logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Iôr y nef, ymwêl â’r ddaear

Iôr y nef, ymwêl â’r ddaear, edrych ar y maes, y byd: byd a greaist, gofiaist, geraist, brynaist yn yr aberth drud; anfon, Arglwydd, weithwyr i’r cynhaeaf mawr. Ti, a roddodd air y deyrnas, gair y bywyd, gair dy ras, rho dy fendith ar yr heuwr, llwydda law dy waelaf was: arddel, Arglwydd, weithwyr y […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 26, 2015

Jehofa Jire

Jehofa Jire, Duw sy’n rhoi, Jehofa Rophe, Duw’n iacháu; Jehofa M’cedesh, Duw sy’n gwneud yn lân, Jehofa Nisi, Duw yw fy maner. Jehofa Rohi, Duw fy mugail Jehofa Shalom, Duw hedd, Jehofa Tsidcenw, Duw cyfiawnder, Jehofa Shama, Duw sy’n bob man. Cyfieithiad Awdurdodedig: Delyth Wyn, Jehovah Jireh, God will provide (Hebrew names for God): Ian Smale […]

  • MLC_Admin,
  • January 1, 1970

Jubilate

Jubilate, jubilate, canu cân o foliant wnawn i’r Arglwydd, jubilate, jubilate, gwaeddwn gyda’n gilydd, molwn ef; dewch i mewn i’w byrth â diolch, i’w gynteddau awn dan ganu, jubilate, jubilate, jubilate Deo. SALM 100: 1, 2, 4, 5 addas. FRED DUNN, 1908-79, cyf. NEST IFANS Hawlfraint © 1977 Kingsway’s Thankyou Music, P.O. Box 75, Eastbourne […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 11, 2015

Kyrie eleison

Kyrie eleison, Kyrie eleison, Kyrie eleison. Trugarha wrthym, trugarha wrthym, trugarha wrthym. O ein Duw LITWRGI EGLWYS UNIONGRED RWSIA cyf. MAWL AC ADDOLIAD, 1996 (Caneuon Ffydd 47)

  • Gwenda Jenkins,
  • April 27, 2015

Laudate omnes gentes

Laudate omnes gentes, laudate Dominum; laudate omnes gentes, laudate Dominum. Canmolwch enw’r Arglwydd, holl bobloedd daear lawr; canmolwch enw’r Arglwydd, holl bobloedd daear lawr. CYMUNED TAIZÉ cyf. MAWL AC ADDOLIAD, 1996 (Caneuon Ffydd 59)

  • Gwenda Jenkins,
  • April 27, 2015

Llais fy Mugail Yw

Mi glywaf lais sy’n galw f’enaid aflan, Gras a gwirionedd sy’n ei eiriau byw, Mae’n fy ngwahodd i’w ddilyn Ef i’w gorlan, Rwy’n ei adnabod, llais fy Mugail yw. Cytgan: Fy Mugail i, fy Mugail i, fy Mugail i, Rwy’n ei adnabod, llais – llais fy Mugail i. Pan fyddo’r nos yn ddu, a’r byd […]


Llais hyfryd rhad ras sy’n gweiddi, “Dihangfa!”

Llais hyfryd rhad ras sy’n gweiddi, “Dihangfa!” Yng nghlwyfau Mab Duw, bechadur, mae noddfa: i olchi aflendid a phechod yn hollol fe redodd ei waed yn ffrydiau iachusol. Haleliwia i’r Oen bwrcasodd ein pardwn, ‘n ôl croesi’r Iorddonen drachefn ni a’i molwn. Ar angau ac uffern cadd lawn fuddugoliaeth, ysbeiliodd holl allu’r tywyllwch ar unwaith: […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 25, 2015

Llawn o ofid, llawn o wae

Llawn o ofid, llawn o wae, A llawn euogrwydd du, Byth y byddaf yn parhau Heb gael dy gwmni cu; Golwg unwaith ar dy wedd A’m cwyd i’r lan o’r pydew mawr; O! fy Nuw, nac oeda’n hwy, Rho’r olwg imi’n awr. ‘Mofyn am orffwysfa glyd, Heb gwrdd â stormydd mwy; Lloches nid oes yn […]


Llawryfon rhowch ar ben

Llawryfon rhowch ar ben Yr Oen ar orsedd nef. Ni chân angylaidd nefol gôr I neb ond iddo Ef. Fy enaid cân i’r Hwn Fu farw yn dy le; Trwy dragwyddoldeb nid oes gwell Ar ddae’r nac yn y ne. Cododd o’r bedd yn fyw. Gorchfygodd Angau gawr. Ei rym achubol welir yn Ei fuddugoliaeth […]


Lle bynnag wyt, O Grist

Lle bynnag wyt, O Grist, mae bywyd pur ei flas, mae ysbryd yno’n rym a gloyw ffrydiau gras; mae yno fwynder hedd i gyfoethogi’n byw: lle bynnag wyt, O Grist, cawn weled ŵyneb Duw. Lle bynnag wyt, O Grist, symudir baich ein bai, bydd sanctaidd olau’r nef ar wedd yr addfwyn rai; cawn weld yr […]

  • Gwenda Jenkins,
  • January 18, 2016