O’r nef mi glywais newydd fe’m cododd ar fy nhraed – fod ffynnon wedi ei hagor i gleifion gael iachâd; fy enaid, rhed yn ebrwydd, a phaid â llwfwrhau, o’th flaen mae drws agored na ddichon neb ei gau. O Arglwydd, dwg fy ysbryd i’r ffynnon hyfryd, lân; ysgafnach fydd fy meichiau, melysach fydd fy […]
Ti Greawdwr mawr y nefoedd, mor ardderchog dy weithredoedd; ti yw Brenin creadigaeth, ti yw awdur iachawdwriaeth. Ti, O Dduw, sydd yn teyrnasu pan fo seiliau’r byd yn crynu; ti fu farw dan yr hoelion er mwyn achub dy elynion. Ti, O Dduw, sy’n pwyso’r bryniau a’r mynyddoedd mewn cloriannau; ti sy’n pwyso’r wan ochenaid […]
Wel dyma’r Ceidwad mawr a ddaeth i lawr o’r nef i achub gwaelaidd lwch y llawr – gogoniant iddo ef! Bu farw yn ein lle ni, bechaduriaid gwael; mae pob cyflawnder ynddo fe sydd arnom eisiau’i gael. Ei ‘nabod ef yn iawn yw’r bywyd llawn o hedd, a gweld ei iachawdwriaeth lawn sydd yn dragwyddol […]
Wele wrth y drws yn curo, Iesu, tegwch nef a llawr; clyw ei lais ac agor iddo, paid ag oedi funud awr; agor iddo, mae ei ruddiau fel y wawr. Parod yw i wneud ei gartref yn y galon euog, ddu a’i phrydferthu â grasusau, gwerthfawr ddoniau’r nefoedd fry; agor iddo, anghymharol Iesu cu. O […]
Y mae hapusrwydd pawb o’r byd Yn gorffwys yn dy angau drud; Hyfrytaf waith angylion fry Yw canu am fynydd Calfari. O holl weithredoedd nef yn un, Y bennaf oll oedd prynu dyn; Rhyfeddod mwyaf o bob oes Yw Iesu’n marw ar y groes! Darfydded canmol neb rhyw un, Darfydded sôn am haeddiant dyn; Darfydded […]
Yr afon a lifodd rhwng nefoedd a llawr, Yw gwraidd fy ngorfoledd a’m cysur yn awr; Calfaria roes haeddiant, Calfaria roes hedd; Calfaria sy’n cadw agoriad y bedd. Mae angau ei hunan, ei ofnau a’i loes, Mewn cadwyn gadarnaf yn rhwym wrth dy Groes; Allweddau hen uffern ddychrynllyd i gyd Sy’n hongian wrth ystlys Iachawdwr […]