O na allwn garu’r Iesu yn fwy ffyddlon, a’i was’naethu; dweud yn dda mewn gair amdano, rhoi fy hun yn gwbwl iddo. RICHARD THOMAS, bl. 1821 (Caneuon Ffydd 355)
Cyduned trigolion y ddaear i gyd mewn sain o glodforedd i Brynwr y byd; mor dirion ei gariad at holl ddynol-ryw: troseddwyr a eilw i ddychwelyd a byw. I gadw’r colledig, o’r nefoedd y daeth rhoi bywyd i’r marw a rhyddid i’r caeth; am hyn gorfoleddwn, mae inni iachâd a bywyd tragwyddol drwy haeddiant ei […]
Mae carcharorion angau yn dianc o’u cadwwynau, a’r ffordd yn olau dros y bryn o ddyfnder glyn gofidiau; cyhoedder y newyddion a gorfoledded Seion, mae’r Iesu ar ei orsedd wen, ac ar ei ben bo’r goron! Cynefin iawn â dolur fu’r Iesu yn fy natur, gogoniant byth i’w enw ef am ddioddef dros bechadur: yn […]
Yr Iesu’n ddi-lai a’m gwared o’m gwae; achubodd fy mywyd, maddeuodd fy mai; fe’m golchodd yn rhad, do’n wir, yn ei waed, gan selio fy mhardwn rhoes imi ryddhad. Fy enaid i sydd yn awr, nos a dydd, am ganmol fy Iesu a’m rhoddes yn rhydd: ffarwél fo i’r byd a’i bleser ynghyd; ar drysor […]
Pa feddwl, pa ‘madrodd, pa ddawn, pa dafod all osod i maes mor felys, mor helaeth, mor llawn, mor gryf yw ei gariad a’i ras? Afonydd sy’n rhedeg mor gryf na ddichon i bechod na bai wrthsefyll yn erbyn eu llif a’u llanw ardderchog di-drai. Fel fflamau angerddol o dân yw cariad f’Anwylyd o hyd; […]
Y Bugail mwyn o’r nef a ddaeth i lawr i geisio’i braidd drwy’r erchyll anial mawr; ei fywyd roes yn aberth yn eu lle, a’u crwydrad hwy ddialwyd arno fe. O’m crwydrad o baradwys daeth i’m hôl, yn dirion iawn fe’m dygodd yn ei gôl; ‘does neb a ŵyr ond ef, y Bugail mawr, pa […]
Wel dyma’r Ceidwad mawr a ddaeth i lawr o’r nef i achub gwaelaidd lwch y llawr – gogoniant iddo ef! Bu farw yn ein lle ni, bechaduriaid gwael; mae pob cyflawnder ynddo fe sydd arnom eisiau’i gael. Ei ‘nabod ef yn iawn yw’r bywyd llawn o hedd, a gweld ei iachawdwriaeth lawn sydd yn dragwyddol […]
Ŵyneb siriol fy Anwylyd yw fy mywyd yn y byd; ffárwel bellach bob eilunod, Iesu ‘Mhriod aeth â’m bryd, Brawd mewn myrdd o gyfyngderau, Ffrind mewn môr o ofid yw; ni chais f’enaid archolledig neb yn Feddyg ond fy Nuw. Yn yr Arglwydd ‘rwy’n ymddiried, pwy all wneuthur niwed im? Dan ei adain mi gysgodaf […]
Dyma babell y cyfarfod, dyma gymod yn y gwaed, dyma noddfa i lofruddion, dyma i gleifion feddyg rhad; dyma fan yn ymyl Duwdod i bechadur wneud ei nyth, a chyfiawnder pur y nefoedd yn siriol wenu arno byth. Pechadur aflan yw fy enw, o ba rai y penna’n fyw; rhyfeddaf fyth, fe drefnwyd pabell im […]
O’m blaen mi welaf ddrws agored, a modd i hollol gario’r maes, yng ngrym y rhoddion a dderbyniodd yr hwn gymerodd agwedd gwas; mae’r t’wysogaethau wedi’u hysbeilio a’r awdurdodau ganddo ynghyd, a’r carcharwr yn y carchar drwy rinwedd ei ddioddefaint drud. Fy enaid trist, wrth gofio’r frwydyr, yn llamu o lawenydd sydd, gweld y ddeddf […]