Nid oes enw gwell na Iesu, enw’r hwn sydd yn gwaredu, deuwn ato yn un teulu, plygwn iddo ef. Deued ato blant y gwledydd, iddynt hwy y mae’n arweinydd, dilyn Iesu sy’n llawenydd, O canlynwn ef. Bydded i bobol pob gwlad a thref godi eu lleisiau yn llon eu llef, chwydded y gân gan dyrfa […]
Ti yr hwn sy’n fôr o gariad ac yn galon fwy na’r byd, ar y ddau a blethodd gwlwm boed dy fendith di o hyd: bydd yn gwmni yn eu hymyl, bydd yn gysgod drwy eu hoes, ac ar lwybrau dyrys bywyd nertha’r ddau i barchu’r groes. Yn yr haul ac yn yr awel pan […]
Agor di ein llygaid, Arglwydd, i weld angen mawr y byd, gweld y gofyn sy’n ein hymyl, gweld y dioddef draw o hyd: maddau inni bob dallineb sydd yn rhwystro grym dy ras, a’r anghofrwydd sy’n ein llethu wrth fwynhau ein bywyd bras. Agor di ein meddwl, Arglwydd, er mwyn dirnad beth sy’n bod, gweld […]
Dysg imi garu Cymru, ei thir a’i broydd mwyn, rho help im fod yn ffyddlon bob amser er ei mwyn; O dysg i mi drysori ei hiaith a’i llên a’i chân fel na bo dim yn llygru yr etifeddiaeth lân. Dysg imi garu cyd-ddyn heb gadw dim yn ôl, heb ildio i amheuon nac unrhyw […]
Mawrygwn di, O Dduw, am bob celfyddyd gain, am harddwch ffurf a llun, am bob melyster sain: ti’r hwn sy’n puro ein dyheu, bendithia gamp y rhai sy’n creu. Mawrygwn di, O Dduw, am ein treftadaeth hen, am rin y bywyd gwâr ac am drysorau llên: ti’r hwn sy’n puro ein dyheu, bendithia gamp y […]
Bydd gyda ni, O Iesu da, sancteiddia ein cymdeithas; glanha’n meddyliau, pura’n moes er mwyn dy groes a’th deyrnas. O arwain ni ar ddechrau’r daith, mewn gwaith ac ymhob mwyniant, fel bo’n gweithredoedd ni bob un i ti dy hun yn foliant. Gwna’n bywyd oll yn ddi-ystaen, boed arno raen gwirionedd; gwna’n bro gan drugareddau’n […]
Mae’r gaeaf ar fy ysbryd, O Dad o’r nef, ‘rwy’n erfyn am dy wanwyn, erglyw fy llef; O achub fi rhag oerfel fy mhechod cas a dwg fi i gynhesrwydd dy nefol ras. Mae’r byd yn llanw ‘nghalon, drugarog Dduw, ‘rwy’n erfyn am dy Ysbryd, fy ngweddi clyw; lladd ynof bob dyhead sy’n llygru ‘mryd, […]
(Pantyfedwen) Tydi a wnaeth y wyrth, O Grist, Fab Duw, tydi a roddaist imi flas ar fyw: fe gydiaist ynof drwy dy Ysbryd Glân, ni allaf tra bwyf byw ond canu’r gân; ‘rwyf heddiw’n gweld yr harddwch sy’n parhau, ‘rwy’n teimlo’r ddwyfol ias sy’n bywiocáu; mae’r Haleliwia yn fy enaid i, a rhoddaf, Iesu, fy […]
Brwydra bob dydd, cryfha dy ffydd Crist yw dy nerth i gario’r dydd; mentra di fyw a chei gan Dduw goron llawenydd, gwerthfawr yw. Rhed yrfa gref drwy ras y nef, cod olwg fry i’w weled ef; bywyd a’i her sydd iti’n dod Crist yw y ffordd, a Christ yw’r nod. Rho heibio nawr dy […]
Tra bo adduned dau heb golli lliwiau’r wawr a’n cymod yn parhau o hyd yn drysor mawr, O Dduw ein Iôr, rho inni ffydd i gadw’r naws o ddydd i ddydd. Tra bo anturiaeth serch yn llawn o’r gobaith glân, a delfryd mab a merch yn troi yn felys gân, rho help i ni, O […]