Ar ôl atgyfodiad Iesu, Treuliodd amser yn y byd Gyda’i ffrindiau a’u haddysgu Am y cariad mwyaf drud. Soniodd wrthynt bod ‘na helfa Ym mysg dynion gwlad a thref, A bod Duw am rannu iddynt Holl fendithion mwya’r nef. Cyn i’r Ysbryd Glân ymddangos Megis cyffro’r nefol dân I rhoi grym yr argyhoeddiad Ac eneiniad […]
Ti, Arglwydd, fu’n dywysydd ar hyd blynyddoedd oes, yn gwmni ac yn gysur, a’th ysgwydd dan ein croes: diolchwn am bob bendith fu’n gymorth ar y daith, anoga ni o’r newydd i aros yn dy waith. Wrth gofio y gorffennol a datblygiadau dyn, rhyfeloedd a rhyferthwy y dyddiau llwm a blin, clodforwn di, O Arglwydd, […]
O tyred, raslon angel Duw, cynhyrfa’r dyfroedd hyn lle’r erys gwywedigion bro amdanat wrth y llyn: ni feddwn neb i’n bwrw i’r dŵr i’n golchi a’n hiacháu; tydi yn unig fedd y grym, O tyred, mae’n hwyrhau. Yn nhŷ trugaredd aros wnawn a hiraeth dan bob bron am nad oes cyffro yn y llyn nac […]
Anwylaf Grist, dy sanctaidd ben dan ddrain fu drosof fi; dy fendith tywallt ar fy mhen im feddwl drosot ti. Anwylaf Grist, dy ddwylo gwyn a hoeliwyd drosof fi; dy fendith ar fy nwylo boed i weithio drosot ti. Anwylaf Grist, dy sanctaidd draed a hoeliwyd drosof fi; dy fendith tywallt ar fy nhraed fel […]
Crist sydd yn Frenin, llawenhawn; gyfeillion, dewch â moliant llawn, mynegwch ei anhraethol ddawn. O glychau, cenwch iddo ef soniarus ganiad hyd y nef, cydunwn yn yr anthem gref. Mawrhewch yr Arglwydd, eiliwch gân, cenwch yr anthem loyw, lân i seintiau Crist a aeth o’n blaen; canlyn y Brenin wnaent yn rhydd ac ennill miloedd […]
Rhoddwn glod i’th enw tirion, Arglwydd mawr nef a llawr, derbyn fawl dy weision. Yn ein gwlad a’n hen dreftadaeth llawenhawn, ynddi cawn hyfryd etifeddiaeth. Yn dy air yn iaith ein tadau rhoist i ni uchel fri, trysor uwch trysorau. Mae dy air yn llusern olau ar ein taith yn dy waith: dengys y ffordd […]
Mi benderfynais i ddilyn Iesu, mi benderfynais i ddilyn Iesu, mi benderfynais i ddilyn Iesu, heb droi yn ôl, heb droi yn ôl. Y byd o’m cefn a’r groes i’m harwain, y byd o’m cefn a’r groes i’m harwain, y byd o’m cefn a’r groes i’m harwain, heb droi yn ôl, heb droi yn ôl. […]
Duw fo yn fy mhen ac yn fy ymresymiad; Duw fo yn fy nhrem ac yn f’edrychiad; Duw fo yn fy ngair ac yn fy siarad; Duw fo yn fy mron ac yn fy nirnad; Duw ar ben fy nhaith, ar fy ymadawiad. HORE BEATE MARIE VIRGINIS, 1514 cyf. R. GLYNDWR WILLIAMS © Mrs Mair […]
Torrwn fara ar ein gliniau yn gytûn, torrwn fara ar ein gliniau yn gytûn, a phan rof fy ngliniau i lawr gan wynebu haul y wawr, O Dduw, bydd drugarog wrthyf fi. Yfwn win ar ein gliniau yn gytûn, yfwn win ar ein gliniau yn gytûn, a phan rof fy ngliniau i lawr gan wynebu […]
Ar ddydd ein bedydd gwnaethpwyd ni yn rhan o deulu dinas Duw; croesawyd ni i gorlan Crist, ac ef yw’n Bugail da a’n llyw. Ar ddydd ein bedydd galwyd ni yn blant y Tad a’i gariad ef, aelodau byw am byth i Grist ac etifeddion teyrnas nef. Ar ddydd ein bedydd rhwymwyd ni i gefnu […]