Mae’r lle sancteiddiolaf yn rhydd, Fe rwygodd f’Anwylyd y llen, A Haul y Cyfiawnder y sydd Yn golau’r holl nefoedd uwchben; Mae’r dyrfa’n anfeidrol o faint, Ac eto ni welaf mo’r un – Angylion, seraffiaid na saint – Neb fel fy Anwylyd ei Hun. ‘D oes mesur amseroedd byth fry, Dim oriau cyffelyb i’r byd; […]
Mae’r nefoedd faith uwchben yn datgan mawredd Duw, mae’r haul a’r lloer a’r sêr i gyd yn dweud mai rhyfedd yw. Fe draetha dydd i ddydd a nos i nos o hyd ymhob rhyw faith, ymhob rhyw le, am Grëwr doeth y byd. Ond yn ei gyfraith lân fe’i dengys Duw ei hun yn Dduw […]
Mae’r nos fu’n llethu d’Eglwys flin ar dorri’n wawr hyderus, a throir galaru hir dy blant yn foliant gorfoleddus, a thyf y dafnau mân cyn hir yn gawod gref i ddeffro’n tir. Rho i ni newyn am dy ddawn nes cawn ein llwyr ddigoni, a syched nes cawn uno’r floedd fod llynnoedd gras yn llenwi; […]
Mae’r nos yn ddu, a gwynt nid oes, un seren sy’n y nef, a ninnau’n croesi maes a bryn i’r fan y gorwedd ef, holl obaith dyn yw ef. Nid oes ogoniant yn y fan, dim ond yr eiddo ef, a’r golau mwyn ar wyneb Mair fel gweddi tua’r nef, o galon mam i’r nef. […]
Mae’r nos yn fwyn ym Methlehem a chlyd yw’r gwely gwair, mae’r llusern fach yn bwrw gwawl dros wyneb baban Mair. O’r dwyrain pell daw doethion dri i geisio Brenin nef gan roi yr aur a’r thus a’r myrr yn offrwm iddo ef. Ar faes y preiddiau dan y sêr yn hedd y dawel nos […]
Mae’r oesau’n disgyn draw fel ton ar don i’r môr, ac oes ar oes a ddaw wrth drefniad doeth yr Iôr; ond syfled oesau, cilied dyn, mae Iesu Grist yn para’r un. Mae Eglwys Dduw yn gref yng nghryfder Iesu mawr er syrthio sêr y nef fel ffigys ir i’r llawr; saif hon yn deg […]
Mae’r orsedd fawr yn awr yn rhydd, gwrandewir llais y gwan; wel cyfod bellach, f’enaid prudd, anadla tua’r lan. Wel anfon eirchion amal ri’ i mewn i byrth y nef; gwrandewir pob amddifad gri yn union ganddo ef. Myfi anturia’ nawr ymlaen heb alwad is y ne’ ond bod perffeithrwydd mawr y groes yn ateb […]
(Gweddi am nerth) Maith yw’r nos a mawr yw’r t’wyllwch, P’odd y galla’i threulio i maes Heb gael, Arglwydd, dy gymdeithas, Nerth dy anorchfygol ras? Gormod gofid, Gallu hebot yma fyw. Mae fy mhechod yn fy erbyn, Fel y moroedd mawr eu grym: Dilyw cryf heb fesur arno, Nid oes a’i gwrthneba ddim; Tad tosturi, […]
Marchog, Iesu, yn llwyddiannus, Gwisg dy gleddau ‘ngwasg dy glun; Ni all daear dy wrth’nebu, Chwaith nac uffern fawr ei hun: Mae dy enw mor ardderchog, Pob rhyw elyn gilia draw; Mae dy arswyd drwy’r greadigaeth; Tyrd am hynny maes o law. Tyn fy enaid o’i gaethiwed, Gwawried bellach fore ddydd, Rhwyga’n chwilfriw ddorau Babel, […]
Mawl i Dduw am air y bywyd, gair y nef yn iaith y llawr, gair y cerydd a’r gorchymyn, gair yr addewidion mawr; gair i’r cadarn yn ei afiaith, gair i’r egwan dan ei bwn, cafodd cenedlaethau daear olau ffydd yng ngeiriau hwn. Traetha hwn am ddeddfau’r Arglwydd a gwynfydau Mab y Dyn, am yr […]