Ni ddichon byd a’i holl deganau fodloni fy serchiadau nawr, a enillwyd ac ehangwyd yn nydd nerth fy Iesu mawr; ef, nid llai, a all eu llenwi er mor ddiamgyffred yw, O am syllu ar ei Berson, fel y mae yn ddyn a Duw. O na chawn i dreulio ‘nyddiau’n fywyd o ddyrchafu ei waed, […]
O na bawn yn fwy tebyg i Iesu Grist yn byw – yn llwyr gysegru ‘mywyd i wasanaethu Duw: nid er ei fwyn ei hunan y daeth i lawr o’r ne’ ; ei roi ei hun yn aberth dros eraill wnaeth efe. O na bawn i fel efe, O na bawn i fel efe, O […]
Os gwelir fi bechadur, ryw ddydd ar ben fy nhaith rhyfeddol fydd y canu a newydd fydd yr iaith yn seinio buddugoliaeth am iachawdwriaeth lawn heb ofni colli’r frwydyr na bore na phrynhawn. Fe genir ac fe genir yn nhragwyddoldeb maith os gwelir un pererin mor llesg ar ben ei daith a gurwyd mewn tymhestloedd […]
Y Gŵr fu ar Galfaria a welir ddydd a ddaw yn eistedd ar ei orsedd a’r glorian yn ei law, a phawb a gesglir ato i’w pwyso ger ei fron: O f’enaid cais dduwioldeb a dro y glorian hon. Mae cofio dydd y cyfrif yr hwn a ddaw cyn hir, yn uchel alw arnaf i […]
Bydd canu yn y nefoedd pan ddelo’r plant ynghyd, y rhai fu oddi cartref o dŷ eu Tad cyhyd; dechreuir y gynghanedd ac ni bydd wylo mwy, a Duw a sych bob deigryn oddi wrth eu llygaid hwy. Bydd canu yn y nefoedd pan ddelo’r plant ynghyd, y rhai fu oddi cartref o dŷ eu Tad […]
Ti yr hwn sy’n gwrando gweddi, atat ti y daw pob cnawd; llef yr isel ni ddirmygi, clywi ocheneidiau’r tlawd: dy drugaredd sy’n cofleidio’r ddaear faith. Minnau blygaf yn grynedig wrth dy orsedd rasol di, gyda hyder gostyngedig yn haeddiannau Calfarî: dyma sylfaen holl obeithion euog fyd. Hysbys wyt o’m holl anghenion cyn eu traethu […]
Pwy a’m dwg i’r ddinas gadarn, lle mae Duw’n arlwyo gwledd, lle mae’r awel yn sancteiddrwydd, lle mae’r llwybrau oll yn hedd? Hyfryd fore y caf rodio’i phalmant aur. Pwy a’m dwg i’r ddinas gadarn, lle mae pawb yn llon eu cân, neb yn flin ar fin afonydd y breswylfa lonydd lân? Gwaith a gorffwys […]
Arglwydd gad im fyw i weled, gad im weled mwy i fyw, gad i’m profiad droi’n ddatguddiad ar dy fywyd, O fy Nuw; a’r datguddiad dyfo’n brofiad dwysach im. Gad im ddeall dy ddysgeidiaeth Arglwydd, wrth ei gwneuthur hi, gad im wneuthur yn fwy perffaith drwy’r datguddiad ddaw i mi; byw fydd cynnydd mewn gwybodaeth […]
O Iesu, Haul Cyfiawnder glân, llanw mron â’th nefol dân; disgleiria ar fy enaid gwan nes dod o’r anial fyd i’r lan. Enynna ‘nghalon, Iesu cu, yn dân o gariad atat ti, a gwna fi’n wresog yn dy waith tra byddaf yma ar fy nhaith. A gwna fy nghalon dywyll i yn olau drwy d’oleuni […]
Cysegrwn flaenffrwyth dyddiau’n hoes i garu’r hwn fu ar y groes, mae mwy o bleser yn ei waith na dim a fedd y ddaear faith. Cael bod yn fore dan yr iau sydd ganmil gwell na phleser gau, mae ffyrdd doethineb oll i gyd yn gysur ac yn hedd o hyd. O boed im dreullo […]