Teilwng yw yr Oen sydd ar orsedd nef, Teilwng yw yr Oen laddwyd, Teilwng o’r gallu a chyfoeth, Doethineb a nerth, Nerth a gogoniant, anrhydedd a mawl, Byth bythoedd, byth bythoedd mwy! David J. Hadden: Worthy is the Lamb seated on the throne, Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones Hawlfraint © 1983 Restoration Music Ltd/Sovereign Music UK […]
Teilwng, mae Iesu’n deilwng, Mae ei weithredoedd ef yn gyfiawn ac yn dda. Addfwyn, mae Iesu’n addfwyn, Mae’n maddau beiau lu a’i gariad sy’n ddi-drai. Clodforaf nawr yr enw mwyaf un, Ymunwch i foli sanctaidd Fab y dyn. Tragwyddol a fydd y gân, Tragwyddol a fydd y gân, Tragwyddol a fydd y gân, Tragwyddol a […]
Teilwng, o teilwng ydwyt ti, Teilwng wyt o’r mawl a’r clod, Addoliad ’nghalon i. Teilwng, o teilwng ydwyt ti, Teilwng wyt o’r mawl a’r clod, Addoliad ’nghalon i. Canwn ‘Haleliwia, Werthfawr Oen ein Duw, Addolwn ac ymgrymwn, i ti dymunwn fyw. Haleliwia, clod a rown ynghyd, Ti’n fwy na choncwerwr Ti’n Arglwydd yr holl fyd.’ […]
Teilwng, rwyt Ti’n deilwng Tu hwnt i’m meddyliau i Ni alla i ddychmygu Beth yw maint d’ogoniant Di Ni alla i byth ddechrau dweud Mor ddwfn yw’th gariad di Clywais Iôr amdanat Ti Ond nawr mi welaf i. Ti’n deilwng Ti’n deilwng Ti’n deilwng Ti’n deilwng o bob clôd Byth bythoedd ac am oes. Rhof […]
Yr adar bach sy’n canu Yn swynol ar y coed, Canmolant gariad Iesu, Y gorau fu erioed, Telynau bychain ydynt I lonni’r galon drist, ‘D oes allu i ddistewi Eu cân o fawl i Grist. Cytgan: Telynau bychain Iesu, a’u sain yn cyrraedd nef, I uno yn yr anthem. O foliant iddo Ef. Y blodau […]
Fel y lefain yn y blawd Wedi ei guddio a’i dylino Eto’n tyfu yn y dirgel Nes caiff y cwbl ei lefeinio; Tebyg i hyn mae teyrnas Dduw, Tebyg i hyn mae teyrnas Dduw. Deled dy deyrnas Gwneler d’ewyllys Yma ar y ddaear Fel yn y nefoedd Fel yr hedyn lleiaf un Wedi ei guddio’n […]
Ti Arglwydd nef a daear, bywha’n calonnau gwyw, dysg in gyfrinach marw, dysg in gyfrinach byw. Rho glust i glywed neges dy fywyd di dy hun; rho lygad wêl ei gyfle i wasanaethu dyn. Gogoniant gwaith a dioddef, a hunanaberth drud, lewyrcho ar ein llwybrau tra byddom yn y byd. Boed hunan balch ein calon […]
Ti Arglwydd yw fy rhan, A’m trysor mawr di-drai; A Noddfa gadarn f’enaid gwan, Ym mhob rhyw wae: Ac atat ‘rwyf yn ffoi, Dy fynwes yw fy nyth, Pan fo gelynion yn crynhoi Rifedi’r gwlith. Tydi, fy Nuw, ei hun, Anfeidrol berffaith Fod, Sy’n trefnu daear, da, a dyn, I’th ddwyfol glod; Tywysa f’enaid gwan, […]
Ti biau ’nghalon i, D’eiddo di yw hi. Pura hi, O Dduw, Gwna hi’n galon driw. Ti yw’r crochenydd, A finnau’n glai, Mowldia fi, rho i mi Galon lân ddi-fai. Eddie Espinosa (Change my heart O God), cyf. Nest Ifans © Mercy Publishing/Thankyou Music 1982. Gwein. gan Copycare (Grym Mawl 1: 19)
Ti biau’r goron, atgyfodedig Grist; Cyflawn fuddugoliaeth gaed ar angau trist; Angel ddaeth i sefyll lle gorweddaist Ti, ‘Na, nid yw Ef yma!’ oedd ei lawen gri. Ti biau’r goron, atgyfodedig Grist; Cyflawn fuddugoliaeth gaed ar angau trist. Crist ddaw i’n cyfarch heddiw’n fyw o’r bedd; Gwasgar ofn a thristwch, rhydd i ni ei hedd; […]