Efe yw’r perffaith Iawn. Mae Teyrnas Gras yn llawn O bechaduriaid mawr A gafodd yma i lawr O’u crwydro ffôl – faddeuant llwyr Gan Iesu Grist, cyn mynd rhy hwyr. Fy iachawdwriaeth i Sydd wastad ynot Ti, Mae grym y Groes a’r gwaed A’r llawnder im a gaed, O’th ryfedd ras – yn cyfiawnhau. A […]
Efengyl tangnefedd, O rhed dros y byd, a deled y bobloedd i’th lewyrch i gyd; na foed neb heb wybod am gariad y groes, a brodyr i’w gilydd fo dynion pob oes. Sancteiddier y ddaear gan Ysbryd y ne’; boed Iesu yn Frenin, a neb ond efe: y tywysogaethau mewn hedd wrth ei draed a […]
Corws Clod i’r Iôr Ei gariad sy’n fwy (Yn) drech na’r tywyllwch, (yn) newydd bob dydd Mae’n beiau yn llawer, ei gariad sy’n fwy Pennill 1 Pa gariad all beidio â chofio ein bai Ac E’n hollwybodol, ni chyfrant o’i flaen I ddyfnder y moroedd fe’u teflir i gyd Mae’n beiau yn llawer, ei gariad […]
Eiddo yr Arglwydd, eiddo yr Arglwydd, eiddo yr Arglwydd y ddaear i gyd, a’r cyfan ag sydd yn y byd i gyd. Codwch eich pennau, O byrth, codwch eich pennau, i Frenin y gogoniant gael dod i mewn, i Frenin y gogoniant ddod i mewn. Pwy yw y Brenin, pwy yw y Brenin? Arglwydd y […]
Daethost a throi’r dŵr yn win, peri i’r dall weld yn glir, Does neb sy’n debyg, neb fel ti! Ti sy’n goleuo ein nos, ti wnaeth ein codi o’r ffos, Does neb sy’n debyg, neb fel ti! Ein Duw yw’r mwyaf, ein Duw yw’r cryfaf, Yr unig Un, ti di’r Duw Goruchaf Ein Duw’r iachäwr, […]
Ein gwlad a’n pobol gofiwn nawr mewn gweddi wrth dy orsedd fawr; gad i’n teuluoedd geisio byw mewn heddwch gyda thi, O Dduw. Yng nghanol anawsterau’r oes boed inni dderbyn golau’r groes a chofio’r Gŵr a’i rhoes ei hun i ddwyn dynoliaeth ar dy lun. Lle mae casineb, cariad fo, a lle mae cam, maddeuant […]
Y mae Cymru wedi troi ei chefn, wedi teithio’n bell oddi wrthyt Ti, a dirmygu dy holl roddion grasol; O ein Tad trugarog clyw ein cri: Cymer Dy le ac anfon Dy lân Ysbryd i’r enaid sych sy’n barod am Dy dân. Ein hunig obaith tyrd i’n llenwi eto. Adfywia ni yn nerth Dy Ysbryd […]
Ein nerth a’n cadarn dŵr yw Duw, ein tarian a’n harfogaeth; o ing a thrallod o bob rhyw rhydd gyflawn waredigaeth. Archelyn dyn a Duw llawn o gynddaredd yw, ei lid a’i ddichell gref yw ei arfogaeth ef; digymar yw’r anturiaeth. Ni ellir dim o allu dyn: mewn siomiant blin mae’n diffodd; ond drosom ni […]
Eistedd wyt ar ddeheulaw’r Tad, Cans ti yw yr Archoffeiriad. Eistedd wyt yn y nefoedd fry; Wrth dy draed yn awr Fe ddown i’th foli di. Ramon Pink: We will place you on the highest place, cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones Hawlfraint © 1982 Sovereign Music UK P O Box 356, Leighton Buzzard LU7 3WP UK […]
Ellir newid ein gwlad? Ellir achub ein gwlad? Ellir troi’n gwlad ‘nôl atat Ti? Plygwn o’th flaen, Lawr ar ein gliniau, Dad. Plygwn o’th flaen, Lawr ar ein gliniau, Dad. Tyrd i newid ein gwlad. Tyrd i achub ein gwlad. Tyrd i droi’n gwlad ‘nôl atat ti. Can A Nation Be Changed?: Matt Redman, Cyfieithiad […]