Does ’na neb fel Ti, Does ’na neb fel Ti, Does ’na neb fel Ti Iesu. O dy aberth pan est ti i Galfari. O dy gariad ar y groes drosof fi. ©2008 Andy Hughes Singable English translation: There is none like You, There is none like You, There is none like You Jesus. O your sacrifice poured out at Calvary. O Your love shown on the cross, Lord, for me.
‘Does destun gwiw i’m cân ond cariad f’Arglwydd glân a’i farwol glwy’; griddfannau Calfarî ac angau Iesu cu yw ‘nghân a’m bywyd i: Hosanna mwy! Caniadau’r nefol gôr sydd oll i’m Harglwydd Iôr a’i ddwyfol glwy’; y brwydrau wedi troi, gelynion wedi ffoi sy’n gwneud i’r dyrfa roi Hosanna mwy! O wyrthiau’i gariad ef! Ni […]
Pennill 1 Bydysawd ddaeth o’r gwagle mawr Wrth wrando ar dy air Yr wybren fry a’r ddaear is Yr ardd a ddaeth o’r llwch Dy lais di sydd yn tanio’r nen A gwead yr holl sêr Yn nwyster dy holl fawredd di Dangosaist pwy wyt ti Corws Pob clod a pharch i’th enw di Ti’n […]
Does dim byd allai neud i Ti Fy ngharu mwy na llai nag wyt ti nawr Dim ots i ble dwi’n mynd, dwi’n gwybod wnei fy nilyn Iesu Iesu, O Iesu Iesu. O-o-o-o, O-o-o-o, O-o-o-o, O-o-o-o, O-o-o-o, O-o-o-o, O Ti yw ein Duw sydd yn rhedeg ar ein hôl, Ti yw ein Duw sydd fel […]
‘Does gyffelyb iddo ef ar y ddaear, yn y nef; trech ei allu, trech ei ras na dyfnderau calon gas, a’i ffyddlondeb sydd yn fwy nag angheuol, ddwyfol glwy’. Caned cenedlaethau’r byd am ei enw mawr ynghyd; aed i gyrrau pella’r ne’, aed i’r dwyrain, aed i’r de; bloeddied moroedd gyda thir ddyfnder iachawdwriaeth bur. […]
‘Does neb ond ef, fy Iesu hardd, A ddichon lanw ‘mryd; Fy holl gysuron byth a dardd O’i ddirfawr angau drud. ‘Does dim yn gwir ddifyrru f’oes Helbulus yn y byd Ond golwg mynych ar y groes Lle talwyd Iawn mewn pryd. Mi welaf le mewn marwol glwy’ I’r euog guddio’i ben, Ac yma llechaf […]
Doethineb perffaith Duw y Tad Ddatguddir drwy’r bydysawd maith. Pob peth a grewyd gan Ei lais A gaiff ei gynnal gan E’n barhaus. Fe ŵyr gyfrinach yr holl sêr, A thrai a llanw’r moroedd mawr; Gyrra’r planedau ar eu taith A thry y ddaear i wneud ei gwaith. Doethineb anghymharol Duw A lywia lwybrau dynol […]
Dof fel yr wyf, ‘does gennyf fi ond dadlau rhin dy aberth di, a’th fod yn galw: clyw fy nghri, ‘rwy’n dod, Oen Duw ‘rwy’n dod. Dof fel yr wyf, ni thâl parhau i geisio cuddio unrhyw fai; ond gwaed y groes all fy nglanhau: ‘rwy’n dod, Oen Duw ‘rwy’n dod. Dof fel yr wyf, […]
Dof Nefol Dad o’th flaen i’th foli di Dyrchafaf d’enw di yn awr. Mae d’Air fel craig, o oes i oes yr un, Cyflawnir d’addewidion mawr. Yn dy faddeuant gorfoleddaf fi, Mawr yw dy iachawdwriaeth di, Mawr yw dy gariad roddodd Grist i’n byd Yn Iawn dros ein pechodau du. Molaf Ef â’m nerth, gyda […]
Dos rhagot cân, o deffro eglwys Dduw, Aed iachawdwriaeth i’r cenhedloedd gwyw; Cyhoeddwch Grist yn frenin, Geidwad mad, A chaner clodydd iddo ym mhob gwlad. Dos rhagot cân, fe’n câr ni oll bob un, Trwy ras fe etyb galwad pob rhyw ddyn; Pa fodd y galwant oni chlywsant air Gwahoddiad grasol Iesu faban Mair? Dos […]