logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O adfer, Dduw

O adfer, Dduw, anrhydedd d’enw drud, Dy rym brenhinol nerthol A’th fraich a sigla’r byd, Nes dod a dynion mewn parchedig ofn At y bywiol Dduw – Dy Deyrnas fydd yn para byth. O adfer, Dduw, dy enw ym mhob man, Diwygia’th eglwys heddiw Â’th dân, cod hi i’r lan. Ac yn dy ddicter, Arglwydd, […]


O’r fath dywyllwch sy’n llethu ein byd

O’r fath dywyllwch sy’n llethu ein byd – Anghyfiawnder, a gorthrwm a phoen. Gwledydd yn llithro’i anobaith mor ddwfn, Ond trodd tyrfa fawr at yr Oen. Gwelant wrthryfel drwy’r tir – Tristwch gorffwylledd ein hil. Tyrd i’n plith ni Arglwydd Iesu, Tywallt dy Ysbryd yn awr. Tyrd i’n plith ni Arglwydd Iesu, Tywallt dy Ysbryd […]


O gad im ddweud mod i’n dy garu

O gad im ddweud mod i’n dy garu, Diolch wnaf am fendithion mor ddrud; O gad im fyw yng nghysgodfa dy drugaredd, Gad im weld dy wyneb di. Boed i’r ddaear oll weld gogoniant Duw, Molwn ninnau yn unfryd ein cân. O gad im ddweud mod i’n dy garu, O fy Arglwydd, fy nghyfaill glân. […]