Dwed, a flinaist ar y gormes, lladd a thrais sy’n llethu’r byd? Tyrd yn nes, a chlyw ein neges am rym mwy na’r rhain i gyd: cariad ydyw’r grym sydd gennym, cariad yw ein tarian gref, grym all gerdded drwy’r holl ddaear, grym sy’n dwyn awdurdod nef. Cariad sydd yn hirymaros a’i gymwynas heb ben […]
Dwg fi i Fynydd yr Olewydd Lle mae ‘Ngheidwad yn yr ardd; Chwŷs fel dafnau gwaed yn disgyn Hyd ei ruddiau hardd. Beth yw’r ymdrech sy’n ei enaid? Pam bod hwn sy’n Frenin Nef  gofidiau dwys hyd angau Yn ei galon Ef? Cwpan sydd o’i flaen i’w hyfed – Cwpan chwerw angau loes; Tâl […]
Wedi dod i dy dŷ, Dyma fi i roi mawl i ti; Wedi bod trwy y byd, Does ‘na neb sydd yn debyg i ti. Ti yw’r un sy’n gwneud fy nghalon yn llawen, Er gwaetha’ stormydd yn fy mywyd, Fy moliant rôf i ti a thi yn unig, Ti sydd wedi rhoi d’addewid. Cytgan: […]
Dwi eisiau ymgolli yn llwyr yn dy serch, Teimlo dy freichiau’n gryf o’m cwmpas; ‘Nghynnal gan gariad fy Nhad, Saff yn dy fynwes di. Dysgu dy ddilyn Di, Ymddiried ynot Ti; C’nesa fy nghalon i, Tyrd, cofleidia fi. Cysur a geisiais i Wrth ddilyn pethau’r byd; Nertha f’ewyllys wan, Fe’i rhof hi i Ti. Cyfieithiad […]
Dwylo caredigrwydd yw’th ddwylo di; Maent yn dyner fel sidan – cryf i’m cynnal i. Rwy’n dy garu, Rhof fy hun i ti, Ac ymgrymaf fi. Dwylo llawn tosturi yw’th ddwylo pur; Hoeliwyd hwy ar y croesbren, im gael bod yn rhydd. Cariad sydd o’m mewn i’n llosgi nos a dydd; Cariad f’annwyl Waredwr yw […]
Dy alwad, Geidwad mwyn, mor daer a thyner yw: mae ynddi anorchfygol swyn, fy Mrenin wyt a’m Duw. Dilynaf, doed a ddêl, yn ôl dy gamre glân, a’m bedydd sydd yn gywir sêl cyfamod diwahân. Y drymaf groes i mi fydd mwy yn hawdd i’w dwyn wrth gofio’r groes i Galfarî a ddygaist er fy […]
Dy deyrnas doed, O! Dduw, Boed Crist yn llyw yn awr; Â’th wialen haearn tor Holl ormes uffern fawr. Ple mae brenhiniaeth hedd, A’r wledd o gariad byw? Pryd derfydd dicter du, Fel fry yng ngwyddfod Duw? Pryd daw yr hyfryd ddydd Pan na bydd brwydyr lem, A thrawster a phob gwanc Yn dianc rhag […]
Dy deyrnas, Dduw Dad, yw’r cyfanfyd i gyd, dy ddwyfol lywodraeth sy’n cynnal pob byd; teyrnasoedd y ddaear, darfyddant bob un, tragwyddol dy deyrnas fel tithau dy hun. Dy deyrnas a ddaeth yn dy Fab, Iesu Grist, i fyd llawn anobaith, yn gaeth ac yn drist; cyfinawnder a chariad dan goron ei groes, Efengyl y […]
Dy gariad (dy gariad), A’th ysbryd (a’th Ysbryd), Nerth dy fywyd ynof fi. Dy gariad (dy gariad), A’th Ysbryd (a’th Ysbryd), Nerth dy fywyd ynof fi. Addolaf di fy Nuw, am calon ar dân, Addolaf di fy Nuw, fy enaid a gân, Addolaf di fy Nuw, rhof iti bob rhan – Can’s prynaist fi’n rhydd. […]
Dy gariad di sy’n estyn hyd y nefoedd; A’th wir ffyddlondeb sy’n estyn hyd y nen; Fel cadarn fynydd saif dy hardd gyfiawnder. Mor werthfawr yw dy gariad drud. Dyrchafaf di, O, fy Iôr, Dyrchafaf di, O, fy Iôr; Clod i’th enw glân, Cân fy nghalon fawl i ti – Dyrchafaf di, O, fy […]