Pam y caiff bwystfilod rheibus dorri’r egin mân i lawr? Pam caiff blodau peraidd, ieuainc fethu gan y sychder mawr? Tyred â’r cawodydd hyfryd sy’n cynyddu’r egin grawn, cawod hyfryd yn y bore ac un arall y prynhawn. Gosod babell yng ngwlad Gosen, tyred, Arglwydd, yno d’hun, gostwng o’r uchelder golau, gwna dy drigfan gyda […]
Pan anwyd Crist ym Methlehem dref canodd angylion nef, canu wnawn ninnau’n llawen ein llef foliant i Faban Mair. Canu wnawn ni, canu wnawn ni foliant i Faban Mair, canu wnawn ninnau’n llawen ein llef foliant i Faban Mair. Teithiodd y doethion dros bant a bryn ar eu camelod […]
Pan daena’r nos o’m cylch ei chwrlid du yn fraw, fe gilia’r arswyd wrth i mi ymaflyd yn dy law. Pan chwytha’r gwyntoedd oer i fygwth fflam fy ffydd, ar lwybyr gweddi gyda thi caf nerth yn ôl y dydd. Pan gyll holl foethau’r byd eu swyn i gyd a’u blas, mae swcwr, Arglwydd, ynot […]
Pan ddaw pob tymor yn ei dro rhyfeddu wnawn at allu’r Iôr yn creu amrywiaeth lliw a llun ar faes a mynydd, tir a môr. Diolchwn am y gwanwyn gwyrdd yn deffro’r byd ‘r ôl trwmgwsg hir, a chyffro’r wyrth yn dweud wrth bawb fod atgyfodiad yn y tir. Ac yna’r haf a’i ddyddiau mwyn, […]
Pan ddryso llwybrau f’oes, a’m tynnu yma a thraw, a goleuadau’r byd yn diffodd ar bob llaw, rho glywed sŵn dy lais a gweld dy gadarn wedd yn agor imi ffordd o obaith ac o hedd. Pan ruo storom ddu euogrwydd dan fy mron, a Satan yn ei raib yn trawsfeddiannu hon, O tyn y […]
(Tôn: Caryl, Rhys Jones) Pan dorro’r wawr dros ael y mynydd llwm, pan euro’r haul las erwau llawr y cwm, pan byncia’r adar gân yn gynnar gôr mi ganaf innau fawl i’r Arglwydd Iôr. Pan welaf wên ar wedd blodeuyn hardd, pan welaf wyrth aeddfedrwydd ffrwythau’r ardd, pan glywaf su aur donnau’r meysydd ŷd mi […]
Pan dwi’n mynd ar fy ffordd yn y bore bach, pan dwi’n mynd ar fy ffordd yn y p’nawn, pan dwi’n mynd ar fy ffordd, pan mae’n nosi’n braf, Rydw i’n gwybod fod hyn yn iawn. Duw sy’n fy ngharu, beth bynnag a wnaf, Duw sy’n gofalu, ble bynnag yr af. Duw sydd yn gwybod […]
Pan edrychaf gyda’r sanctaidd lu, A phan syllaf ar dy harddwch di. Pan mae popeth o’m cylch Megis cysgod yn d’oleuni pur. Pan ymgollaf yn dy gariad a’th ras, A’m hewyllys mwy ynghlwm wrthyt ti, Pan mae popeth o’m cylch Megis cysgod yn d’oleuni pur. Addolaf di, Addolaf di, Fy mywyd i yw cael d’addoli […]
Pan edrychaf i’r nefoedd Ar waith dy ddwylo Di, Gwelaf y lleuad a’r sêr – Gwaith dy fysedd ydynt oll; Ond fe’n ceraist ni gyda gras mor ddwfn; O, Iôr, mor fawr wyt ti! Plant sy’n canu dy glodydd, A’r gelyn sydd yn ffoi; Iôr mae dy enw mor nerthol, Rhyfeddol yw yn awr; Ond […]
Pan fo’n blynyddoedd ni’n byrhau, pan fo’r cysgodion draw’n dyfnhau, tydi, yr unig un a ŵyr, rho olau’r haul ym mrig yr hwyr. Er gwaeled fu a wnaethom ni ar hyd ein hoes a’i helynt hi, er crwydro ffôl ar lwybrau gŵyr, rho di drugaredd gyda’r hwyr. Na chofia’n mawr wendidau mwy, a maint eu […]