logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Deuwch i ganu, deuwch i foli

Deuwch i ganu, deuwch i foli y Ceidwad a’n carodd ni; plant bach y byd sy’n ei ddyled o hyd, mae ef yn ein caru i gyd. Tosturio wnaeth wrth bawb yn ddiwahân, rhown iddo ein moliant a’n cân, deuwch i ganu, deuwch i foli am iddo ein caru ni. Deuwch i ganu, deuwch i […]

  • Gwenda Jenkins,
  • April 27, 2015

Deuaf atat Iesu

Deuaf atat Iesu, cyfaill plant wyt ti; ti sydd yn teilyngu mawl un bach fel fi. Deuaf atat, Iesu, gyda’r bore wawr; ceisio wnaf dy gwmni ar hyd llwybrau’r llawr Deuaf atat, Iesu, gyda hwyr y dydd; drosof pan wy’n cysgu dy amddiffyn fydd. Deuaf atat, Iesu, ar bob awr o’m hoes; ti yn unig […]


Rwy’n troi fy ŵyneb, Iesu da,

‘Rwy’n troi fy ŵyneb, Iesu da, o bobman atat ti, ym merw blin y byd a’i bla dy wedd sy’n hedd i mi; ni chefais, naddo, mewn un man un balm i’m calon drist nac enw swyna f’enaid gwan ond enw Iesu Grist. ‘Rwyt ti i mi yn gadarn dŵr ym merw mawr y byd; […]

  • Gwenda Jenkins,
  • April 27, 2015

O rho dy fendith, nefol Dad

O rho dy fendith, nefol Dad, ar holl genhedloedd byd, i ddifa’r ofnau ymhob gwlad sy’n tarfu hedd o hyd; rhag dial gwyllt, rhag dyfais dyn, mewn cariad cadw ni a dyro inni’r ffydd a lŷn wrth dy gyfiawnder di. Rho i wirionedd heol glir drwy ddryswch blin yr oes, a chluded ffyrdd y môr […]

  • Gwenda Jenkins,
  • April 27, 2015

Bendithia’r Arglwydd, fy enaid i (Salm 103)

Bendithia’r Arglwydd, fy enaid i, bendithia’r Arglwydd, fy enaid i, bendithia’r Arglwydd, fy enaid i. SALM 103:1 addas. MEURIG THOMAS (Caneuon Ffydd 233)

  • Gwenda Jenkins,
  • April 27, 2015

Arglwydd, rho im glywed

Arglwydd, rho im glywed sŵn dy eiriau glân, geiriau pur y bywyd, geiriau’r tafod tân. Pan fo dadwrdd daear bron â’m drysu i rho i’m henaid glywed sŵn dy eiriau di. Uwch tymhestlog donnau môr fy einioes flin dwed y gair sy’n dofi pob ystormus hin. A phan grwydro ‘nghalon ar afradlon daith dwed y […]

  • Gwenda Jenkins,
  • April 27, 2015

Clodforwn di, O Arglwydd Dduw

Clodforwn di, O Arglwydd Dduw, Crëwr a noddwr pob peth byw, dy enw mawr goruchel yw: Haleliwia! Arnat, O Arglwydd, rhown ein bryd, moliannwn byth dy gariad drud, dy babell yw ein noddfa glyd: Haleliwia! Diolchwn am dy ddwyfol loes, mawrygwn rinwedd angau’r groes, bendithiwn di holl ddyddiau’n hoes: Haleliwia! Addolwn fyth dy enw mawr, […]

  • Gwenda Jenkins,
  • April 27, 2015

Arglwydd mawr y nef a’r ddaear

Arglwydd mawr y nef a’r ddaear, ffynnon golud pawb o hyd, arnat ti dibynna’r cread, d’ofal di sy’n dal y byd; am gysuron a bendithion, cysgod nos a heulwen dydd, derbyn ddiolch, derbyn foliant am ddaioni rhad a rhydd. Pan ddeffrown ni yn y bore, Cychwyn rhedeg gyrfa oes, Bydd yn gwmni ac arweinydd Ar […]


O Dduw, ein nerth mewn oesoedd gynt

O Dduw, ein nerth mewn oesoedd gynt, ein gobaith am a ddaw, ein lloches rhag ystormus wynt a’n bythol gartref draw. Cyn llunio’r bryniau o un rhyw, cyn gosod seiliau’r byd, o dragwyddoldeb ti wyt Dduw, parhei yr un o hyd. Mil o flynyddoedd iti sydd fel doe pan ddêl i ben neu wyliadwriaeth cyn […]


Laudate omnes gentes

Laudate omnes gentes, laudate Dominum; laudate omnes gentes, laudate Dominum. Canmolwch enw’r Arglwydd, holl bobloedd daear lawr; canmolwch enw’r Arglwydd, holl bobloedd daear lawr. CYMUNED TAIZÉ cyf. MAWL AC ADDOLIAD, 1996 (Caneuon Ffydd 59)

  • Gwenda Jenkins,
  • April 27, 2015