Ai Iesu, cyfaill dynol-ryw, A welir fry, a’i gnawd yn friw, A’i waed yn lliwio’r lle; Fel gŵr di-bris yn rhwym ar bren, A’r goron boenus ar ei ben? Ie, f’enaid, dyma fe. Dros f’enaid i bu’r addfwyn Oen Fel hyn, yn dioddef dirfawr boen, I’m gwneud yn rhydd yn wir; ‘Roedd yn ei fryd […]
Am air ein Duw rhown â’n holl fryd soniarus fawl drwy’r eang fyd; mae’n llusern bur i’n traed, heb goll, mae’n llewyrch ar ein llwybrau oll. Fe rydd i’n henaid esmwythâd, fe’n tywys tua’r nefol wlad gan ddangos cariad Un yn Dri ac ennyn cariad ynom ni. I’r cryf mae’n ymborth llawn o faeth, i’r […]
Am bawb fu’n wrol dros y gwir dy enw pur foliannwn; am olau gwell i wneud dy waith mewn hyfryd iaith diolchwn. Tystiolaeth llu’r merthyri sydd o blaid y ffydd ysbrydol; O Dduw, wrth gofio’u haberth hwy, gwna’n sêl yn fwy angerddol. Gwna ni yn deilwng, drwy dy ras, o ryddid teyrnas Iesu; y breintiau […]
Am blannu’r awydd gynt am Feibil yn ein hiaith a donio yn eu dydd rai parod at y gwaith o drosi’r gair i’n heniaith ni diolchwn, a chlodforwn di. Am ddycnwch rhai a fu yn dysgu yn eu tro yr anllythrennog rai i’w ddarllen yn eu bro, am eu dylanwad arnom ni diolchwn, a chlodforwn […]
Am brydferthwch daear lawr, am brydferthwch rhod y nen, am y cariad rhad bob awr sydd o’n cylch ac uwch ein pen, O Dduw graslon, dygwn ni aberth mawl i’th enw di. Am brydferthwch oriau’r dydd, am brydferthwch oriau’r nos, bryn a dyffryn, blodau, gwŷdd, haul a lloer, pob seren dlos, O Dduw graslon, dygwn […]
Am ddeffro’r gwanwyn yn ei bryd a gwyrth y geni ymhob crud, a gweld rhyfeddol liwiau’r byd, i ti y rhoddwn fawl. Am roi dy nodau ar bob tant, dy felys swyn ar wefus plant ac asbri hen yn nawns y nant, i ti y rhoddwn gân. Am gael ein dysgu, gam a cham, am […]
Am dy ddirgel ymgnawdoliad diolch i ti; am yr Eglwys a’i thraddodiad diolch i ti; clod it, Arglwydd ein goleuni, am rieni a chartrefi a phob gras a roddir inni: diolch i ti! Pan mewn gwendid bron ag ildio mi gawn dydi; pan ar goll ar ôl hir grwydro mi gawn dydi; wedi ffoi ymhell […]
Am dy gysgod dros dy Eglwys drwy’r canrifoedd, molwn di; dy gadernid hael a roddaist yn gynhaliaeth iddi hi: cynnal eto briodasferch hardd yr Oen. Am dy gwmni yn dy Eglwys rhoddwn glod i’th enw glân; buost ynddi yn hyfrydwch, ac o’i chylch yn fur o dân: dyro brofiad o’th gymdeithas i barhau. Am dy […]
Am ffydd, nefol Dad, y deisyfwn, i’n cynnal ym mrwydrau y byd; os ffydd yn dy arfaeth a feddwn, diflanna’n hamheuon i gyd; o gastell ein ffydd fe rodiwn yn rhydd ac ar ein gelynion enillwn y dydd. Am obaith, O Arglwydd, erfyniwn, i fentro heb weled ymlaen; os gobaith dy air a dderbyniwn, daw’r […]
Am fod fy Iesu’n fyw, byw hefyd fydd ei saint; er gorfod dioddef poen a briw, mawr yw eu braint: bydd melus glanio draw ‘n ôl bod o don i don, ac mi rof ffarwel maes o law i’r ddaear hon. Ac yna gwyn fy myd tu draw i’r byd a’r bedd: caf yno fyw […]