Mae’r gelyn yn ei gryfder yn gwarchae pobol Dduw, a sŵn ei fygythiadau sy beunydd yn ein clyw, ond Duw a glyw ein gweddi er gwaethaf trwst y llu: er ymffrost gwacsaw uffern mae Duw y nef o’n tu. Fe guddiwyd ein gwendidau gyhyd heb brofi’n ffydd; pa fodd cawn nerth i sefyll yn llawn […]
Mae’r nos fu’n llethu d’Eglwys flin ar dorri’n wawr hyderus, a throir galaru hir dy blant yn foliant gorfoleddus, a thyf y dafnau mân cyn hir yn gawod gref i ddeffro’n tir. Rho i ni newyn am dy ddawn nes cawn ein llwyr ddigoni, a syched nes cawn uno’r floedd fod llynnoedd gras yn llenwi; […]
Mor brydferth ar y bryniau ydyw traed yr hwn Sy’n dwyn Gair Duw, Gair Duw, Cyhoeddwr hedd yn datgan gwir lawenydd Duw sy’n ben, Duw sy’n ben! Duw sy’n ben, Duw sy’n ben. Duw sy’n ben, Duw sy’n ben. Chwi wylwyr, cyd-ddyrchafwch nawr eich lleisiau ynghyd Er clod i’r Iôr, i’r Iôr. Cewch weld yr […]
O llanwa hwyliau d’Eglwys yn gadarn yn y gwynt sydd heddiw o Galfaria yn chwythu’n gynt a chynt: mae’r morwyr yma’n barod a’r Capten wrth y llyw, a’r llong ar fyr i hwylio ar lanw Ysbryd Duw. O cadw’r criw yn ffyddlon a’r cwrs yn union syth ar gerrynt gair y bywyd na wna ddiffygio […]
O’r nef y daeth, Fab di-nam, i’r byd yn dlawd heb feddu dim, i weini’n fwyn ar y gwan, ei fywyd roes i ni gael byw. Hwn yw ein Duw, y Brenin tlawd, fe’n geilw oll i’w ddilyn ef, i fyw bob dydd fel pe’n anrheg wiw o’i law: fe roddwn fawl i’r Brenin tlawd. […]
Pwy all blymio dyfnder gofid Duw ein Tad o weld ei fyd? Gweld y plant sy’n byw heb gariad, gweld sarhau ei gread drud: a phob fflam ddiffoddwyd gennym yn dyfnhau y nos o hyd; ein Tad, wrth Gymru, ein Tad, wrth Gymru, O trugarha! Gwnaethom frad â’r gwir a roddaist, buom driw i dduwiau […]
Ymlaen af dros wastad a serth ar lwybrau ewyllys fy Nhad, a llusern ei air rydd im nerth i ddiffodd pob bygwth a brad; daw yntau ei hun ar y daith i’m cynnal o’i ras di-ben-draw, a hyd nes cyflawni fy ngwaith fe gydiaf, drwy ffydd, yn ei law. Ymlaen af â’m hyder yn Nuw […]
Yn y beudy ganwyd Iesu heb un gwely ond y gwair; Duw’r digonedd yn ddi-annedd, gwisgo’n gwaeledd wnaeth y Gair: heddiw erfyn in ei ddilyn lle bo’n wrthun dlodi byd; gyfoethogion, awn yn dlodion, dyna’r goron orau i gyd. Gwŷs angylion ddaeth â’r tlodion heb ddim rhoddion ond mawrhad; doethion hefyd ddaeth yn unfryd gyda […]