Caraf yr haul sy’n wên i gyd, Duw wnaeth yr haul i lonni’r byd. Caraf y gwynt a’i gri uwchben, Duw wnaeth y gwynt i sgubo’r nen. Caraf y glaw a’i ddagrau hir, Duw wnaeth y glaw i olchi’r tir. Caraf y sêr uwch golau’r stryd, Duw wnaeth y sêr yn lampau’r byd. Caraf y […]
Cariad iesu feddiannodd fy nghalon; Cariad Iesu ennillodd fy mryd – Cariad Iesu feddiannodd fy nghalon; Cariad Iesu ennillodd fy mryd. Harddach na lliwiau, O! Dyfnach na geiriau, O! Cryfach na theimladau, O! C’nesach yw na thanau, O! Dewch i ddathlu gyda mi Rhannu’r wefr o ddilyn Iesu. Dyma be’ di teulu’r ffydd! Ennillodd fy […]
Cariad Iesu Grist, cariad Duw yw ef: cariad mwya’r byd, cariad mwya’r nef. Gobaith plant pob oes, gobaith dynol-ryw, gobaith daer a nef ydyw cariad Duw. Bythol gariad yw at y gwael a’r gwan, dilyn cariad Duw wnelom ymhob man. Molwn gariad Duw ar bob cam o’r daith, canu iddo ef fydd yn hyfryd waith. […]
Cariad llethol Duw; Dyfnach na’r moroedd, Uwch yw na’r nefoedd. Fythol, fywiol Dduw, Ti a’m hachubodd i. Baich fy mhechod cas ‘Roed arno Ef, Fab Duw o’r nef; Talu ‘nyled drom – Mor fawr yw’th gariad di. Cariad mor ddrud yn rhodd i’n byd, Gras a thrugaredd mor rhad. Arglwydd, dyma’r gwir – Rwyf yn […]
Cariad na bu ei fath Yw cariad f’Arglwydd glân; ‘Gras i’r di-ras i’w gwneud Yn raslon,’ yw ein cân; Ond pwy wyf fi? Cadd, er fy mwyn, Yr Iesu ei ddwyn i Galfari! Gadawodd orsedd nef Er dwyn iachâd i ddyn; Ond fe’i gwrthodwyd Ef, Y Crist, gan bawb yn un: Fy nghyfaill yw, ffyddlonaf […]
Cariad, pur fel yr eira gwyn; Cariad, wyla dros g’wilydd dyn; Cariad, sy’n talu ‘nyled i; O Iesu, cariad. Cariad, rydd hedd i’m calon i; Cariad, leinw y gwacter du; Cariad, ddengys sancteiddrwydd im; O Iesu, cariad. Cariad, dardda o orsedd Duw; Cariad, lifa drwy hanes byw; Cariad, ffynnon y bywyd yw; O Iesu, […]
Cariad Tri yn Un at yr euog ddyn, cariad heb ddechreuad arno, cariad heb ddim diwedd iddo; cariad gaiff y clod tra bo’r nef yn bod. Cariad Duw y Tad, rhoes ei Fab yn rhad a’i draddodi dros elynion i’w gwneud iddo yn gyfeillion; cariad gaiff y clod tra bo’r nef yn bod. Cariad Iesu […]
Cariad yw Duw (Tôn: The Glory Song, Charles H. Gabriel) “Cariad yw Duw”, dyma’r cysur a ddaw beunydd i’m cadw rhag pryder a braw; pan ddaw amheuon, daw’r cariad a’i wres ataf i’m tynnu at f’Arglwydd yn nes. Cytgan: Cariad fy Nuw, gwir gariad yw, daw imi’n rhad, daw heb nacâd; prawf o’i anwyldeb yw […]
Llewyrch seren Bethlem Welwyd yn y nef, Hon gyhoeddodd neges Ei ddyfodiad Ef; Doethion dri o’r dwyrain Ddaethant at ei grud, Gan offrymu iddo Eu trysorau drud. Carol bêr yr engyl Seiniodd yn y nen, Proffwydoliaeth oesau Heddiw ddaeth i ben; Crymu wna’r bugeiliaid Ofnus hyd y llawr, Iddynt hwy datguddiwyd Y rhyfeddod mawr. Draw […]
Cefais olwg ar ogoniant fy Ngwaredwr ar y pren, drwy ffenestri ei ddoluriau gwelais gariad nefoedd wen: gorfoledda f’enaid wrth ei ryfedd groes. Ymddisgleiriodd ei ogoniant dros y byd ar Galfarî; golau cariad Duw sydd eto yn tywynnu arnom ni: gorfoledded cyrrau’r ddaear wrth y groes. Hyfryd fore fydd pan glywir côr y nef a’r […]