Ni ddichon byd a’i holl deganau fodloni fy serchiadau nawr, a enillwyd ac ehangwyd yn nydd nerth fy Iesu mawr; ef, nid llai, a all eu llenwi er mor ddiamgyffred yw, O am syllu ar ei Berson, fel y mae yn ddyn a Duw. O na chawn i dreulio ‘nyddiau’n fywyd o ddyrchafu ei waed, […]
Ni feddaf ar y ddaear fawr, ni feddaf yn y ne’ neb ag a bery’n annwyl im yn unig ond efe. Mae ynddo’i hunan drysor mwy nag sy’n yr India lawn; fe brynodd imi fwy na’r byd ar groesbren un prynhawn. Fe brynodd imi euraid wisg drwy ddioddef marwol glwy’, a’i angau ef a guddia […]
Ni fethodd gweddi daer erioed â chyrraedd hyd y nef, ac mewn cyfyngder, f’enaid, rhed yn union ato ef. Ac nid oes cyfaill mewn un man, cyffelyb iddo’n bod, pe baem yn chwilio’r ddaear faith a holl derfynau’r rhod. Ymhob rhyw ddoniau mae e’n fawr, anfeidrol yw ei rym, ac nid oes pwysau ar ei […]
Ni ganwn am gariad Creawdwr yn ddyn, enynnodd cyn oesoedd o fewn iddo’i hun; ni chwilia cerwbiaid, seraffiaid na saint ehangder na dyfnder nac uchder ei faint. Rhyfeddod angylion yng nghanol y nef, rhyfeddod galluoedd a thronau yw ef; diffygia’r ffurfafen a’i sêr o bob rhyw cyn blinaf fi ganu am gariad fy Nuw. Fy […]
Ni throf fy ŵyneb byth yn ôl i ‘mofyn pleser gau, ond mi a gerddaf tua’r wlad sy a’i phleser yn parhau. Mae holl deganau’r ddaear hon fu gynt yn fawr eu grym, yng ngŵydd fy Iesu’n gwywo i gyd ac yn diflannu’n ddim. Y mae aroglau pur ei ras fel peraroglau’r nef, ac nid […]
Ni welodd llygad dyn erioed, ni chlywodd clust o dan y rhod am neb cyffelyb iddo ef: O Rosyn Saron hardd ei liw: pwy ddyd i maes rinweddau ‘Nuw? Efe yw bywyd nef y nef. O f’enaid, edrych arno nawr, yn llanw’r nef, yn llanw’r llawr; yn holl ogoniant dŵr a thir; nid oes, ni […]
Nid ar fore hafddydd tawel gwelwyd Iesu’n rhodio’r don, ond ar noswaith o gyfyngder pan oedd pryder dan bob bron; ni fu nos na thywydd garw allsai gadw f’Arglwydd draw: ni fu neb erioed mor isel na châi afael yn ei law. Ganol nos pan oedd mewn gweddi cofiai am eu gofid hwy; mae yn […]
Nid oes eisiau un creadur Yn bresennol lle bo Duw; Mae E’n fwyd, y mae E’n ddiod, Nerth fy natur egwan yw: Pob hapusrwydd Sydd yn aros ynddo’i Hun. Gyrrwch fi i eithaf twllwch, Hwnt i derfyn oll sy’n bod, I ryw wagle dudew anial, Na fu creadur ynddo ‘rioed; Hapus hapus Fyddaf yno gyda […]
Nid oes enw gwell na Iesu, enw’r hwn sydd yn gwaredu, deuwn ato yn un teulu, plygwn iddo ef. Deued ato blant y gwledydd, iddynt hwy y mae’n arweinydd, dilyn Iesu sy’n llawenydd, O canlynwn ef. Bydded i bobol pob gwlad a thref godi eu lleisiau yn llon eu llef, chwydded y gân gan dyrfa […]
Nid oes gobaith i mi mwy Tra bo ‘mhechod yn rhoi clwy, Tra bo ‘nghalon heb ddim gras Ar ymffrostio yn cael blas. Sanctaidd Dad, O clyw fy llef, Rho im hiraeth am y nef, Dal fi yn y cariad drud Nes y byddwyf lân i gyd. Nid oes neb a’m deil i’r lan Tra […]