Daeth Iesu o’i gariad i’r ddaear o’r nef, fe’i ganwyd yn faban ym Methlehem dref: mae hanes amdano ’n ôl tyfu yn ddyn yn derbyn plant bychain i’w freichiau ei hun. Mae’r Iesu yn derbyn plant bychain o hyd: Hosanna i enw Gwaredwr y byd! Sefydlodd ei deyrnas i blant yn y byd, agorodd ei […]
Daeth Prynwr dynol-ryw yn fyw o’i fedd a disglair ddelw Duw yn harddu’i wedd; dymchwelodd deyrnas gaeth hen deyrn marwolaeth du: rhaid ydoedd rhoi rhyddhad i’n Ceidwad cu. Gwnaeth waith y cymod hedd mewn llwyredd llawn, mae’i feddrod gwag yn dweud ei wneud yn Iawn; trwy’r codi rhoes y Tad fawrhad ar Galfarî, a thorrodd […]
Dal fi fy Nuw, dal fi i’r lan, ‘n enwedig dal fi lle ‘rwy’n wan; dal fi yn gryf nes mynd i maes o’r byd sy’n llawn o bechod cas. Gwna fi’n gyfoethog ymhob dawn, gwna fi fel halen peraidd iawn, gwna fi fel seren olau wiw ‘n disgleirio yn y byd ‘rwy’n byw. Dysg […]
Dal fi’n agos at yr Iesu er i hyn fod dan y groes; tra bwy’n byw ym myd y pechu canlyn dani bura f’oes; os daw gofid a thywyllwch, rho im argyhoeddiad llwyr – wedi’r nos a’r loes a’r trallod, bydd goleuni yn yr hwyr. Dysg im edrych i’r gorffennol, hyn a ladd fy ofnau […]
Dal fi’n gadarn hyd pan ddelo Amser hyfryd o ryddhau, A chael, yn lle temtasiynau, Yn dragywydd dy fwynhau: Dyna’r pryd – gwyn fy myd! – Derfydd fy ngofidiau i gyd. Ti gei’r enw a’r anrhydedd A’r gogoniant yn y man, Am, o ddyfnder maith trueni Iti wared f’enaid gwan: Nid oedd un ond dy […]
(Ceisio Duw yn unig) Dal fy llygad, dal heb ŵyro, Dal ef ar d’addewid wir; Dal fy nhraed heb gynnig ysgog Allan fyth o’th gyfraith bur; Boed d’orchmynion, Imi’n gysur ac yn hedd. O! darfydded imi garu Unrhyw bleser îs y ne’, A darfydded im fyfyrio Ar un gwrthrych yn dy le: Aed fy ysbryd […]
Dan dy fendith wrth ymadael y dymunem, Arglwydd, fod; llanw’n calon ni â’th gariad a’n geneuau ni â’th glod: dy dangnefedd dyro inni yn barhaus. Am Efengyl gras a’i breintiau rhoddwn ddiolch byth i ti; boed i waith dy Ysbryd Sanctaidd lwyddo fwyfwy ynom ni; i’r gwirionedd gwna ni’n ffyddlon tra bôm byw. JOHN FAWCETT, […]
Darfu fy nerth, ‘rwy’n llwfwrhau, O! gwêl yn glau f’anghenraid; Nerth mawr, difesur, fel y môr, A feddi’n stôr i’r gweiniaid. Ti’m tynaist i o ganol tân, A mi o’r blaen yn ofni; Gwna hynny eto’r funud hon, Mae f’enaid bron â threngi. Mi bwysaf atat eto’n nes; Pa les im ddigalonni? Mae sôn amdanat […]
Darfu noddfa mewn creadur, Rhaid cael noddfa’n nes i’r nef; Nid oes gadarn le im orffwys Fythol ond ei fynwes Ef; Dyma’r unig Fan caiff f’enaid wir iachâd. Dan dy adain cedwir f’enaid, Dan dy adain byddaf byw, Dan dy adain y gwaredir Fi o’r beiau gwaetha’u rhyw; ‘Rwyt yn gysgod Rhag euogrwydd yn ei […]
Datganaf dy glod, O Arglwydd fy Nuw, dy wyrthiau a’th nerth sydd hynod eu rhyw; d’ogoniant a’th harddwch a welir drwy’r byd, a phopeth a greaist sy’n rhyfedd i gyd. Goleuni o bell a roddaist uwchben, a thaenaist y nef o amgylch fel llen, y sêr a’r planedau a’r wybren las, faith sy’n datgan drwy’r […]