Marchoga’r Arglwydd mewn gogoniant, Rhyfeddol yw ei harddwch Ef, Cyfiawnder a gwirionedd sanctaidd, Myrddiynau sy’n ei ddilyn Ef. O diolchwch i Dduw am y cariad sy’n, O diolchwch i Dduw am y cariad sy’n, O diolchwch i Dduw am y cariad sy’n Dragwyddol, dragwyddol. Dacw ei fyddin yn mynd allan, Llawenydd sydd yn llenwi’r tir […]
Mawl i Dduw am air y bywyd, gair y nef yn iaith y llawr, gair y cerydd a’r gorchymyn, gair yr addewidion mawr; gair i’r cadarn yn ei afiaith, gair i’r egwan dan ei bwn, cafodd cenedlaethau daear olau ffydd yng ngeiriau hwn. Traetha hwn am ddeddfau’r Arglwydd a gwynfydau Mab y Dyn, am yr […]
Mawr ddyled arnom sydd i foli Iôr y nef, wrth weld o ddydd i ddydd mor dirion ydyw ef; ef yw ein Craig, ein tŵr a’n maeth; y flwyddyn hon ein cofio wnaeth. Ni all tafodau byw holl ddynol-ryw yn un fyth ddatgan gymaint yw ei gariad ef at ddyn; efe sy’n darpar, ar ei […]
Mawr dy ffyddlondeb, fy Nuw, yn dy nefoedd, Triw dy addewid bob amser i mi; Cadarn dy Air, dy drugaredd ni fetha, Ddoe, heddiw’r un, a thragwyddol wyt ti. Mawr dy ffyddlondeb di, mawr dy ffyddlondeb di, Newydd fendithion bob bore a ddaw; Mawr dy ffyddlondeb i mi yn fy angen, Pob peth sydd dda, […]
Mawr oedd Crist yn nhragwyddoldeb, mawr yn gwisgo natur dyn, mawr yn marw ar Galfaria mawr yn maeddu angau’i hun; hynod fawr yw yn awr, Brenin nef a daear lawr. Mawr oedd Iesu yn yr arfaeth, mawr yn y cyfamod hedd, mawr ym Methlem a Chalfaria, mawr yn dod i’r lan o’r bedd; mawr iawn […]
Mawr yw ein Duw, mawr yw ein Duw, Mawr yw ein Duw, mawr yw ein Duw. Mawr yw ein Duw, mawr yw ein Duw, Mawr yw ein Duw, mawr yw ein Duw. Fe greodd y gwynt, yr eira a’r haul, Y tonnau ar draethau, y blodau a’r dail. Fore a hwyrnos, gaeaf a haf; […]
Mawr yw yr Arglwydd A theilwng o fawl, Yn ninas y Duw byw, y Brenin yw; Llawenydd yr holl fyd. Mawr yw yr Arglwydd sy’n ein harwain ni i’r gad, O’r gelyn fe gawsom ni ryddhad; Ymgrymwn ger ei fron. Ac Arglwydd Dduw dyrchafwn d’enw di, Ac Arglwydd Dduw diolchwn Am y cariad sy’n ein […]
Mawrygwn di er mwyn dy groes am gynnal tadau’r ffydd a’u tywys drwy bob cur a loes o’u rhwymau caeth yn rhydd: ti roddaist iddynt ras y nef a’r weledigaeth glir, dy Ysbryd di oedd yn eu llef wrth ddadlau hawliau’r gwir. Tydi, yr Archoffeiriad mawr, a roddaist iddynt nerth i gerdded tua thoriad gwawr […]
Mawrygwn di, O Dduw, am bob celfyddyd gain, am harddwch ffurf a llun, am bob melyster sain: ti’r hwn sy’n puro ein dyheu, bendithia gamp y rhai sy’n creu. Mawrygwn di, O Dduw, am ein treftadaeth hen, am rin y bywyd gwâr ac am drysorau llên: ti’r hwn sy’n puro ein dyheu, bendithia gamp y […]
Melys ydyw cywair ein telynau glân, am fod oriau bywyd oll yn llawn o gân; nid oes gan un plentyn hawl i fod yn drist yn y fintai ffyddlon sydd yn dilyn Crist. Hosanna! pêr Hosanna! dyrchafwn lawen lef: câr Iesu gân y galon lân, Hosanna iddo ef! Hosanna! pêr Hosanna! Hosanna! pêr […]