logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Y Groes uwch y cwbl oll

Tu draw i’r byd hwn Tu draw i’r twyllwch mae dydd. Dy groes sy’n ddisglair, Edrychwch bobl, mae’n wir. Y groes uwch y cwbl oll, Yn disgleirio drwy’r holl fyd; Y groes uwch y cwbl i gyd Un ffordd, un Achubwr sydd, Iesu’n frenin dros y cwbl oll, Y cwbl oll. Cadwyni’n torri, Cariad ʼn […]


Y Gŵr a fu gynt o dan hoelion

Y Gŵr a fu gynt o dan hoelion dros ddyn pechadurus fel fi, yfodd y cwpan i’r gwaelod ei hunan ar ben Calfarî; ffynhonnell y cariad tragwyddol, hen gartref meddyliau o hedd; dwg finnau i’r unrhyw gyfamod na thorrir gan angau na’r bedd. HUW DERFEL, 1816-90 (Caneuon Ffydd 518)

  • Gwenda Jenkins,
  • March 25, 2015

Y mae hapusrwydd pawb o’r byd

Y mae hapusrwydd pawb o’r byd Yn gorffwys yn dy angau drud; Hyfrytaf waith angylion fry Yw canu am fynydd Calfari. O holl weithredoedd nef yn un, Y bennaf oll oedd prynu dyn; Rhyfeddod mwyaf o bob oes Yw Iesu’n marw ar y groes! Darfydded canmol neb rhyw un, Darfydded sôn am haeddiant dyn; Darfydded […]

  • Gwenda Jenkins,
  • June 23, 2015

Yn angau Crist caed haeddiant drud

Yn angau Crist caed haeddiant drud I faddau holl gamweddau’r byd, O flaen yr orsedd buraf sydd: Ni all euogrwydd yno ddim, Fe gyll melltithion Sinai’u grym, Trugaredd rad a garia’r dydd. Caf yno’n ddedwydd dawel fyw, Uwch brad gelynion o bob rhyw, O sŵn y drafferth a phob gwae; A threulio tragwyddoldeb mwy I […]

  • Gwenda Jenkins,
  • June 24, 2015

Yn Eden, cofiaf hynny byth

Yn Eden, cofiaf hynny byth, bendithion gollais rif y gwlith; syrthiodd fy nghoron wiw. Ond buddugoliaeth Calfarî enillodd hon yn ôl i mi: mi ganaf tra bwyf byw. Ffydd, dacw’r fan, a dacw’r pren yr hoeliwyd arno D’wysog nen yn wirion yn fy lle; y ddraig a ‘sigwyd gan yr Un, cans clwyfwyd dau, concwerodd […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 5, 2015

Yng Nghrist ei Hun

Yng Nghrist ei Hun mae ‘ngobaith i, Ef yw fy haul, fy nerth, fy nghân; Mae’n gonglfaen, mae’n dir mor gryf, Craig yw i mi mewn dŵr a thân. Ei gariad pur, Ei heddwch mawr, ‘Does ofn i mi nac ymdrech nawr! Fy nghysur yw, fy oll yn oll, Yng nghariad Crist mae’n sicrwydd i. […]


Yr afon a lifodd rhwng nefoedd a llawr

Yr afon a lifodd rhwng nefoedd a llawr, Yw gwraidd fy ngorfoledd a’m cysur yn awr; Calfaria roes haeddiant, Calfaria roes hedd; Calfaria sy’n cadw agoriad y bedd. Mae angau ei hunan, ei ofnau a’i loes, Mewn cadwyn gadarnaf yn rhwym wrth dy Groes; Allweddau hen uffern ddychrynllyd i gyd Sy’n hongian wrth ystlys Iachawdwr […]