Ti, Arglwydd, fu’n dywysydd ar hyd blynyddoedd oes, yn gwmni ac yn gysur, a’th ysgwydd dan ein croes: diolchwn am bob bendith fu’n gymorth ar y daith, anoga ni o’r newydd i aros yn dy waith. Wrth gofio y gorffennol a datblygiadau dyn, rhyfeloedd a rhyferthwy y dyddiau llwm a blin, clodforwn di, O Arglwydd, […]
Ti, Farnwr byw a meirw Sydd ag allweddau’r bedd, Terfynau eitha’r ddaear Sy’n disgwyl am Dy hedd. ‘D yw gras i Ti ond gronyn, Mae gras, ar hyn o bryd, Ryw filoedd maith o weithiau I mi yn well na’r byd. O flaen y fainc rhaid sefyll, Ie, sefyll cyn bo hir; Nid oes a’m […]
Ti, Iesu, frenin nef, F’anwylyd i a’m Duw! Yn eithaf pell o dŷ fy Nhad, Mewn anial wlad, ‘rwy’n byw. Mewn ofnau rwyf a braw, Bob llaw gelynion sydd; O! addfwyn Iesu, saf o’m rhan, A thyn y gwan yn rhydd. Mae rhinwedd yn dy waed I faddau beiau mwy Nag y gall angel chwaith […]
Ti, Iesu, ydwyt, oll Dy Hun Fy meddiant ar y llawr; A Thi dy Hunan fydd fy oll O fewn i’r nefoedd fawr. Mae ‘nymuniadau maith eu hyd Yn pwyntio oll yn un, Dros bob gwrthrychau is y sêr, Ac atat Ti dy Hun. O! ffynnon trugareddau maith! Diderfyn yw dy ras, I roi trysorau […]
Ti, O Dduw yw’r wawr sy’n torri Ar eneidiau plant y ffydd, Mae dy ddyfod mewn maddeuant Megis hyfryd olau’r dydd; Cilia cysgod pob hudoliaeth O flaen haul datguddiad clir, Nid oes bellach un gorfoledd Ond gorfoledd glân y gwir. Ti, O Dduw yw’r cryf dihalog, Ti yw’r grym sy’n troi’n llesâd, Daw dy Ysbryd […]
Ti, o Dduw, biau’r mawredd, A’r holl allu a’r gogoniant, Ti, o Dduw, biau’r fuddugoliaeth, Brenin y brenhinoedd wyt. Eiddot ti yw popeth drwy’r ddaear a’r nef, Ymddyrchefaist ti Dduw goruwch popeth sydd! Yn dy law mae nerth a chadernid hyd byth, Yn dy law mae’r gallu i roi cryfder i’n. Daeth ein hiachawdwriaeth, i […]
Ti, O Dduw, foliannwn am dy ddoniau rhad, mawr yw d’ofal tyner drosom, dirion Dad; llawn yw’r ddaear eto o’th drugaredd lân, llawn yw’n calon ninnau o ddiolchgar gân. Ni sy’n trin y meysydd, ni sy’n hau yr had, tithau sy’n rhoi’r cynnydd yn dy gariad rhad; doniau dy ragluniaeth inni’n gyson ddaw; storfa’r greadigaeth […]
Ti’n dweud “tyrd,” Ti yw Arglwydd y nefoedd; Ti’n dweud “tyrd” wrth blentyn euog fel fi; Ti’n dweud “tyrd” a dwi’n cuddio rhag dy wyneb ond rwyt Ti’n dal i alw, ac felly dwi’n dod. Wna i godi a rhedeg i fod yn dy gwmni i dderbyn dy faddeuant sy di brynu i mi; Mi […]
Ti’n rhoi i mi statws a gwerth, Ti’n rhoi i mi awdurdod a nerth, Ti’n dangos pwy ydw i – Rydw i’n blentyn i Ti. Ti’n rhoi i mi dy gyfiawnder mwyn, Ti’n rhoi i mi dy fywyd yn llwyr, Ti’n eiddo i mi fy hun, Rydw i’n eiddo i Ti. Dwi’n plygu glin i’th […]
Todda fy nghalon, Todda hi’n llwyr. O ddifaterwch, Glanha fi’n llwyr. I brofi’th dosturi, A’th ddagrau fel lli. Tyrd, todda fy nghalon i, Todda hi’n llwyr. Graham Kendrick: Soften my heart, cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones © 1988 Make Way Music,. Sicrhawyd Hawlfraint Rhyngwladol. Cedwir pob hawl. Cyfieithiad Awdurdodedig © 1991 Make Way Music. Defnyddir trwy […]