logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Doethineb perffaith Duw y Tad

Doethineb perffaith Duw y Tad Ddatguddir drwy’r bydysawd maith. Pob peth a grewyd gan Ei lais A gaiff ei gynnal gan E’n barhaus. Fe ŵyr gyfrinach yr holl sêr, A thrai a llanw’r moroedd mawr; Gyrra’r planedau ar eu taith A thry y ddaear i wneud ei gwaith. Doethineb anghymharol Duw A lywia lwybrau dynol […]


Dof fel yr wyf, ‘does gennyf fi

Dof fel yr wyf, ‘does gennyf fi ond dadlau rhin dy aberth di, a’th fod yn galw: clyw fy nghri, ‘rwy’n dod, Oen Duw ‘rwy’n dod. Dof fel yr wyf, ni thâl parhau i geisio cuddio unrhyw fai; ond gwaed y groes all fy nglanhau: ‘rwy’n dod, Oen Duw ‘rwy’n dod. Dof fel yr wyf, […]


Dof Nefol Dad o’th flaen i’th foli di

Dof Nefol Dad o’th flaen i’th foli di Dyrchafaf d’enw di yn awr. Mae d’Air fel craig, o oes i oes yr un, Cyflawnir d’addewidion mawr. Yn dy faddeuant gorfoleddaf fi, Mawr yw dy iachawdwriaeth di, Mawr yw dy gariad roddodd Grist i’n byd Yn Iawn dros ein pechodau du. Molaf Ef â’m nerth, gyda […]

  • Gwenda Jenkins,
  • June 19, 2015

Dos rhagot cân, o deffro eglwys Dduw

Dos rhagot cân, o deffro eglwys Dduw, Aed iachawdwriaeth i’r cenhedloedd gwyw; Cyhoeddwch Grist yn frenin, Geidwad mad, A chaner clodydd iddo ym mhob gwlad. Dos rhagot cân, fe’n câr ni oll bob un, Trwy ras fe etyb galwad pob rhyw ddyn; Pa fodd y galwant oni chlywsant air Gwahoddiad grasol Iesu faban Mair? Dos […]


Dragwyddol Dad, dy gariad mawr

Dragwyddol Dad, dy gariad mawr sy’n gwylied drosom ar bob awr; ar fôr a thir, ar fryn a glan, ym merw’r dref, mewn tawel fan; dy nawdd rho heddiw i’r rhai sydd yn arddel ynot ti eu ffydd. Dragwyddol Geidwad o’th fawr ras ddioddefaist lid gelynion cas, ar dy drugaredd nid oes ball a’th eiriol, […]

  • Gwenda Jenkins,
  • April 27, 2015

Dragwyddol Dduw

Dragwyddol Dduw, down atat ti, O flaen dy orsedd fawr. Fe ddown ar hyd y newydd fywiol ffordd, Mewn hyder llawn y down. Datgan dy ffyddlondeb wnawn, A’th addewidion gwir, Nesu wnawn i’th lawn addoli di. (Dynion) O sanctaidd Dduw, down atat ti, O sanctaidd Dduw, gwelwn dy ffyddlon gariad mawr, Dy nerthol fraich, llywodraeth […]

  • Gwenda Jenkins,
  • June 24, 2015

Dragwyddol Dduw, addolwn di

Dragwyddol Dduw, addolwn di; Rhoist dy Fab i’n hachub ni. Gair ein Duw luniodd y byd, Rhoes ei waed yn aberth drud. Ddisglair Un, y Seren Fore, Fe’th addolwn, fe’th fawrygwn. Ynom ni fe wawriodd golau Iesu Grist, addolwn Di. Cyfieithiad Cymraeg Awdurdodedig : Arfon Jones (Almighty God, Austin Martin) Hawlfraint © 1983 ac yn y […]

  • Gwenda Jenkins,
  • April 30, 2015

Draw, draw ymhell mae gwyrddlas fryn

Draw, draw ymhell mae gwyrddlas fryn tu faes i fur y dref lle’r hoeliwyd Iesu annwyl gynt o’i fodd i’n dwyn i’r nef. Ni wyddom ni, ni allwn ddweud faint oedd ei ddwyfol loes, ond credu wnawn mai drosom ni yr aeth efe i’r groes. Bu farw er mwyn maddau bai a’n gwneud bob un […]


Dro ar ôl tro

Dro ar ôl tro Atat dof yn ôl; Cofio’r cariad cyntaf. Dro ar ôl tro Bywyd roist i mi Fel gwlith yn y bore. Trugarog, llawn gras Araf i ddigio; Pob dieithryn, o Dduw, Sy’n profi dy groeso. Dro ar ôl tro, Dro ar ôl tro. Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, Time and again: Caroline Bonnett, […]


Duw a’i dyrchafodd ef

Duw a’i dyrchafodd ef Fry i entrych nef, Rhoddi iddo enw Sydd goruwch pob un. Plyga pob glin o’i flaen, Cyffesant Ef yn ben. Yr Arglwydd Iesu Grist – Ef yw’r un, er gogoniant Duw Dad. (Grym Mawl 1: 41) Austin Martin: God has Exalted Him, Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones Hawlfraint © Thankyou Music 1984

  • Gwenda Jenkins,
  • June 24, 2015