Bugail Israel sydd ofalus am ei dyner annwyl ŵyn; mae’n eu galw yn groesawus ac yn eu cofleidio’n fwyn. “Gadwch iddynt ddyfod ataf, ac na rwystrwch hwynt,” medd ef, “etifeddiaeth lân hyfrytaf i’r fath rai yw teyrnas nef.” Dewch blant bychain dewch at Iesu ceisiwch ŵyneb Brenin nef; hoff eich gweled yn dynesu i’ch bendithio […]
Nesawn, nesawn mewn myfyrdodau pur at fwrdd ein Harglwydd i gydgofio’i gur; a rhoed y Brenin mawr ar hyn o bryd ei ŵyneb hoff tra byddom yma ‘nghyd. O am gael ffydd i gydfwynhau y wledd; ‘does un o’i bath i’w chael tu yma i’r bedd; y cariad mawr a unodd Dduw a dyn sydd […]
Rho in gofio angau Iesu gyda diolchiadau llawn, a chael derbyn o rinweddau maith ei wir, achubol Iawn; bwyta’i gnawd drwy ffydd ddiffuant, yfed gwaed ei galon friw, byw a marw yn ei heddwch: O’r fath wir ddedwyddwch yw. Addfwyn Iesu, dangos yma ar dy fwrdd d’ogoniant mawr, megis gynt wrth dorri bara ymddatguddia inni […]
Gyda’r saint anturiais nesu dan fy maich at allor Duw: bwrdd i borthi’r tlawd, newynog, bwrdd i nerthu’r egwan yw; cefais yno megis gyffwrdd, corff drylliedig Iesu glân, yn y fan fe doddai ‘nghalon fel y cwyr o flaen y tân. O fy Iesu bendigedig, golwg iawn ar waed dy groes sydd yn toddi’r mawr […]
O Arglwydd nef a daear, ymgeledd teulu’r llawr, tywynned haul dy fendith i’th blant sydd yma nawr; dy sêl rho i’w haddewid a’u haddunedau gwir a gwna holl daith eu bywyd yn ffordd i’r nefol dir. Dan wenau dy ragluniaeth gad iddynt fyw’n gytûn a chaffael diogelwch yn d’ymyl di dy hun; amddiffyn hwy a’u […]
Mi welaf ym medydd fy Arglwydd ogoniant gwir grefydd y groes, y claddu a’r codi’n Dduw cadarn ‘r ôl gorffen ei lafur a’i loes: mae’n ddarlun o angau’r Cyfryngwr a dyfnder ei drallod a’i boen; mae Seion yn cadw’r portread i gofio am gariad yr Oen. ALLTUD GLYN MAELOR, 1800-81 (Caneuon Ffydd 650)
Arglwydd, anfon o’r uchelder nerth yr Ysbryd ar dy was; gwisg ei fywyd â’th gyfiawnder, llanw’i galon ef â’th ras; dyro i lawr iddo nawr olud dy addewid fawr. Dyro iddo dy oleuni i gyflawni gwaith ei oes; arddel di ei genadwri i gael dynion at y groes; Frenin nef, rho dy lef ddwyfol yn […]
Iôr y nef, ymwêl â’r ddaear, edrych ar y maes, y byd: byd a greaist, gofiaist, geraist, brynaist yn yr aberth drud; anfon, Arglwydd, weithwyr i’r cynhaeaf mawr. Ti, a roddodd air y deyrnas, gair y bywyd, gair dy ras, rho dy fendith ar yr heuwr, llwydda law dy waelaf was: arddel, Arglwydd, weithwyr y […]
O am nerth i ddilyn Iesu yn ein gyrfa drwy y byd, cadw’i air ac anrhydeddu ei orchmynion glân i gyd; dilyn Iesu, dyma nefoedd teulu Duw. Cafodd bedydd fawredd bythol yn ei ymostyngiad llawn, ninnau, ar ei air, yn wrol ar ei ôl drwy’r dyfroedd awn; dilyn Iesu, dyma nefoedd teulu Duw. Er bod […]
Rho dy ŵyneb gyda’th gennad, Arglwydd gweision yr holl fyd; boed ei feddwl ar dy gariad, boed dy air yn llenwi’i fryd; rho d’arweiniad iddo ef a’r praidd ynghyd. Heb dy allu bydd yn egwan, heb d’oleuni, crwydro bydd; iddo rho dy gyngor cyfan, gad i’r seliau ddod yn rhydd; Iesu’i hunan fyddo’i destun nos […]