Gariadlon Dduw, clodforwn di, Diogel y’m dan d’adain gu, Ti wêl bob cam o daith dy blant, Ein gobaith ni. Fe saif ein gobaith ynot ti Rhoist dy hun i ni gael byw; Do fe ddaethost lawr o’r nefoedd, Buost farw i ni gael byw. Diolch Iesu am ein harwain Ein bendithio wyt bob dydd. […]
Ger dy fron, yn dy gôl, Cariad fy Nuw’n cyffwrdd pob rhan. Closio’n nes, closio’n agos iawn. Rwyt ti yno byth, pan nad wyf yn gweld. Ger dy fron, yn dy gôl, Dyma’r lle dw’i angen bod. Ger dy fron, law yn llaw, Clywaf ti’n dweud ‘Dwi’n deall wir’ Gyda thi, fy nghâr, fy ffrind. […]
Ger dy fron plygwn lawr, D’wyneb di geisiwn nawr. Down o’th flaen, Frenin mawr Ger dy fron, plygwn lawr. Fe gyffeswn ni Dy Arglwyddiaeth di; Yn d’oleuni disglair di Plygwn lawr yma nawr. Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, We bow down, Viola Grafstrom Hawlfraint © 1996 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. gan […]
Gerbron fy Nuw a’i orsedd gref Mae gennyf achos llawn di-lyth; Yr Archoffeiriad mawr yw Ef Sy’n byw i eiriol trosof byth; Fe seliwyd f’enw ar ei law Ac ar ei galon raslon wiw; A gwn, tra saif fy Ngheidwad draw, Na chaf fy ngwrthod gan fy Nuw. Os Satan ddaw i’m bwrw i lawr […]
Mae hon yn hen emyn – ond mae cerddoriaeth gyfoes wedi cael ei chyfansoddi ar ei chyfer – dilynwch y ddolen youtube ar waelod y dudalen. Pennill 1 Un dydd gyda’r nefoedd yn orlawn o’i foliant, Un diwrnod â phechod yn ddu fel y fall, Iesu ddaeth atom, fe’i anwyd o forwyn, I fyw yn […]
Goleuni y Byd A greodd y wawr, A’r sêr sydd mewn oriel O’i wyrthiol waith mawr. Pob planed sy’n troi, drwy’i Air maent yn bod, I ddangos ei fawredd a chanu ei glod. Dewch, dewch bobl y byd Gwelwch oleuni ein Duw, Clod, clod, rhowch iddo Ef Credwch yn wir, credwch drwy ffydd Yn ei […]
Gorffennwyd! Y Meseia roes Ei fywyd dros bechodau’r byd; Mae rhyddid cyflawn drwy ei waed – Cyflawnwyd diben aberth drud. Gorffennwyd! Talwyd dyled lawn Brynhawn drwy aberth Calfari. Gwnaed perffaith Iawn drwy waed yr Oen, Bu farw Iesu drosom ni. Fe rwygwyd llen y deml fu, Agorwyd ffordd i’r nefoedd fry; Trwy Grist fe chwalwyd […]
Gorlifa, Dy gariad pur tuag ataf fi; Gorlifa, Er na haeddais ddim o’th law. Wrth i mi’th geisio di, Datguddia d’hun i mi, fy Nhad. Wrth i mi’th geisio di, Datguddia d’hun i mi, fy Nhad. Di-atal, Ydyw llif dy gariad ataf fi; Di-atal, Er na haeddais ddim o’th law. Wrth i mi’th geisio di, […]
Gras tu hwnt i’m deall i, Yn rhad a helaeth er fy mai Alwodd fi ers cyn i’m fod I roi i Ti y mawl a’r clod. Gras rhyfeddol, dwfn a glân Welodd ddyfnder f’angen i, Yn derbyn baich fy mhechod i A’m gwisgo â’th gyfiawnder di. Gras, A dalodd y pris i’m dwyn i […]
Grist Gorchfygwr, byth deyrnasi, Ceidwad, Brenin Glân, Iôr y nef, Ti a’n cynheli, Gwrando ar ein cân: Rhown y goron ar dy ben, Yn fawr dy glod, yn fythol fyw. Gair mewn cnawd, y gwir ddatguddi, Mab y Dyn, ein brawd; Nerth a mawredd Ti a’u cuddi Trwy dy eni tlawd. Gwas dioddefus wyt a […]