I orwedd mewn preseb rhoed Crëwr y byd, nid oedd ar ei gyfer na gwely na chrud; y sêr oedd yn syllu ar dlws faban Mair yn cysgu yn dawel ar wely o wair. A’r gwartheg yn brefu, y baban ddeffroes, nid ofnodd, cans gwyddai na phrofai un loes. ‘Rwyf, Iesu, ‘n dy garu, O […]
I ti dymunwn fyw, O Iesu da, ar lwybrau esmwyth oes, dan heulwen ha’: neu os daw’r niwl i guddio’r wybren las na ad i’m hofnau atal gwaith dy ras. Yn fwy bob dydd i ti dymunwn fyw gan wneud dy waith yn well, gwaith engyl yw; a gad i mi, wrth ddringo’u hysgol hwy, […]
I ti fe roddwyd yr enw mwyaf, Ac addolwn di, ie, addolwn di. I ti fe roddwyd yr enw mwyaf, Ac addolwn di, Ie, addolwn di. Ni yw dy bobl, ry’m yma i’th foli, Ac addolwn di, ac addolwn di. Ni yw dy bobl, ry’m yma i’th foli, Ac addolwn di, Ie, addolwn di. Prynaist […]
I ti, O Dad addfwynaf, fy ngweddi a gyflwynaf yn awr ar derfyn dydd: O derbyn di fy nghalon, mewn hawddfyd a threialon yn gysgod bythol imi bydd. Pob gras tydi a feddi i wrando ar fy ngweddi, clyw nawr fy llef, O Dad; na chofia fy ffaeleddau, a maddau fy nghamweddau, dy fendith, Arglwydd, […]
I ti, o Dad, fe roddwn ein clod, Ti yw ein craig, O! ein Duw. Na foed i ni fyth gefnu arnat, Na foed i’r gelyn fyth ein gorchfygu ni. Byth ni ddiffygia y sawl A bwysa mewn ffydd ’not ti. Mae’n llygaid ni arnat ti, O! Dduw. Castella, gwarchoda, Noddfa wyt i ni. I […]
I’n Duw, rhoddwn ddiolch glân, I’n Duw, canwn newydd gân I’n Duw, am iddo roddi Iesu Grist, Ei Fab. (Ailadrodd) “Yn awr”, medd y gwan “yr wyf yn gryf”, Medd y tlawd “Cyfoethog wyf, Oherwydd beth a wnaeth fy Nuw drosof fi”. (Ailadrodd) (Tro olaf) Fy Nuw. (Grym Mawl 1: 39) Henry Smith: Give Thanks, […]
I’r Arglwydd cenwch lafar glod a gwnewch ufudd-dod llawen fryd; dowch o flaen Duw â pheraidd dôn, drigolion daear fawr i gyd. Gwybyddwch bawb mai’r Iôr sy Dduw a’n gwnaeth ni’n fyw fel hyn i fod, nid ni ein hun – ei bobl ŷm ni a defaid rhi’ ei borfa a’i nod. O ewch i’w […]
I’r lladdfa yn dy g’wilydd Yr aethost fel oen. Ac ar dy gefn y cludaist di fyd O helbul a phoen. Gwaedu, marw, gwaedu, marw. Rwyt ti’n fyw, rwyt ti’n fyw, Atgyfodaist! Haleliwia! Yr holl nerth a’r gogoniant a roddwyd Haleliwia, lesu i ti. Ar doriad gwawr Mair Fadlen A’i dagrau yn lli, Yn ei […]
I’r Un ar orsedd y nef, ac hefyd i’r Oen, I’r un ar orsedd y nef, ac hefyd i’r Oen, Bo’r fendith, anrhydedd, gogoniant a’r gallu’n oes oesoedd! Bo’r fendith, anrhydedd, gogoniant a’r gallu’n oes oesoedd! To him who sits on the throne: Debbye Graafsma cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones Hawlfraint © 1984 Integrity’s Hosanna! Music/Sovereign […]
I’th Eglwys, Arglwydd, rho fwynhau y tywalltiadau nefol, a grasol wyrthiau’r Ysbryd Glân yn creu yr anian dduwiol. Nid dawn na dysg ond dwyfol nerth wna brydferth waith ar ddynion; y galon newydd, eiddot ti ei rhoddi, Ysbryd tirion. Ti elli bob rhyw ddrwg ddileu a’n creu i gyd o’r newydd; yn helaeth rho yn […]