Dyrchafaf glod i’r Arglwydd Dduw; Moliannu wnaf tra byddaf byw. Teyrnasu mae Efe mewn moliant yn y nef; Mawrygaf Iesu, yr Arglwydd Dduw. Cyfieithiad Cymraeg Awdurdodedig: Meri Davies (All Hail the Lamb gan Dave Bilbrough) Hawlfraint © 1987 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. […]
O Dad fe’th garwn, Addolwn, gogoneddwn, Molwn d’enw Di drwy’r byd i gyd. Molwn d’enw Di, Molwn d’enw Di, Molwn d’enw Di drwy’r byd i gyd. lesu, fe’th garwn … (ayb.) Ysbryd, fe’th garwn…(ayb.) Donna Adkins, (Father we love you), cyf. Catrin Alun Hawlfraint © Maranatha! Music/ Word Music (UK) 1976, 1981 Gwein. […]
Mae’n ddyrchafedig, Y Brenin goruchaf yw Ef, Fe’i haddolaf. Mae’n ddyrchafedig, Y Brenin tragwyddol, Fe’i molaf Ef byth mwy! Ef yw fy Nuw, Fe saif ei wirionedd mwy. Daear a nef Gydganant ei foliant Ef. Mae’n ddyrchafedig, Y Brenin goruchaf yw Ef! Twila Paris, He is exalted; cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones © Straightway Music/Word Music (UK) 1985 […]
Dyma fi, rhoddaf fy hun yn llwyr, Cymer fi i’th was’naethu di. Dyma fi, rhoddaf fy hun yn llwyr, Cymer fi i’th was’naethu di. Cynhaeaf mawr sydd o’n cwmpas, Ond o, y gweithwyr sydd mor brin. Defnyddia fi yn awr yng ngwaith dy Deyrnas I alw eraill atat dy hun. Mae’n bryd i ni alw […]
Cerddodd lle cerddaf fi, Safodd lle safaf fi, Teimiodd fel teimlaf fi, Fe glyw fy nghri. Gŵyr am fy ngwendid i, Rhannodd fy natur i, Fe’i temtiwyd ym mhob ffordd, Heb lithro dim. Duw gyda ni, Duw ynom ni, Rhydd nerth i ni, Emaniwel! Dioddefodd wawd ei hil, Sen a rhagfarnau fil, Lladdwyd yr un […]
Fe’i harchollwyd am ein troseddau, A thros ein hanwireddau ni; Pris ein heddwch ni roddwyd arno, A chawsom ni lwyr iachad. Fe’i harweiniwyd ef i’r lladdfa, Cymerodd ef ein beiau ni; Ac o dir y byw fe’i torrwyd, Yr un di-fai drosom ni. Crwydro wnaethom ni bob un, Aethom bawb i’w ffordd ei hun, Ac […]
Fe roddwyd mab – Rhyfeddol ydyw Ef; Fe roddwyd mab – Cynghorwr dae’r a nef; Y Cadarn Dduw, Tad Tragwyddoldeb ydyw, Tywysog Hedd, oleua nef y nef. Y Cadarn Dduw, Tad Tragwyddoldeb ydyw, Tywysog Hedd, oleua nef y nef. (Geiriau eraill ar yr un dôn – ‘Dros Gymru’n Gwlad’ – Lewis Valentine) anad. cyf. Arfon […]