O gariad pur, rhown iti glod, Creawdwr rhyfeddodau’r rhod, er maint gwrthryfel dynol-ryw drwy dy drugaredd fe gawn fyw: O cymer ni yn awr bob un i’n creu o newydd ar dy lun. Dy gread maith mewn gwewyr sydd yn disgwyl gwawr y newydd ddydd pan fyddo cariad wrth y llyw a phawb mewn cariad […]
O gariad, O gariad anfeidrol ei faint, fod llwch mor annheilwng yn cael y fath fraint; cael heddwch cydwybod, a’i chlirio drwy’r gwaed, a chorff y farwolaeth, sef pechod, dan draed. Ni allai’r holl foroedd byth olchi fy mriw, na gwaed y creaduriaid er amled eu rhyw; ond gwaed y Meseia a’i gwella’n ddi-boen: rhyfeddol […]
O gorfoleddwn oll yn awr, daeth golau’r nef i nos y llawr; mae’r Gŵr a ddrylliodd rym y bedd yn rhodio’n rhydd ar newydd wedd: rhown fawl ar gân i’r uchel Dduw, mae Crist ein Pasg o hyd yn fyw. Nid arglwyddiaetha angau mwy ar deulu’r ffydd, gwaredir hwy; y blaenffrwyth hardd yw Mab y […]
O Greawdwr y goludoedd Maddau dlodi mawr ein byw, Maddau’r chwarae â chysgodion Yn lle d’arddel Di, ein Duw; Tyn ni’n rhydd o afal greulon Y sylweddau dibarhad, Crea ynom hiraeth sanctaidd Am drysorau’r nefol wlad. O Arweinydd pererinion Maddau in ein crwydro ffôl, Deillion ydym yn yr anial Wedi colli’r ffordd yn ôl; O’n […]
O Grist, Ffisigwr mawr y byd, down atat â’n doluriau i gyd; nid oes na haint na chlwy’ na chur na chilia dan dy ddwylo pur. Down yn hyderus atat ti, ti wyddost am ein gwendid ni; gwellhad a geir ar glwyfau oes dan law y Gŵr fu ar y groes. Anadla arnom ni o’r […]
O Grist, tydi yw’r ffordd at Dduw ein Tad, am dy ddatguddiad, diolchwn. Haleliwia! Amen. O Grist, y gwir am ystyr bod a byw, i ti’r Unigryw, plygwn. Haleliwia! Amen. O Grist, y bywyd llawn i bawb a gred, rho in ymddiried ynot. Haleliwia! Amen. O Grist, y drws i fyd dy hedd a’th ras, […]
O gwawria, ddydd ein Duw, oleuni pur y nef; er mwyn dy weld ‘rwy’n byw gan godi nawr fy llef; Oen addfwyn Duw, dy gariad di ddisgleirio ar fy enaid i. O gwawria, ddydd ein Duw: y nos a bery’n hir; ochneidiau’n calon clyw, oherwydd drygau’r tir; O Seren Ddydd, nesâ yn awr, O Haul […]
O! Gyfiawnder pur tragwyddol, O! Gyfiawnder maith di-drai – Rhaid i’m henaid noeth newynllyd Gael yn fuan dy fwynhau: Rho dy wisg ddisgleirwen olau, Cudd fy noethni hyd y llawr, Fel nad ofnwyf mwy ymddangos Fyth o flaen dy orsedd fawr. William Williams (1717-1791) (Llawlyfr Moliant Newydd: 574)
O! Iachawdwr pechaduriaid, Sydd â’r gallu yn dy law; Rho oleuni, hwylia f’enaid, Dros y cefnfor garw draw; Gad i’r wawr fod rhag fy wyneb, Rho fy enaid llesg yn rhydd, Nes i’r heulwen ddisglair godi, Tywys fi wrth y seren ddydd. O! ynfydrwydd, O! ffolineb, Im erioed oedd rhoi fy mryd, Ar un tegan, […]
O iachawdwriaeth gadarn, O iachawdwriaeth glir, ‘fu dyfais o’i chyffelyb erioed ar fôr na thir; mae yma ryw ddirgelion, rhy ddyrys ŷnt i ddyn, ac nid oes all eu datrys ond Duwdod mawr ei hun. ‘Does unpeth ennyn gariad yn fflam angerddol gref, addewid neu orchymyn, fel ei ddioddefaint ef; pan roes ei fywyd drosom […]