Ar fôr tymhestlog teithio ‘rwyf i fyd sydd well i fyw, gan wenu ar ei stormydd oll: fy Nhad sydd wrth y llyw. Trwy leoedd geirwon, enbyd iawn, a rhwystrau o bob rhyw y’m dygwyd eisoes ar fy nhaith: fy Nhad sydd wrth y llyw. Er cael fy nhaflu o don i don, nes ofni bron […]
Ar gyfer heddiw’r bore ‘n faban bach y ganwyd gwreiddyn Jesse ‘n faban bach; y Cadarn ddaeth o Bosra, y Deddfwr gynt ar Seina, yr Iawn gaed ar Galfaria ‘n faban bach yn sugno bron Maria ‘n faban bach. Caed bywiol ddŵr Eseciel ar lin Mair a gwir Feseia Daniel ar lin Mair; caed bachgen […]
Samariad Trugarog, Luc 10: 25-37 Ar hyd y ffordd i Jericho Disgwyliai lladron cas Am berson unig ar ei daith Heb ots beth oedd ei dras. Gadawyd ef a golwg gwael I farw wrth y berth, Heb unrhyw un i drin ei friw Ac adfer peth o’i nerth. Aeth swyddog Teml heibio’r fan Aeth ar […]
Ar ôl atgyfodiad Iesu, Treuliodd amser yn y byd Gyda’i ffrindiau a’u haddysgu Am y cariad mwyaf drud. Soniodd wrthynt bod ‘na helfa Ym mysg dynion gwlad a thref, A bod Duw am rannu iddynt Holl fendithion mwya’r nef. Cyn i’r Ysbryd Glân ymddangos Megis cyffro’r nefol dân I rhoi grym yr argyhoeddiad Ac eneiniad […]
Ar ŵyl y cynhaeaf rhown ddiolch i’r Iôr am roi bara i’n cadw ni’n fyw; mae rhoddion yr Arglwydd o’n cwmpas yn stôr, rhoddwn ddiolch i’r Arglwydd ein Duw, ein Duw, rhown ddiolch i’r Arglwydd ein Duw. Efe roddodd heulwen a glaw yn ei bryd, ac aeddfedodd y dolydd a’r coed; cawn gasglu eleni holl […]
Ar yrfa bywyd yn y byd a’i throeon enbyd hi o ddydd i ddydd addawodd ef oleuni’r nef i ni. Fy enaid dring o riw i riw heb ofni braw na haint yn ôl dy ddydd y bydd dy nerth ar lwybrau serth y saint. Y bywyd uchel wêl ei waith ar hyd ei daith […]
Ar yrfa bywyd yn y byd a’i throeon enbyd hi o ddydd i ddydd addawodd ef oleuni’r nef i ni. Fy enaid dring o riw i riw heb ofni braw na haint yn ôl dy ddydd y bydd dy nerth ar lwybrau serth y saint. Y bywyd uchel wêl ei waith ar hyd ei daith […]
Arglwydd da ’rwyt yma Yn ein plith ni, D’ogoniant sydd o’n cylch. Rho i’m glust i wrando, Par i’m weld dy wyneb. Dy gwmni yw yr ateb I ddyhead f’enaid i. Fe ganaf gân o fawl i ti’r Goruchaf, Cans ti yw’r un sy’n deilwng. Yn gaeth un waith, ond rhydd wyf nawr. Dy deyrnas […]
Arglwydd Dduw dyma ni’n Deulu llon sy’n dy garu di. Dyma ni gyda’n gilydd – Gwasanaethwn di. Yma yn tŷ ni, ry’n ni am ufuddhau i Ti; Darllen dy Air bob dydd, dysgu gweddïo’n rhydd. Ni fydd yn hawdd i ni, ond fe’th ddilynwn di, Gwnawn Iesu yn rhif un, yn tŷ ni! Yn tŷ […]
Arglwydd Dduw teuluoedd Israel, rho i ninnau’r fendith fawr a goleua’n holl drigfannau â goleuni’r nefol wawr: O llewyrched golau’r nef drwy dir ein gwlad. Dyro fwynder ar yr aelwyd, purdeb a ffyddlondeb llawn, adfer yno’r sanctaidd allor a fu’n llosgi’n ddisglair iawn: na ddiffodded arni byth mo’r dwyfol dân. Aed gweddïau’r saint i fyny […]