O aros gyda mi, y mae’n hwyrhau; tywyllwch, Arglwydd, sydd o’m deutu’n cau: pan gilia pob cynhorthwy O bydd di, cynhorthwy pawb, yn aros gyda mi. Cyflym ymgilia dydd ein bywyd brau, llawenydd, mawredd daear sy’n pellhau; newid a darfod y mae’r byd a’i fri: O’r Digyfnewid, aros gyda mi. Nid fel ymdeithydd, Arglwydd, ar […]
Gwna fi fel pren planedig, O fy Nuw, yn ir ar lan afonydd dyfroedd byw, yn gwreiddio ar led, a’i ddail heb wywo mwy, yn ffrwytho dan gawodydd dwyfol glwy’. Gad imi fyw, ynghanol pob rhyw bla, dan gysgod clyd adenydd Iesu da; a’m tegwch gwir fel olewydden wiw o blaniad teg daionus Ysbryd Duw. […]
Mae arnaf eisiau sêl i’m cymell at dy waith, ac nid rhag ofn y gosb a ddêl nac am y wobor chwaith, ond gwir ddymuniad llawn dyrchafu cyfiawn glod am iti wrthyf drugarhau ac edrych arna’i erioed. CHARLES WESLEY 1707- 91 efel. DAFYDD JONES. 1711-77 (Caneuon Ffydd 752)
Adenydd colomen pe cawn, ehedwn a chrwydrwn ymhell, i gopa bryn Nebo mi awn i olwg ardaloedd sydd well; a’m llygaid tu arall i’r dŵr, mi dreuliwn fy nyddiau i ben mewn hiraeth am weled y Gŵr fu farw dan hoelion ar bren. ‘Rwy’n tynnu tuag ochor y dŵr, bron gadael yr anial yn lân; […]
Ymlaen af dros wastad a serth ar lwybrau ewyllys fy Nhad, a llusern ei air rydd im nerth i ddiffodd pob bygwth a brad; daw yntau ei hun ar y daith i’m cynnal o’i ras di-ben-draw, a hyd nes cyflawni fy ngwaith fe gydiaf, drwy ffydd, yn ei law. Ymlaen af â’m hyder yn Nuw […]
Mae ffrydiau ‘ngorfoledd yn tarddu o ddisglair orseddfainc y ne’, ac yno’r esgynnodd fy Iesu ac yno yr eiriol efe: y gwaed a fodlonodd gyfiawnder, daenellwyd ar orsedd ein Duw, sydd yno yn beraidd yn erfyn i ni, y troseddwyr, gael byw. Cawn esgyn o’r dyrys anialwch i’r beraidd baradwys i fyw, ein henaid lluddedig […]
Dilynaf fy Mugail drwy f’oes, er amarch a gw’radwydd y byd; a dygaf ei ddirmyg a’i groes, gan dynnu i’r nefoedd o hyd; mi rodiaf, drwy gymorth ei ras, y llwybyr a gerddodd efe; nid rhyfedd os gwawdir y gwas, cans gwawd gafodd Arglwydd y ne’. Nid oes arnaf g’wilydd o’i groes – ei groes […]
Iesu tirion, edrych arnaf mewn iselder, poen a chur, dyro im dy ddwyfol Ysbryd a’i ddiddanwch sanctaidd, pur; pan wyt ti yn rhoi dy ŵyneb y mae llewyrch yn dy wedd sy’n gwasgaru pob amheuaeth ac yn trechu ofnau’r bedd. Edrych arnaf mewn tosturi pan fo cysur byd yn ffoi; yng nghyfyngder profedigaeth atat ti […]
Arglwydd Iesu, arwain f’enaid at y graig sydd uwch na mi, craig safadwy mewn tymhestloedd, craig a ddeil yng ngrym y lli; llechu wnaf yng nghraig yr oesoedd, deued dilyw, deued tân, a phan chwalo’r greadigaeth craig yr oesoedd fydd fy nghân. Pan fo creigiau’r byd yn rhwygo yn rhyferthwy’r farn a ddaw, stormydd creulon […]
O fy Iesu bendigedig, unig gwmni f’enaid gwan, ymhob adfyd a thrallodion dal fy ysbryd llesg i’r lan; a thra’m teflir yma ac acw ar anwadal donnau’r byd cymorth rho i ddal fy ngafael ynot ti, sy’r un o hyd. Rhof fy nhroed y fan a fynnwyf ar sigledig bethau’r byd, ysgwyd mae y tir […]