logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Rho imi galon o gariad

Rho imi galon o gariad, Gofal dros rai sydd ar goll. Rho imi faich dros y rhai sydd yn isel a thrist. Arglwydd, rwy’n awchus a pharod I helpu’r tlawd ym mhob man. Tro eiriau ‘nghân yn weithredoedd o gymorth i’r gwan. Ac eneinia dy weision, eneinia dy weision, I ddweud am Grist, pregethu Crist. […]


Ti fu gynt yn gwella’r cleifion

Ti fu gynt yn gwella’r cleifion, Feddyg da, dan eu pla trugarha wrth ddynion. Cofia deulu poen, O Iesu: ymhob loes golau’r groes arnynt fo’n tywynnu. Llaw a deall dyn perffeithia, er iachâd a rhyddhad, Nefol Dad, i dyrfa. Rho dy nodded, rho dy gwmni nos a dydd i’r rhai sydd ar y gwan yn […]


Ti, Arglwydd, fu’n dywysydd

Ti, Arglwydd, fu’n dywysydd ar hyd blynyddoedd oes, yn gwmni ac yn gysur, a’th ysgwydd dan ein croes: diolchwn am bob bendith fu’n gymorth ar y daith, anoga ni o’r newydd i aros yn dy waith. Wrth gofio y gorffennol a datblygiadau dyn, rhyfeloedd a rhyferthwy y dyddiau llwm a blin, clodforwn di, O Arglwydd, […]

  • Gwenda Jenkins,
  • January 19, 2016

Trwy y Groes, Iesu, gorchfygaist

Trwy y Groes, Iesu, gorchfygaist, Trwy dy waed prynaist ein hedd. Lle bu angau gynt ac arwahanrwydd, Nawr llifa’r bywiol ddŵr. Bywiol ddŵr, bywiol ddŵr, Afon bywyd llifa’n rhydd. Grasol Dduw clyw di ein cri; Afon bywyd llifa’n rhydd. Rhwyma’r clwyfau ar aelwydydd, Gwŷr a gwragedd gwna’n gytun. Todda galon tad yng ngŵydd ei blentyn, […]

  • Gwenda Jenkins,
  • June 23, 2015

Tydi a wyddost, Iesu mawr

Tydi a wyddost, Iesu mawr, am nos ein dyddiau ni; hiraethwn am yr hyfryd wawr a dardd o’th gariad di. Er disgwyl am dangnefedd gwir i lywodraethu’r byd, dan arswyd rhyfel mae ein tir a ninnau’n gaeth o hyd. Ein pechod, megis dirgel bla, sy’n difa’n dawn i fyw; ond gelli di, y Meddyg da, […]


Tyrd atom Iôr

Tôn: Ellers (545 Caneuon Ffydd) Pan dry atgasedd dyn at ddyn yn drais, Yr hen, y llesg a’r du ei groen heb lais, O Arglwydd, tyrd yn nes a thyrd yn glau i’n dysgu i gadw drws pob cas ar gau. Pan fydd cyffuriau caeth yn llethu dyn, na foed i’n dirmyg glwyfo’r gwael ei […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 1, 2016

Yn gymaint iti gofio un o’r rhain

Yn gymaint iti gofio un o’r rhain a rhannu’n hael dy grystyn gyda’r tlawd, a chynnig llaw i’r gwan oedd gynt ar lawr a’i arddel ef yn gyfaill ac yn frawd, fe’i gwnaethost, do, i’r Un sy’n Arglwydd nef, a phrofi wnei o rin ei fendith ef. Yn gymaint iti estyn llaw i’th god a […]