Hoffi ‘rwyf dy lân breswylfa, Arglwydd, lle’r addewaist fod; nid oes drigfan debyg iddi mewn un man o dan y rhod. Teml yr Arglwydd sy dŷ gweddi, lle i alw arnat ti; derbyn dithau ein herfyniau pan weddïom yn dy dŷ. Hoffi ‘rwyf dy lân fedyddfan lle mae’r Ysbryd oddi fry yn bendithio’r gwan aelodau […]
Hollalluog, nodda ni, cymorth hawdd ei gael wyt ti; er i’n beiau dy bellhau, agos wyt i drugarhau; cadw ni o fewn dy law, ac nid ofnwn ddim a ddaw; nid oes nodded fel yr Iôr, gorfoledded tir a môr! Hollalluog, nodda ni, trech na gwaethaf dyn wyt ti; oni fuost inni’n blaid ymhob oes […]
Hosanna fyth! Mae gennyf Frawd sy’n cofio’r tlawd a’i gŵynion, profedig wyf o’r dwyfol hedd a’i annwyl wedd mor dirion. Fy nghalon wan, mae un a ŵyr yn llwyr dy holl anghenion, ac ymhyfrydu mae o hyd i ddwyn it ddrud fendithion. O tyrd yn awr, Waredwr da, teyrnasa ymhob calon, ym mywyd pawb myn […]
Hosanna, Haleliwia, fe anwyd Brawd i ni; fe dalodd ein holl ddyled ar fynydd Calfarî; Hosanna, Haleliwia, Brawd ffyddlon diwahân; Brawd erbyn dydd o g’ledi, Brawd yw mewn dŵr a thân. Brawd annwyl sy’n ein cofio mewn oriau cyfyng, caeth; Brawd llawn o gydymdeimlad ni chlywyd am ei fath; Brawd cadarn yn y frwydyr; fe […]
Hwn ydyw’r dydd o ras ein Duw, yr amser cymeradwy yw; brysiwn i roi’n calonnau i gyd i’r hwn fu farw dros y byd. Gwelwch yr aberth mawr a gaed, mae gobaith ichwi yn ei waed; O dowch i mewn heb oedi’n hwy, i wledda ar haeddiant marwol glwy’. Dowch, bechaduriaid, dowch i’r wledd, mae’r […]
Hwn ydyw’r dydd y cododd Crist gan ddryllio pyrth y bedd; O cyfod, f’enaid, na fydd drist, i edrych ar ei wedd. Cyfodi wnaeth i’n cyfiawnhau, bodlonodd ddeddf y nef; er maint ein pla cawn lawenhau, mae’n bywyd ynddo ef. Gorchfygodd angau drwy ei nerth, ysbeiliodd uffern gref; ac annherfynol ydyw’r gwerth gaed yn ei […]
mae’r cerddoriaeth gyfoes ar gael – dilynwch y ddolen youtube Mor fawr yw dy ras I’m henaid gwan Yn dy air fe gredaf fi Arhosaf i Tyrd ataf nawr Adnewydda f’Ysbryd i! Cyn-cytgan Ac fe benliniaf o’th flaen, Ac fe benliniaf o’th flaen, Addolaf Di yma nawr. Rwyt ti ynof fi Crist goleua’r ffordd Trwy […]
Hwn yw y dydd, hwn yw y dydd a wnaeth ein Duw, a wnaeth ein Duw, cydlawenhawn, cydlawenhawn a gorfoledd mawr, â gorfoledd mawr; hwn yw y dydd a wnaeth ein Duw, cydlawenhawn â gorfoledd mawr; hwn yw y dydd, hwn yw y dydd a wnaeth ein Duw. Hwn yw y dydd, hwn yw y […]
Hwn yw y sanctaidd ddydd, gorffwysodd Duw o’i waith; a ninnau nawr, dan wenau Duw, gorffwyswn ar ein taith. Hwn yw’r moliannus ddydd, cydganodd sêr y wawr; mae heddiw lawnach testun cân, molianned pawb yn awr. Hwn yw y dedwydd ddydd, daeth Crist o’i fedd yn fyw; O codwn oll i fywyd gwell, i ryddid […]
Hwn, hwn ydyw’r Duw folwn ni, ein Ffrind digyfnewid, di-lyth; ei gariad, lawn cymaint â’i nerth, heb fesur, heb ddiwedd ŷnt byth. Yr Alffa a’r Omega yw Crist, ei Ysbryd a’n dwg draw i dre’; rhown glod am ei ras hyd yn hyn, a’n ffydd am a ddaw ynddo fe. JOSEPH HART, 1712-68 cyf. E. […]