Mae balm Gilead fel y gwin A bythol nerthol yw ei rîn A nerthol yw ei rîn. Iachau fy nghlwyfau dyfnion du Wna gwaed y groes, mae Ef o’m tu Yr Iesu sydd o’m tu. Pwy ylch fy meiau eto ma’s Pwy ond Efe yn ddyn o’m tras Efe yn ddyn o’m tras. Yn Dduw […]
[Salmau 56-57, Alaw: Os daw ‘nghariad] Gweddïaf am drugaredd, am drugaredd, Ac erfyn ar fy Nuw. Wrth geisio bod yn llawen, bod yn llawen, Ni fedraf yn fy myw. Mae pryderon yn gwasgu arnaf, Yn pwyso’n drwm drwy’r dydd, A llawer gofid meddwl, gofid meddwl Yn torri ‘nghalon i. O fy Arglwydd, cod fi fyny, […]
Y Nefoedd (yn seiliedig ar Datguddiad 22:1-9) Afon bur o ddwfr y bywyd, O fy Arglwydd rhoist i mi Iachawdwriaeth, do fe gefais, Drwy dy waed ar Galfari, Iachawdwriaeth, do fe gefais, Drwy dy waed ar Galfari. Afon bur o ddwfr y bywyd, Disglair fel y grisial yw, Yn dod allan o orseddfainc Iesu’r oen […]
Y man y bo fy Arglwydd mawr Yn rhoi ei nefol hedd i lawr, Mae holl hapusrwydd maith y byd, A’r nef ei hunan yno i gyd. Nid oes na haul na sêr na lloer, Na daear fawr a’i holl ystôr, Na brawd, na chyfaill, da na dyn, A’m boddia hebddo Ef ei Hun. ‘D […]
Rwyf yn dy garu, Iesu cu; Mor felys yw dy gwmni di Tydi yw ‘mrenin, ti yw ‘Nuw, A hebddot ti ni fynnaf fyw. Pan o’n i’n rhodio’r llwybrau hir, Goleuaist di fy ffordd yn glir; Wrth ddilyn d’arwydd di o’r nef, Agosach wyf at weld dy wedd. Annoeth yr oeddwn ambell waith, Wrth geisio […]
Dywedodd Duw wrth Moses, ‘Nawr dyma’r ffordd i fyw, Achos Fi ydy’r Arglwydd dy Dduw.’ Dywedodd Duw wrth Moses, ‘Nawr dyma Reol Un: Paid cael duwiau eraill, Achos Fi ydy’r Arglwydd dy Dduw.’ Dywedodd Duw wrth Moses, ‘Nawr dyma Reol Dau: Paid addoli pethau, Paid cael duwiau eraill, Achos Fi ydy’r Arglwydd dy Dduw.’ Dywedodd […]
Y mae gennyf drysor, trysor mwy na’r byd yn yr Iesu hawddgar, cyfaill plant y byd. Cytgan: Y mae gennyf drysor, Arglwydd nef a llawr; Yn ei ddwyfol gariad Mae ’ngorfoledd mawr. Y mae gennyf drysor, gweddi ato ef; nid yw ef yn gwrthod, cais yr isel lef. Y mae gennyf drysor, rhodio gyda Brawd; […]
Y dydd a roddaist, Iôr, a giliodd, ar d’alwad di ymdaena’r hwyr, ein cynnar gân i ti ddyrchafodd, a’th fawl a rydd in orffwys llwyr. Diolchwn fod dy Eglwys effro i’r ddaear ddu yn llusern dlos; trwy’r cread maith mae hon yn gwylio heb orffwys byth na dydd na nos. Dros bob rhyw ynys a […]
Yng nghyffro’r gwanwyn pan fo’r ias a’r hud yn cerdded yn gyfaredd drwy fy myd, a duwiau swyn yn cymell yn ddi-oed wrth agor llwybrau fyrdd o flaen fy nhroed, ar groesffordd gynta’r daith rho imi’r ddawn i oedi, hyd nes cael y llwybyr iawn. Yn anterth haf a’m dyddiau’n wyn a hir a’r wybren […]
Ymlaen, ymlaen, frenhinol Un, “Hosanna!”, gwaedda’r dorf gytûn; d’anifail llwm ymlwybra ‘mlaen a phalmwydd dan ei draed ar daen. Ymlaen, ymlaen, frenhinol Frawd, yn wylaidd ar dy farwol rawd: i goncro pechod, codi’r graith, a thynnu colyn angau caeth. Ymlaen, ymlaen, frenhinol Grist, yr engyl oll sy’n syllu’n drist o’r nefoedd mewn rhyfeddod mawr: fe […]