Pennill 1 Megis golau gwan cannwyll yn ein twyllwch ni bythol olau Duw ddaw trwy’r baban gwan Cytgan Emaniwel, Haleliwia, tyrd i’n hachub, Haleliwia. Haleliwia. Pennill 2 Sêr ac engyl gân tra bo’r byd mewn trwmgwsg hir; all gwreichionen fach roi y byd ar dân? Cytgan Pennill 3 Gloywai’i gwawl yn lân yn ein byw, […]
Mi glywaf dyner lais yn galw arnaf fi i ddod a golchi ‘meiau i gyd yn afon Calfari. Arglwydd, dyma fi ar dy alwad di, canna f’enaid yn y gwaed a gaed ar Galfarî. Yr Iesu sy’n fy ngwadd i dderbyn gyda’i saint ffydd, gobaith, cariad pur a hedd a phob rhyw nefol fraint. Yr […]
Mi glywais lais yr Iesu’n dweud, “Tyrd ataf fi yn awr, flinderog un, cei ar fy mron roi pwys dy ben i lawr.” Mi ddeuthum at yr Iesu cu yn llwythog, dan fy nghlwyf; gorffwysfa gefais ynddo ef a dedwydd, dedwydd wyf. Mi glywais lais yr Iesu’n dweud, “Mae gennyf fi yn rhad y dyfroedd […]
Mi wn mai byw yw ‘Mhrynwr gwyn – Llawenydd gaf o wybod hyn! Mae’n fyw – yr Hwn fu ar y pren; Mae’n fyw, i mi’n dragwyddol Ben; Mae’n fyw, i mi’n dragwyddol Ben. Mae’n fyw, daw gras o’i gariad Ef; Mae’n fyw i eiriol yn y nef; Mae’n fyw i borthi’m henaid gwyw; Mae’n […]
Mola Dduw, f’enaid cân, Mola Dduw, f’enaid cân, A’r cwbl ynof mola’i enw sanctaidd Ef. Mola Dduw, f’enaid cân, Mola Dduw, f’enaid cân, A’r cwbl ynof mola’i enw sanctaidd Ef. Ef yw’r Iôr, (yn Frenin brenhinoedd,) Arglwydd Iôr,(yn Frenin brenhinoedd,) Oen ein Duw, (yn Frenin brenhinoedd,) Arglwydd yw a Brenin nef. Anad. ( Bless the […]
Molaf di, o Arglwydd, Tyrd i lenwi ‘nghalon i; Molaf di, o Arglwydd, Gwrando di fy nghri; Molaf di, o Arglwydd, Codaf ddwylo fry; Molaf di, o Arglwydd Dduw. Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, Unto You, o Lord: Phil Townend Hawlfraint © 1986 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. Gan worshiptogether.com songsac eithrio DU […]
Molwch ar yr utgorn a thympan a dawns, molwch ar y nabl ac ar delyn, molwch, molwch enw yr Iôr: molwch ar y symbal llafar, molwch ar y symbal llafar, pob perchen anadl, molwch yr Iôr. Haleliwia! molwch yr Iôr, Haleliwia! molwch yr Iôr, pob perchen anadl, molwch yr Iôr. Haleliwia! molwch yr Iôr Haleliwia! […]
Molwch ef, molwch Dduw’n ei deml, Molwch ef yn ei ffurfafen gadarn. Â sain utgorn a thannau telyn, Llinnynau, ffliwt, moliannwn Dduw. Am ei fawredd molwch Ef, A’i weithredoedd nerthol. Ei drugaredd sy’n ddi-drai, Y tragwyddol Dduw. Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, Praise the Lord: David Fellingham © 1986 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ […]