Tôn: Ellers (545 Caneuon Ffydd) Pan dry atgasedd dyn at ddyn yn drais, Yr hen, y llesg a’r du ei groen heb lais, O Arglwydd, tyrd yn nes a thyrd yn glau i’n dysgu i gadw drws pob cas ar gau. Pan fydd cyffuriau caeth yn llethu dyn, na foed i’n dirmyg glwyfo’r gwael ei […]
Tyrd atom ni, O Grëwr pob goleuni, tro di ein nos yn ddydd; pâr inni weld holl lwybrau’r daith yn gloywi dan lewyrch gras a ffydd. Tyrd atom ni, O Luniwr pob rhyw harddwch, rho inni’r doniau glân; tyn ni yn ôl i afael dy hyfrydwch lle mae’r dragwyddol gân. Tyrd atom ni, Arweinydd pererinion, […]
Tyrd Ysbryd Glân, dwi dy angen di, Tyrd Ysbryd Glân, dwi dy angen di, Tyrd Ysbryd Glân â dy gariad di yn awr, yn awr. Iachâ fy mriwiau, iachâ fy nghlwyfau, Wrth imi roi fy hun yn llwyr iti, Iachâ fy mriwiau, iachâ fy nghlwyfau, Wrth iti arllwys lawr arna’ i. Cytgan: Bydd yn Arglwydd […]
Tyrd, Ysbryd cariad mawr, ymwêl â llwch y llawr, a gyr dy nerth yn dân i’m hysbryd egwan; Ddiddanydd, agosâ, fy nghalon i cryfha, a chynnau’r fflam yn hon, dy newydd drigfan. Dy gwmni, sanctaidd Un, dry nwydau meidrol ddyn yn llwch a lludw yn ei danllyd fflamau; a’th olau nerthol di fyddo f’arweinydd i […]
Tyrd, Ysbryd Glân, i’n c’lonnau ni a dod d’oleuni nefol; tydi wyt Ysbryd Crist, dy ddawn sy fawr iawn a rhagorol. Llawenydd, bywyd, cariad pur ydyw dy eglur ddoniau; dod eli i’n llygaid, fel i’th saint, ac ennaint i’n hŵynebau. Gwasgara di’n gelynion trwch a heddwch dyro inni; os t’wysog inni fydd Duw Nêr pob […]
Tyrd, Ysbryd Glân, rho d’ olau clir I’n harwain drwy yr anial dir; Fel gallom ddilyn hwnnw a roes Ei fywyd trosom ar y groes; Yna, ‘n ôl gorffen ar ein gwaith, Cael gweld ei wedd ar ben y daith. Tyrd, Ysbryd Glân, i’w casglu oll, Dy blant sy’n cyflym fynd ar goll; Oddi wrth […]
Tyrd, Ysbryd Sanctaidd, rho dy wawr, datguddia ddyfnion bethau Duw; eglura inni’r enw mawr a gwna’n heneidiau meirw’n fyw. Gad inni weld, yn d’olau di, fod Iesu’n Arglwydd ac yn Dduw, a than d’eneiniad rho i ni ei ‘nabod ef yn Geidwad gwiw. O’i weled yn d’oleuni clir cawn brofi rhin ei farwol loes a […]
Tyred Arglwydd, â’r amseroedd Y dymunwn eu mwynhau – Pur dangnefedd heb dymhestloedd, Cariad hyfryd a di-drai; Gwledd o hedd tu yma i’r bedd, Nid oes ond dy blant a’i medd. Rho i mi arwydd cryf diymod, Heb amheuaeth ynddo ddim, Pa beth bynnag fo fy eisiau, Dy fod Di yn briod im; Gweld fy […]
Tyred Iesu i’r ardaloedd, Lle teyrnasa tywyll nos; Na fod rhan o’r byd heb wybod, Am dy chwerw angau loes: Am fawr boen, addfwyn Oen, I holl gyrrau’r byd aed sôn. Aed i’r dwyrain a’r gorllewin, Aed i’r gogledd, aed i’r de, Roddi hoelion dur cadarnaf Yn ei draed a’i ddwylaw E’; Doed ynghyd eitha’r […]
Tyred, Arglwydd Iôr, i lawr; tyred yn dy gariad mawr; tyred, una ni bob un yn dy gariad pur dy hun. O llefara air yn awr, gair a dynn y nef i lawr; ninnau gydag engyl nen rown y goron ar dy ben. Yma nid oes gennym ni neb yn arglwydd ond tydi; ac ni […]