Oen ein Duw, Sanctaidd Un, Iesu Grist, Fab y dyn, Hoeliwyd ef yn fy lle ar groes; Er mwyn i mi, yr euog un, Brofi y gwaed sydd eto’n glanhau, Yn iacháu, yn maddau. Fe’th ddyrchafaf di, Iesu fy aberth i; Ti yw ’Mhrynwr i, fy Arglwydd, ti yw Nuw. Fe’th ddyrchafaf di, teilwng ydwyt […]
Oer wyf a gwan, ddoi di yn nes? Estyn dy fflam, rho im dy wres. Llanw ‘mywyd â chariad Duw Llanw’m calon i â ffydd. Ysbryd, llosga’n fflam A thro fy nos yn ddydd. Ennyn y fflam, ennyn y fflam. Gwna fi’n danbaid fel o’r blaen – Grist, O! tania fi. Ennyn y fflam, ennyn […]
Onid yw ef yn hardd fel y wawr? Onid yw? T’wysog Hedd, Fab ein Duw, onid yw? Onid yw’n sanctaidd Dduw? Sanctaidd Dduw, onid yw? Cyfiawn yw y Cadarn Dduw; onid yw, onid yw, onid yw? Isn’t he beautiful? John Wimber, Cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones © Mercy Publishing/Thankyou Music 1980. Gwein. gan Copycare (Grym Mawl 1: 71)
Os heddwch fel afon sy’n canlyn fy nhroed, Neu dristwch fel ymchwydd y lli – Beth bynnag a ddaw, Ti a’m dysgaist i ddweud “Diogel wyf, diogel wyf gyda Thi.” Diogel wyf gyda Thi, Diogel wyf, diogel wyf gyda Thi. Mae Satan yn brwydro a rhwystrau yn dod, Ond methant ddarostwng fy nghri Fod Crist […]
Pa bryd y cedwi’r bobol, drugarog Dduw, pa bryd? Nid mawrion, heb y miloedd, nid beilchion, ond y byd: blodau dy galon yw’r rhai hyn; gânt hwy ddiflannu megis chwyn heb weled gwawr o obaith gwyn? Duw gadwo’r bobol! Gaiff trosedd fagu trosedd a’r cryf gryfhau o hyd? A fynni di i lafur fyth gynnal […]
Pa fawredd yw’r gogoniant hwn Ddewisodd ddod yn ddim? Cyfnewid gwychder nef y nef Am fyd mor dlawd a llwm. Daeth Duw yn un ohonom ni Tu hwnt i ddeall dyn; Rhyfeddu mwy a wnaf bob tro Y clywa’ i’r hanes hwn. Beth wnaf ond plygu glin; Addolaf ger dy fron A dyfod fel yr […]
Pan edrychaf gyda’r sanctaidd lu, A phan syllaf ar dy harddwch di. Pan mae popeth o’m cylch Megis cysgod yn d’oleuni pur. Pan ymgollaf yn dy gariad a’th ras, A’m hewyllys mwy ynghlwm wrthyt ti, Pan mae popeth o’m cylch Megis cysgod yn d’oleuni pur. Addolaf di, Addolaf di, Fy mywyd i yw cael d’addoli […]
Pan edrychaf i’r nefoedd Ar waith dy ddwylo Di, Gwelaf y lleuad a’r sêr – Gwaith dy fysedd ydynt oll; Ond fe’n ceraist ni gyda gras mor ddwfn; O, Iôr, mor fawr wyt ti! Plant sy’n canu dy glodydd, A’r gelyn sydd yn ffoi; Iôr mae dy enw mor nerthol, Rhyfeddol yw yn awr; Ond […]
Pan fwy’n cydio’n dynn yng ngodre gwisg fy Arglwydd Grist, fe lifa nerth i’m hysbryd llesg: ‘rwy’n dy garu, Iôr. Pan fwy’n torri blwch yr ennaint gwerthfawr dros dy ben rhof it fy oll, rhof it fy hun: ‘rwy’n dy garu, Iôr. Hywel M. Griffiths © Siân Griffiths. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
Pan fwy’n teimlo ôl dy law ar greithiau ‘mywyd i, fe dardd y gân o dan fy mron: ‘rwy’n dy garu, Iôr. Ac yn ddwfn o’m mewn mae f’enaid yn d’addoli di, ti yw fy Mrawd, ti yw fy Nuw, ac fe’th garaf, Iôr. KERI JONES a DAVID MATTHEWS (When I feel the touch) […]