, Dy Ysbryd fel dŵr i’m henaid i; Dy Air sydd yn llusern glir i’m traed. Iesu, fe’th garaf, fe’th garaf. Jesus, Jesus, Holy and Anointed One, John Barnett, Cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones © 1988 […]
Iesu, ’r enw anrhydeddwn, Iesu, ’r enw folwn ni. Mae’n enw sydd goruwch pob enw arall; Datgan nef a daear oll Fod Iesu’n wir Fab Duw. Fe addolwn ni a’i ddyrchafu fry, Canwn foliant iddo ynghyd. Fe addolwn ni, a’i ddyrchafu fry, Canwn foliant iddo drwy’r byd. Iesu, ’r enw a addolwn, Ynddo ymddiriedwn ni. […]
Iesu, fy Ngwaredwr i, Mae dy lygaid hardd fel fflamau tân. Iesu, rhof fy hun i ti; Fe’th ddilynaf di i bob man. ‘Does neb drwy’r oesoedd maith sy’n debyg i ti, Mae’r oesoedd a’r blynyddoedd yn dy law. Alffa ac Omega, do fe’m ceraist, Caf rannu tragwyddoldeb maith â thi. ‘Does dim hebot ti, […]
Cariad iesu feddiannodd fy nghalon; Cariad Iesu ennillodd fy mryd – Cariad Iesu feddiannodd fy nghalon; Cariad Iesu ennillodd fy mryd. Harddach na lliwiau, O! Dyfnach na geiriau, O! Cryfach na theimladau, O! C’nesach yw na thanau, O! Dewch i ddathlu gyda mi Rhannu’r wefr o ddilyn Iesu. Dyma be’ di teulu’r ffydd! Ennillodd fy […]
Iesu, dy harddwch sy’n llenwi dy deml, Iesu, dy bersawr sy’n denu dy bobl. Ac wrth glosio atat ti ‘Rwy’n profi cyffro a heddwch gwir, Teimlo cariad a hedd O weled dy wedd, Meseia. A neidio wnaf i mewn i’r dyfroedd bywiol; Rhoi fy hun yn llaw’r Achubwr dwyfol. Neidio wnaf i mewn i’r dyfroedd […]
O gad im ddweud mod i’n dy garu, Diolch wnaf am fendithion mor ddrud; O gad im fyw yng nghysgodfa dy drugaredd, Gad im weld dy wyneb di. Boed i’r ddaear oll weld gogoniant Duw, Molwn ninnau yn unfryd ein cân. O gad im ddweud mod i’n dy garu, O fy Arglwydd, fy nghyfaill glân. […]
Mae fy nghalon i yn eiddo llwyr i ti: Iesu, arwain fi ar lwybrau Duw. Mae fy nghalon i yn eiddo llwyr i ti: Rhof fy hun yn aberth sanctaidd byw. DYNION Ac fe addolaf fi, MERCHED Fe addolaf fi. DYNION A chanaf am dy gariad di, MERCHED Canaf am dy gariad di, DYNION A […]