N’ad im adeiladu’n ysgafn ar un sylfaen is y ne’; n’ad im gymryd craig i orffwys tu yma i angau yn dy le: ti, fy Nuw, tra bwyf byw, gaiff fod fy ngorffwysfa wiw. Dyma’r maen sydd yn y gongol, dyma’r garreg werthfawr, bur gloddiwyd allan yn y bryniau, bryniau tragwyddoldeb dir; nid oes le, […]
N’ad im adeiladu’n ysgafn ar un sylfaen is y ne’; n’ad im gymryd craig i orffwys tu yma i angau yn dy le: ti, fy Nuw, tra bwyf byw, gaiff fod fy ngorffwysfa wiw. Dyma’r maen sydd yn y gongol, dyma’r garreg werthfawr, bur gloddiwyd allan yn y bryniau, bryniau tragwyddoldeb dir; nid oes le, […]
N’ad im fodloni ar ryw rith o grefydd, heb ei grym, ond gwir adnabod Iesu Grist yn fywyd annwyl im. Dy gariad cryf rho’n f’ysbryd gwan i ganlyn ar dy ôl; na chaffwyf drigfa mewn unman ond yn dy gynnes gôl. Goleuni’r nef fo’n gymorth im, i’m tywys yn y blaen; rhag imi droi oddi […]
N’ad i’r gwyntoedd cryf, dychrynllyd, gwyntoedd oer y gogledd draw, ddwyn i’m hysbryd gwan, trafferthus, ofnau am ryw ddrygau ddaw; tro’r awelon oera’u rhyw yn nefol hin. Gwna i mi weld y byd a’i stormydd yn diflannu cyn bo hir; doed i’r golwg dros y bryniau ran o’r nefol hyfryd dir; im gael llonydd gan […]
Na foed cydweithwyr Duw byth yn eu gwaith yn drist wrth ddwyn y meini byw i’w dodi’n nhemel Crist: llawenydd sydd, llawenydd fydd i bawb sy’n gweithio ‘ngolau ffydd. Mae gweithwyr gorau’r ne’ yn marw yn eu gwaith, ond eraill ddaw’n eu lle ar hyd yr oesoedd maith; a ffyddlon i’w addewid fry yw’r hwn […]
Nef a daear, tir a môr sydd yn datgan mawl ein Iôr: fynni dithau, f’enaid, fod yn y canol heb roi clod? Gwena’r haul o’r cwmwl du er mwyn dangos Duw o’n tu; dywed sêr a lleuad dlos am ei fawredd yn y nos. Gwellt y maes a dail y coed sy’n ei ganmol ef […]
Nef yw i’m henaid ymhob man pan brofwyf Iesu mawr yn rhan; ei weled ef â golwg ffydd dry’r dywyll nos yn olau ddydd. Mwynhad o’i ras maddeuol mawr, blaen-brawf o’r nef yw yma nawr; a darllen f’enw ar ei fron sy’n nefoedd ar y ddaear hon. Ac er na welaf ond o ran ac […]
Nefol dad ni allaf ddeall sut y medrais i fodoli Am gyhyd heb wybod am dy gariad grymus di. Ond nawr dy blentyn annwyl wyf, derbyniais Ysbryd y mabwysiad; Wnei di byth fy ngadael i, can’s trigo ’rwyt o fewn fy nghalon. Fe’th addolaf Arglwydd, Fe’th ganmolaf Arglwydd, Fe’th ddyrchafaf Arglwydd, Ti yw fy Nuw! […]
Nefol Dad ti yw fy mywyd, ti yw f’oll, Ac fe ymhyfrydaf ynot ti, Ac fe’th garaf di, ie, fe’th garaf di, Dad, fe’th garaf di, nefol Dad. Iesu, ti yw fy nhrysor tra fwyf byw; ’Rwyt mor bur ac addfwyn, O! Fab Duw. Ac fe’th garaf di, ie, fe’th garaf di, O, fe’th garaf […]
Nefol Dad, erglyw ein gweddi wrth wynebu’r flwyddyn hon, mae’n hamserau yn dy ofal, a’n helyntion ger dy fron; dyro brofi hedd dy gariad, doed a ddêl. Nefol Dad, er gwaetha’n blinder pan fo’r daith yn siomi’n bryd, ninnau’n amau dy ddaioni ac yn credu’n hofnau i gyd, dyro brofi hedd dy gariad, doed a […]