Arglwydd, rhoddaist dafod i mi Ac rwyf am dy foli di, Arglwydd, rhoddaist dafod i mi Ac rwyf am dy foli di. Arglwydd, rhoddaist dafod i mi Ac rwyf am dy foli di yn awr. O Iesu, teilwng ydwyt ti. O Iesu, teilwng ydwyt ti. Arglwydd, rhoddaist ddwylo i mi A chodaf hwy atat ti, […]
Arglwydd, fe’th addolaf di, Mae dy enw’n ddyrchafedig; Diolch am fy ngharu i, Diolch iti am ein hachub. O’r nef y daethost i’n byd i’n hachub ni, Talu’n dyled ar y groes a wnaethost ti; Dod yn fyw yn ôl o’r bedd, A dyrchafu ‘nôl i’r nef, Arglwydd fe’th addolaf di. Rick Founds Lord I […]
Arglwydd, dyma fi, Rhof fy hun yn llwyr i ti. Profais rym y gras gefais ynot ti. Ac Arglwydd, gwn yn wir ‘Bydd pob un gwendid sydd ynof fi Yn diflannu’n llwyr Trwy dy gariad a’th ras. Dal fi’n dynn, diogel yn dy gwmni. Tynn fi’n nes at dy ochr di; Â’th Ysbryd wna im […]
Arglwydd y nefoedd a’r holl fyd, Gwaredwr a Phrynwr, Arglwydd byw. Anrhydedd, gogoniant, grym a nerth I’r Un ar orsedd nef. Sanctaidd, sanctaidd; Ef sy’n deilwng, Moliant fo i Fab ein Duw. Iesu’n unig sydd yn deilwng – Gwisg gyfiawnder pur a hedd. Moliant, moliant, haleliwia, Moliant fo i’r Un sy’n fyw. Hosanna, unwn â’r […]
Arglwydd Iôr dymunwn i ti symud Drwy ein gwlad yn nerth dy Ysbryd Glân, I ddwyn cymod a maddeuant; Yn dy gariad, trugarha! Clyw ein cri, Clyw ein cri, Clyw ein cri, Tywallt dy Ysbryd ar ein gwlad. Clywn dy Ysbryd graslon yn ymsymud; Fel nerthol wynt fe chwytha dros ein gwlad, I ddwyn […]
Arglwydd ein Iôr, mor ardderchog yw d’enw di drwy’r holl ddaear. Arglwydd ein Iôr, mor ardderchog yw d’enw di drwy’r holl ddaear. Gosodaist dy ogoniant uwchlaw y nefoedd, O enau plant y peraist fawl i’th hun; Ti a roist y lloer a’r holl sêr yn eu lle, Beth yw dyn i ti fy Nuw? Beth […]
Arglwydd Dduw, tyrd i’n plith; Rho dy ras, ddwyfol wlith. Galwn nawr arnat ti – ‘Tyrd, ymwêl; rho’th nerth i ni.’ Ysbryd tyrd, rho iachâd; Rho dy hedd, a rhyddhad. Hiraeth dwfn sy’ ynom ni Am dy hedd a’th gariad di. Fe’th addolwn di, Fe’th addolwn di. Fe’th addolwn di… Cyfieithiad Cymraeg Awdurdodedig gan Arfon […]
Arglwydd Dduw trugarha, Tyrd iacha ein gwlad; Pura â’th dân, gwna ni yn lân. Yn ostyngedig galwn arnat ti; O Dduw, tyrd atom, trugarha, O Dduw, tyrd atom, trugarha, (Tro olaf) O Dduw, tyrd atom, trugarha Cyfieithiad Cymraeg Awdurdodedig: Arfon Jones. Saesneg: Lord, have mercy, Graham Kendrick © 1985 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou […]
Arglwydd Dduw, mor drugarog, Yn dy fawr gariad di. Arglwydd Dduw, roeddem feirw, Ond fe’n gwnaethost ni’n fyw gyda Christ. (Dynion) Yn fyw gyda Christ, yn fyw gyda Christ, Do fe’n cyfodaist ni gydag ef, A’n gosod ni i eistedd yn y nefoedd. Do fe’n cyfodaist ni gydag ef, A’n gosod ni i eistedd yn […]
Arglwydd Dduw dyma ni’n Deulu llon sy’n dy garu di. Dyma ni gyda’n gilydd – Gwasanaethwn di. Yma yn tŷ ni, ry’n ni am ufuddhau i Ti; Darllen dy Air bob dydd, dysgu gweddïo’n rhydd. Ni fydd yn hawdd i ni, ond fe’th ddilynwn di, Gwnawn Iesu yn rhif un, yn tŷ ni! Yn tŷ […]