logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O maddau i ni, Dad pob llwyth

O maddau i ni, Dad pob llwyth, am fod mor fyddar cyd heb ddewis gwrando cwyn dy blant o warth y trydydd byd. At fyrddau ein neithiorau bras daw llef eu cythlwng hwy; meddala’n calon fel na wnawn eu diystyru mwy. Ni chawsant hwy na tho na thân yn gysur rhag yr hin, na chymorth […]

  • Gwenda Jenkins,
  • April 28, 2015

O Dduw, clyw fy nghri

O Dduw, clyw fy nghri, O Dduw, clyw fy nghri, galw ‘rwyf, ateb fi: O Dduw, clyw fy nghri, O Dduw, clyw fy nghri, tyred, erglyw fy llef. CYMUNED TAIZÉ (O Lord hear my prayer), cyf. MAWL AC ADDOLIAD, 1996 (Caneuon Ffydd 799)

  • Gwenda Jenkins,
  • April 28, 2015

Dyro dangnefedd, O Arglwydd

Dyro dangnefedd, O Arglwydd, i’r sawl a gred ynot ti; dyro, dyro dangnefedd, O Arglwydd, dyro dangnefedd. CYMUNED TAIZÉ cyf. MAWL AC ADDOLIAD, 1996 (Caneuon Ffydd 790)

  • Gwenda Jenkins,
  • April 28, 2015

Arglwydd Iesu, gad im deimlo

Arglwydd Iesu, gad im deimlo rhin anturiaeth fawr y groes; yr ufudd-dod perffaith hwnnw wrth ŵynebu dyfnaf loes; yr arwriaeth hardd nad ofnai warthrudd a dichellion byd; O Waredwr ieuanc, gwrol, llwyr feddianna di fy mryd. N’ad im geisio gennyt, Arglwydd, fywyd llonydd a di-graith; n’ad im ofyn am esmwythfyd ar ddirwystyr, dawel daith; dyro’n […]

  • Gwenda Jenkins,
  • April 28, 2015

Arglwydd, dysg i mi weddïo

Arglwydd, dysg i mi weddïo priod waith pob duwiol yw: treulio ‘nyddiau oll i’th geisio a mawrygu d’enw gwiw; dedwydd ydyw a ddisgwylio wrthyt ti. Gad im droi i’m stafell ddirgel, ti a minnau yno ‘nghyd, profi gwerth y funud dawel pan fo’n drystfawr oriau’r byd; rho im glywed neges y distawrwydd dwfn. Rho im […]

  • Gwenda Jenkins,
  • April 28, 2015

Dragwyddol Dad, dy gariad mawr

Dragwyddol Dad, dy gariad mawr sy’n gwylied drosom ar bob awr; ar fôr a thir, ar fryn a glan, ym merw’r dref, mewn tawel fan; dy nawdd rho heddiw i’r rhai sydd yn arddel ynot ti eu ffydd. Dragwyddol Geidwad o’th fawr ras ddioddefaist lid gelynion cas, ar dy drugaredd nid oes ball a’th eiriol, […]

  • Gwenda Jenkins,
  • April 27, 2015

Fe garodd Iesu’r eiddo

Fe garodd Iesu’r eiddo hyd eitha’r olaf awr, rhoes fara’i fywyd erddo a gwin ei galon fawr; a minnau gofiaf heddiw yr ing a’r chwysu drud a’r cariad nad yw’n edliw ei fai i euog fyd. Fe welir dwyfol drallod uwch byd a’i gamwedd trist, a’r gras sy’n drech na phechod yn angau Iesu Grist; […]

  • Gwenda Jenkins,
  • April 27, 2015

Rho imi, nefol Dad

Rho imi, nefol Dad, yr Ysbryd Glân yn awr wrth geisio cofio’r gwerth a gaed yng ngwaed ein Iesu mawr. Gad imi weld y wawr a dorrai ar ei loes a’r heddwch a gofleidiai’r byd yn angau drud y groes. Ei gwpan ef, mor llawn a chwerw ar ei fin, a droes, yn rhin ei […]

  • Gwenda Jenkins,
  • April 27, 2015

Pan oedd Iesu dan yr hoelion

Pan oedd Iesu dan yr hoelion yn nyfnderoedd chwerw loes torrwyd beddrod i obeithion ei rai annwyl wrth y groes; cododd Iesu! Nos eu trallod aeth yn ddydd. Gyda sanctaidd wawr y bore teithiai’r gwragedd at y bedd, clywid ing yn sŵn eu camre, gwelid tristwch yn eu gwedd; cododd Iesu! Ocheneidiau droes yn gân. […]

  • Gwenda Jenkins,
  • April 27, 2015

I orwedd mewn preseb

I orwedd mewn preseb rhoed Crëwr y byd, nid oedd ar ei gyfer na gwely na chrud; y sêr oedd yn syllu ar dlws faban Mair yn cysgu yn dawel ar wely o wair. A’r gwartheg yn brefu, y baban ddeffroes, nid ofnodd, cans gwyddai na phrofai un loes. ‘Rwyf, Iesu, ‘n dy garu, O […]

  • Gwenda Jenkins,
  • April 27, 2015