Nid oes gobaith i mi mwy Tra bo ‘mhechod yn rhoi clwy, Tra bo ‘nghalon heb ddim gras Ar ymffrostio yn cael blas. Sanctaidd Dad, O clyw fy llef, Rho im hiraeth am y nef, Dal fi yn y cariad drud Nes y byddwyf lân i gyd. Nid oes neb a’m deil i’r lan Tra […]
Ti, O Dduw yw’r wawr sy’n torri Ar eneidiau plant y ffydd, Mae dy ddyfod mewn maddeuant Megis hyfryd olau’r dydd; Cilia cysgod pob hudoliaeth O flaen haul datguddiad clir, Nid oes bellach un gorfoledd Ond gorfoledd glân y gwir. Ti, O Dduw yw’r cryf dihalog, Ti yw’r grym sy’n troi’n llesâd, Daw dy Ysbryd […]
Emyn priodas Seliwr cyfamodau’r ddaear Tyred i’r briodas hon, A chysegra serch y ddeuddyn A’u haddewid ger dy fron; Cadw’r heulwen yn eu calon, Cadw aur y fodrwy’n lân, Ym mhob digwydd a phob gofyn Cadw hwy rhan colli’r gân. Nawdd a tharian ein haelwydydd Ydwyt Ti, O Dad o’r nef, Rho i’r ddau a […]
O Greawdwr y goludoedd Maddau dlodi mawr ein byw, Maddau’r chwarae â chysgodion Yn lle d’arddel Di, ein Duw; Tyn ni’n rhydd o afal greulon Y sylweddau dibarhad, Crea ynom hiraeth sanctaidd Am drysorau’r nefol wlad. O Arweinydd pererinion Maddau in ein crwydro ffôl, Deillion ydym yn yr anial Wedi colli’r ffordd yn ôl; O’n […]
Melys ydyw cywair ein telynau glân, am fod oriau bywyd oll yn llawn o gân; nid oes gan un plentyn hawl i fod yn drist yn y fintai ffyddlon sydd yn dilyn Crist. Hosanna! pêr Hosanna! dyrchafwn lawen lef: câr Iesu gân y galon lân, Hosanna iddo ef! Hosanna! pêr Hosanna! Hosanna! pêr […]
O! dysg im, dirion Dad, Fy ngweddi fach a’m cân; Gwna fi yn well o ddydd i ddydd Dan rin dy fendith lân. Dy blentyn carwn fod, O! gwrando ar fy nghri; Dan wên yr haul, yn niwl y nos, Bydd di yn Dad i mi. O! rho yn awr i mi Dy fendith lawn […]
Rho inni weledigaeth ar dy frenhiniaeth di sy’n estyn o’r mynyddoedd hyd eithaf tonnau’r lli; ni fynnwn ni ymostwng, yn rhwysg ein gwamal oes ond i’th awdurdod sanctaidd a chyfraith Crist a’i groes. Gwisg wisgoedd dy ogoniant sy’n harddach fil na’r wawr, a thyred i feddiannu dy etifeddiaeth fawr; a thywys, o’th dosturi, dylwythau’r ddaear […]
Dyrchafwn ganiad newydd, O Arglwydd, ger dy fron am dy amddiffyn grasol i’r demel annwyl hon: deisyfwn unwaith eto am olwg ar dy wedd lle buost drwy’r blynyddoedd yn rhoi o rin dy hedd. Bu’n tadau gynt yn dyfod o bellter bro a bryn i blygu mewn addoliad o fewn i’r muriau hyn: datguddiaist iddynt […]
Deui atom yn ein gwendid gan ein codi ar ein traed, drwy dy Ysbryd, drwy dy bobol, sefyll yr wyt ti o’n plaid. Deui atom yn ein trallod gyda chysur yn dy lais, drwy dy Ysbryd, drwy dy bobol, parod wyt i wrando’n cais. Deui atom mewn cymdogion am it weld ein lludded ni: ti […]
O, nid golud a geisiaf Ar y ddaear, fy Nuw, Ond cael sicrwydd yr haeddaf Ddod i’r nefoedd i fyw. Yng nghofnodion dy deyrnas, Ar y ddalen wen fawr, Dywed Iesu, fy Ngheidwad, A yw f’enw i lawr? A yw f’enw i lawr Ar y ddalen wen fawr? Yng nghofnodion dy deyrnas, A yw f’enw […]