Mor beraidd i’r credadun gwan yw hyfryd enw Crist: mae’n llaesu’i boen, yn gwella’i glwy’, yn lladd ei ofnau trist. I’r ysbryd clwyfus rhydd iachâd, hedd i’r drallodus fron; mae’n fanna i’r newynog ddyn, i’r blin, gorffwysfa lon. Hoff enw! fy ymguddfa mwyn fy nghraig a’m tarian yw; trysorfa ddiball yw o ras i mi […]
O, O, O mor dda yw ein Duw, O, O, O mor dda yw ein Duw, O, O, O mor dda yw ein Duw, fe roes ei unig Fab er mwyn i ni gael byw. Fe gawsom Waredwr, mor dda yw ein Duw, fe gawsom Waredwr, mor dda yw ein Duw, fe gawsom Waredwr, mor […]
Mor deilwng yw’r Oen fu farw mewn poen er mwyn i droseddwyr gael byw; trwy rinwedd ei waed mawr heddwch a wnaed: cymodwyd gelynion â Duw. Pan gododd Mab Duw o’i feddrod yn fyw dinistriodd holl gryfder y ddraig; gorchfygodd drwy’i waed bob gelyn a gaed: cydganed preswylwyr y graig. Pan ddelo’r holl saint o’r […]
Mor hawddgar yw dy bebyll Di, O! Dduw, Fy enaid flysia am fy Mhrynwr byw, Mae hiraeth ar fy nghnawd a’m calon i Am wir dangnefedd dy gynteddau Di. Aderyn llwyd y to a gafodd dŷ, A’r wennol hithau at dy allor dry; Gwyn fyd preswylwyr dy gynteddau glân, Dy foliant fyddo’n wastad yn eu […]
Myfi’r pechadur penna’, fel yr wyf, wynebaf i Galfaria fel yr wyf; nid oes o fewn yr hollfyd ond hwn i gadw bywyd; ynghanol môr o adfyd, fel yr wyf, mi ganaf gân f’Anwylyd fel yr wyf. Mae’r Oen fu ar Galfaria wrth fy modd, Efengyl a’i thrysorau wrth fy modd: mae llwybrau ei orchmynion […]
‘N ôl marw Brenin hedd, a’i ffrindiau i gyd yn brudd, a’i roi mewn newydd fedd, cyfodai’r trydydd dydd; boed hyn mewn cof gan Israel Duw, mae’r Oen a laddwyd eto’n fyw. Galarwyr Seion, sydd â’ch taith drwy ddŵr a thân, paham y byddwch brudd? eich galar, troer yn gân: O cenwch, etholedig ryw: mae’r […]
N’ad fod gennyf ond d’ogoniant pur, sancteiddiol, yma a thraw, ‘n union nod o flaen fy amrant pa beth bynnag wnȇl fy llaw: treulio ‘mywyd f’unig fywyd, er dy glod. O distewch gynddeiriog donnau tra bwy’n gwrando llais y nef; sŵn mwy hoff, a sŵn mwy nefol glywir yn ei eiriau ef: f’enaid gwrando lais […]
N’ad im adeiladu’n ysgafn ar un sylfaen is y ne’; n’ad im gymryd craig i orffwys tu yma i angau yn dy le: ti, fy Nuw, tra bwyf byw, gaiff fod fy ngorffwysfa wiw. Dyma’r maen sydd yn y gongol, dyma’r garreg werthfawr, bur gloddiwyd allan yn y bryniau, bryniau tragwyddoldeb dir; nid oes le, […]
N’ad im adeiladu’n ysgafn ar un sylfaen is y ne’; n’ad im gymryd craig i orffwys tu yma i angau yn dy le: ti, fy Nuw, tra bwyf byw, gaiff fod fy ngorffwysfa wiw. Dyma’r maen sydd yn y gongol, dyma’r garreg werthfawr, bur gloddiwyd allan yn y bryniau, bryniau tragwyddoldeb dir; nid oes le, […]
N’ad im fodloni ar ryw rith o grefydd, heb ei grym, ond gwir adnabod Iesu Grist yn fywyd annwyl im. Dy gariad cryf rho’n f’ysbryd gwan i ganlyn ar dy ôl; na chaffwyf drigfa mewn unman ond yn dy gynnes gôl. Goleuni’r nef fo’n gymorth im, i’m tywys yn y blaen; rhag imi droi oddi […]