Pan ddryso llwybrau f’oes, a’m tynnu yma a thraw, a goleuadau’r byd yn diffodd ar bob llaw, rho glywed sŵn dy lais a gweld dy gadarn wedd yn agor imi ffordd o obaith ac o hedd. Pan ruo storom ddu euogrwydd dan fy mron, a Satan yn ei raib yn trawsfeddiannu hon, O tyn y […]
(Tôn: Caryl, Rhys Jones) Pan dorro’r wawr dros ael y mynydd llwm, pan euro’r haul las erwau llawr y cwm, pan byncia’r adar gân yn gynnar gôr mi ganaf innau fawl i’r Arglwydd Iôr. Pan welaf wên ar wedd blodeuyn hardd, pan welaf wyrth aeddfedrwydd ffrwythau’r ardd, pan glywaf su aur donnau’r meysydd ŷd mi […]
Pan dwi’n mynd ar fy ffordd yn y bore bach, pan dwi’n mynd ar fy ffordd yn y p’nawn, pan dwi’n mynd ar fy ffordd, pan mae’n nosi’n braf, Rydw i’n gwybod fod hyn yn iawn. Duw sy’n fy ngharu, beth bynnag a wnaf, Duw sy’n gofalu, ble bynnag yr af. Duw sydd yn gwybod […]
Pan edrychaf gyda’r sanctaidd lu, A phan syllaf ar dy harddwch di. Pan mae popeth o’m cylch Megis cysgod yn d’oleuni pur. Pan ymgollaf yn dy gariad a’th ras, A’m hewyllys mwy ynghlwm wrthyt ti, Pan mae popeth o’m cylch Megis cysgod yn d’oleuni pur. Addolaf di, Addolaf di, Fy mywyd i yw cael d’addoli […]
Pan edrychaf i’r nefoedd Ar waith dy ddwylo Di, Gwelaf y lleuad a’r sêr – Gwaith dy fysedd ydynt oll; Ond fe’n ceraist ni gyda gras mor ddwfn; O, Iôr, mor fawr wyt ti! Plant sy’n canu dy glodydd, A’r gelyn sydd yn ffoi; Iôr mae dy enw mor nerthol, Rhyfeddol yw yn awr; Ond […]
Pan fo’n blynyddoedd ni’n byrhau, pan fo’r cysgodion draw’n dyfnhau, tydi, yr unig un a ŵyr, rho olau’r haul ym mrig yr hwyr. Er gwaeled fu a wnaethom ni ar hyd ein hoes a’i helynt hi, er crwydro ffôl ar lwybrau gŵyr, rho di drugaredd gyda’r hwyr. Na chofia’n mawr wendidau mwy, a maint eu […]
Pan fwy’n cerdded drwy’r cysgodion, pwyso ar dy air a wnaf, ac er gwaethaf fy amheuon buddugoliaeth gyflawn gaf. Dim ond imi dawel aros golau geir ar bethau cudd; melys fydd trallodion hirnos pan geir arnynt olau’r dydd. Ac os egwan yw fy llygad, digon i mi gofio hyn: hollalluog yw dy gariad, fe wna […]
Pan fwy’n cydio’n dynn yng ngodre gwisg fy Arglwydd Grist, fe lifa nerth i’m hysbryd llesg: ‘rwy’n dy garu, Iôr. Pan fwy’n torri blwch yr ennaint gwerthfawr dros dy ben rhof it fy oll, rhof it fy hun: ‘rwy’n dy garu, Iôr. Hywel M. Griffiths © Siân Griffiths. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
Pan fwy’n myned drwy Iorddonen, Angau creulon yn ei rym, Aethost drwyddi gynt dy hunan, Pam yr ofnanf bellach ddim? Buddugoliaeth! Gwna i mi weiddi yn y llif. Ymddiriedaf yn dy allu, Mawr yw’r gwaith a wnest erioed; Ti gest angau, Ti gest uffern, Ti gest Satan dan dy droed: Pan Calfaria, Nac aed hwnnw […]
Pan fwy’n teimlo ôl dy law ar greithiau ‘mywyd i, fe dardd y gân o dan fy mron: ‘rwy’n dy garu, Iôr. Ac yn ddwfn o’m mewn mae f’enaid yn d’addoli di, ti yw fy Mrawd, ti yw fy Nuw, ac fe’th garaf, Iôr. KERI JONES a DAVID MATTHEWS (When I feel the touch) […]