Mae’r nos fu’n llethu d’Eglwys flin ar dorri’n wawr hyderus, a throir galaru hir dy blant yn foliant gorfoleddus, a thyf y dafnau mân cyn hir yn gawod gref i ddeffro’n tir. Rho i ni newyn am dy ddawn nes cawn ein llwyr ddigoni, a syched nes cawn uno’r floedd fod llynnoedd gras yn llenwi; […]
Mae Eglwys Dduw fel dinas wych yn deg i edrych arni: ei sail sydd berl odidog werth a’i mur o brydferth feini. Llawenydd yr holl ddaear hon yw Mynydd Seion sanctaidd; preswylfa annwyl Brenin nef yw Salem efengylaidd. Gwyn fyd y dinasyddion sydd yn rhodio’n rhydd ar hyd-ddi; y nefol fraint i minnau rho, O […]
Mae Iesu’n fuddugol, a’i bobol gaiff fyw yn fwy na choncwerwyr drwy gariad Mab Duw; er profi gorthrymder neu newyn neu gledd, ‘does ball ar y cariad agorodd y bedd. Molwch ef! Molwch ef! Mae’r gad wedi troi Molwch ef! Molwch ef! Mae’r gelyn yn ffoi; mae Iesu’n fuddugol, a’i bobol gaiff fyw yn fwy […]
Mi wn fod fy Mhrynwr yn fyw, a’m prynodd â thaliad mor ddrud; fe saif ar y ddaear, gwir yw, yn niwedd holl oesoedd y byd: er ised, er gwaeled fy ngwedd, teyrnasu mae ‘Mhrynwr a’m Brawd; ac er fy malurio’n y bedd ca’i weled ef allan o’m cnawd. Wel, arno bo ‘ngolwg bob dydd, […]
Mor deilwng yw’r Oen fu farw mewn poen er mwyn i droseddwyr gael byw; trwy rinwedd ei waed mawr heddwch a wnaed: cymodwyd gelynion â Duw. Pan gododd Mab Duw o’i feddrod yn fyw dinistriodd holl gryfder y ddraig; gorchfygodd drwy’i waed bob gelyn a gaed: cydganed preswylwyr y graig. Pan ddelo’r holl saint o’r […]
Mi wela’r ffordd yn awr o lygredd mawr y byd i fywiol oes y nefol hedd, a’m gwedd yn lân i gyd: y ffordd yw Crist, a’i ddawn, a’r Iawn ar Galfarî; mae drws agored drwyddo ef i mewn i’r nef i ni. Diolchaf am yr Oen a’i boen i’m gwneud yn bur, a’r iachawdwriaeth […]
Mae rhyw fyrdd o ryfeddodau, Iesu, yn dy farwol glwy’; trwy dy loes, dy gur a’th angau caed trysorau fwy na mwy: ni all ceriwb byth na seraff lawn fynegi gwerth yr Iawn a roed drosom gan Gyfryngwr ar Galfaria un prynhawn. Pwy all fesur maint ei gariad, a rhinweddau maith ei ras? Nid angylion, […]
Mae’r gwaed a redodd ar y groes o oes i oes i’w gofio; rhy fyr yw tragwyddoldeb llawn i ddweud yn iawn amdano. Prif destun holl ganiadau’r nef yw “Iddo ef” a’i haeddiant; a dyna sain telynau glân ar uchaf gân gogoniant. Mae hynod rinwedd gwaed yr Oen a’i boen wrth achub enaid yn seinio’n […]
Mi glywaf dyner lais yn galw arnaf fi i ddod a golchi ‘meiau i gyd yn afon Calfari. Arglwydd, dyma fi ar dy alwad di, canna f’enaid yn y gwaed a gaed ar Galfarî. Yr Iesu sy’n fy ngwadd i dderbyn gyda’i saint ffydd, gobaith, cariad pur a hedd a phob rhyw nefol fraint. Yr […]
Mae’n dod, mae’n dod, mae’r Brenin yn dod, croesawn ef: hardd Frenin y gogoniant yw o orsedd nef. Mae’n dod (mae’n dod), mae’n dod (mae’n dod), ef yw Brenin nef (ef yw Brenin nef); mae’n dod (mae’n dod), mae’n dod (mae’n dod), awn i mewn i’w deyrnas ef. I’r galon friw mae’i eiriau yn falm […]