logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Gan gredu dy addewid ein Duw

Gan gredu dy addewid ein Duw, Gweddïwn ni a phlygwn i ti, ‘Arglwydd tyrd i lwyr iacháu Ein gwlad, ein gwlad.’   Wrth edrych ar d’addewid yn awr Gadawn holl ffyrdd drygionus y llawr; Arglwydd tyrd i lwyr iacháu Ein gwlad, ein gwlad yn awr. Anfon ddiwygiad, cyffwrdd fi. Mor aflan yw ’ngwefusau hy’; Ond […]

  • MLC_Admin,
  • January 1, 1970

Ganol gaeaf noethlwm

Ganol gaeaf noethlwm cwynai’r rhewynt oer, ffridd a ffrwd mewn cloeon llonydd dan y lloer: eira’n drwm o fryn i dref, eira ar dwyn a dôl, ganol gaeaf noethlwm oes bell yn ôl. Metha nef a daear gynnwys ein Duw; ciliant hwy a darfod pan fydd ef yn llyw: ganol gaeaf noethlwm digon beudy trist […]

  • Gwenda Jenkins,
  • January 28, 2016

Gariad dwyfol, uwch bob cariad

Gariad dwyfol uwch bob cariad, Londer nefoedd, tyrd i lawr; Ynom ninnau gwna dy drigfa, A chorona d’arfaeth fawr; Iesu, llawn tosturi ydwyt, Cariad annherfynol pur, Moes i ni dy iachawdwriaeth, Tyrd i esmwytháu ein cur. Tyrd, anfeidrol i waredu, Rho dy ras i’th bobl i gyd; Dychwel atom ni yn ebrwydd, Yn dy demlau […]


Gariadlon Dduw, Clodforwn di

Gariadlon Dduw, clodforwn di, Diogel y’m dan d’adain gu, Ti wêl bob cam o daith dy blant, Ein gobaith ni. Fe saif ein gobaith ynot ti Rhoist dy hun i ni gael byw; Do fe ddaethost lawr o’r nefoedd, Buost farw i ni gael byw. Diolch Iesu am ein harwain Ein bendithio wyt bob dydd. […]

  • MLC_Admin,
  • January 1, 1970

Ger dy fron

Ger dy fron, yn dy gôl, Cariad fy Nuw’n cyffwrdd pob rhan. Closio’n nes, closio’n agos iawn. Rwyt ti yno byth, pan nad wyf yn gweld. Ger dy fron, yn dy gôl, Dyma’r lle dw’i angen bod. Ger dy fron, law yn llaw, Clywaf ti’n dweud ‘Dwi’n deall wir’ Gyda thi, fy nghâr, fy ffrind. […]


Ger dy fron plygwn lawr

Ger dy fron plygwn lawr, D’wyneb di geisiwn nawr. Down o’th flaen, Frenin mawr Ger dy fron, plygwn lawr.   Fe gyffeswn ni Dy Arglwyddiaeth di; Yn d’oleuni disglair di Plygwn lawr yma nawr. Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, We bow down, Viola Grafstrom Hawlfraint © 1996 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. gan […]

  • MLC_Admin,
  • January 1, 1970

Gerbron fy Nuw

Gerbron fy Nuw a’i orsedd gref Mae gennyf achos llawn di-lyth; Yr Archoffeiriad mawr yw Ef Sy’n byw i eiriol trosof byth; Fe seliwyd f’enw ar ei law Ac ar ei galon raslon wiw; A gwn, tra saif fy Ngheidwad draw, Na chaf fy ngwrthod gan fy Nuw. Os Satan ddaw i’m bwrw i lawr […]


Glân gerwbiaid a seraffiaid

Glân gerwbiaid a seraffiaid fyrdd o gylch yr orsedd fry mewn olynol seiniau dibaid canant fawl eu Harglwydd cu: “Llawn yw’r nefoedd o’th ogoniant, llawn yw’r ddaear, dir a môr; rhodder iti fythol foliant, sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd Iôr.” Fyth y nef a chwydda’r moliant, uwch yr etyb daear fyth: “Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd,” meddant, “Dduw y […]


Glanha dy Eglwys, Iesu mawr

Glanha dy Eglwys, Iesu mawr ei grym yw bod yn lân; sancteiddia’i gweddi yn ei gwaith a phura hi’n y tân. Na chaffed bwyso ar y byd nac unrhyw fraich o gnawd: doed yn gyfoethog, doed yn gryf drwy helpu’r gwan a’r tlawd. Na thynned gwychder gwag y llawr ei serch oddi ar y gwir; […]


Glynwn gyda’r Iesu

Glynwn gyda’r Iesu, Cyfaill dynol-ryw; Unwn oll i’w garu, Gan mor annwyl yw; Ffyddlon yw i’n cofio Â’i ddaioni drud: Glynwn ninnau wrtho, Cyfaill gorau’r byd. Glynwn gyda’r Iesu, Mae i ni yn frawd; Daeth yn un o’n teulu, Bu fel ni yn dlawd; Atom i’n cysuro Daeth i lawr o’r nef; Mae’n ein cofio […]

  • Gwenda Jenkins,
  • November 10, 2015