N’ad i’r gwyntoedd cryf, dychrynllyd, gwyntoedd oer y gogledd draw, ddwyn i’m hysbryd gwan, trafferthus, ofnau am ryw ddrygau ddaw; tro’r awelon oera’u rhyw yn nefol hin. Gwna i mi weld y byd a’i stormydd yn diflannu cyn bo hir; doed i’r golwg dros y bryniau ran o’r nefol hyfryd dir; im gael llonydd gan […]
Na foed cydweithwyr Duw byth yn eu gwaith yn drist wrth ddwyn y meini byw i’w dodi’n nhemel Crist: llawenydd sydd, llawenydd fydd i bawb sy’n gweithio ‘ngolau ffydd. Mae gweithwyr gorau’r ne’ yn marw yn eu gwaith, ond eraill ddaw’n eu lle ar hyd yr oesoedd maith; a ffyddlon i’w addewid fry yw’r hwn […]
Nef a daear, tir a môr sydd yn datgan mawl ein Iôr: fynni dithau, f’enaid, fod yn y canol heb roi clod? Gwena’r haul o’r cwmwl du er mwyn dangos Duw o’n tu; dywed sêr a lleuad dlos am ei fawredd yn y nos. Gwellt y maes a dail y coed sy’n ei ganmol ef […]
Nef yw i’m henaid ymhob man pan brofwyf Iesu mawr yn rhan; ei weled ef â golwg ffydd dry’r dywyll nos yn olau ddydd. Mwynhad o’i ras maddeuol mawr, blaen-brawf o’r nef yw yma nawr; a darllen f’enw ar ei fron sy’n nefoedd ar y ddaear hon. Ac er na welaf ond o ran ac […]
Nefol Dad, erglyw ein gweddi wrth wynebu’r flwyddyn hon, mae’n hamserau yn dy ofal, a’n helyntion ger dy fron; dyro brofi hedd dy gariad, doed a ddêl. Nefol Dad, er gwaetha’n blinder pan fo’r daith yn siomi’n bryd, ninnau’n amau dy ddaioni ac yn credu’n hofnau i gyd, dyro brofi hedd dy gariad, doed a […]
Nesawn, nesawn mewn myfyrdodau pur at fwrdd ein Harglwydd i gydgofio’i gur; a rhoed y Brenin mawr ar hyn o bryd ei ŵyneb hoff tra byddom yma ‘nghyd. O am gael ffydd i gydfwynhau y wledd; ‘does un o’i bath i’w chael tu yma i’r bedd; y cariad mawr a unodd Dduw a dyn sydd […]
Ni all angylion nef y nef Fynegi maint ei gariad Ef, Mae angau’r Groes yn drech na’u dawn: Bydd canu uwch am Galfari Na dim a glybu angylion fry, Pan ddelo Salem bur yn llawn. Am iddo farw ar y bryn, Cadd f’enaid bach ei brynu’n llyn A’i dynnu o’i gadwynau’n rhydd: Wel, bellach, dan […]
Ni all angylion pur y nef, Â’u doniau amal hwy, Fyth osod allan werthfawr bris Anfeidrol ddwyfol glwy’. Dioddefodd angau, dygyn boen, A gofir tra fo’r nef, Fy nerth, fy nghyfoeth i a’m braint, A’m noddfa lawn yw Ef. Fe’m denodd i, yn ddirgel iawn A distaw, ar ei ôl; Ac mewn afonydd dyfnion lawn, […]
Ni allodd angau du ddal Iesu’n gaeth ddim hwy na’r trydydd dydd – yn rhydd y daeth; ni ddelir un o’i blant er mynd i bant y bedd, fe’u gwelir ger ei fron yn llon eu gwedd. O Dduw, dod imi ffydd, bob dydd o’r daith weld Seion yn nesáu dros fryniau maith: yn Ben […]
Ni chollwyd gwaed y groes Erioed am ddim i’r llawr; Na dioddef angau loes Heb rhyw ddibenion mawr! A dyna oedd ei amcan Ef – Fy nwyn o’r byd i deyrnas nef. N’âd imi garu mwy Y pechod drwg ei ryw – Y pechod roddodd glwy’ I’m Prynwr, O! fy Nuw. N’ad imi garu dim […]