O tyred i’n hiacháu, garedig Ysbryd; tydi sy’n esmwytháu blinderau bywyd: er dyfned yw y loes, er trymed yw y groes, dwg ni bob dydd o’n hoes yn nes i’r gwynfyd. O tyred i fywhau y rhai drylliedig, tydi sy’n cadarnhau y gorsen ysig; pan fyddo’r storom gref yn llanw’r byd a’r nef, dy air […]
O tyred, Arglwydd mawr, dihidla o’r nef i lawr gawodydd pur, fel byddo’r egin grawn, foreddydd a phrynhawn, yn tarddu’n beraidd iawn o’r anial dir. Mae peraroglau gras yn taenu o gylch i maes awelon hedd; estroniaid sydd yn dod o’r pellter eitha’ ‘rioed, i gwympo wrth dy droed a gweld dy wedd. Mae tegwch […]
O tyred, Iôr tragwyddol, mae ynot ti dy hun fwy moroedd o drugaredd nag a feddyliodd dyn: os deui at bechadur, a’i godi ef i’r lan, ei galon gaiff, a’i dafod, dy ganmol yn y man. Gwaredu’r saint rhag uffern a phechod drwg ei ryw, o safn y bedd ac angau, a’u dwyn i fynwes […]
O tyred, raslon angel Duw, cynhyrfa’r dyfroedd hyn lle’r erys gwywedigion bro amdanat wrth y llyn: ni feddwn neb i’n bwrw i’r dŵr i’n golchi a’n hiacháu; tydi yn unig fedd y grym, O tyred, mae’n hwyrhau. Yn nhŷ trugaredd aros wnawn a hiraeth dan bob bron am nad oes cyffro yn y llyn nac […]
Emyn Adfent O Waredwr mawr y ddaear Ganwyd gynt ym Methlem dref; Daw’r cenhedloedd oll i’th ganmol, Mab i Dduw sy’n blentyn Nef. Nid ewyllys dyn fu’th hanes Ond yn rodd i ni drwy ras, Cariad dwyfol yw dy anian Sanctaidd yw dy nefol dras. Dwyfol blentyn, tyrd i’n canol Fel y gallom weled Duw […]
O! am gael byw i Iesu Grist bob dydd, clod i Dduw! O! am gael byw i Iesu, byw yn rhydd, clod i Dduw! Gwell na’r byd a’i holl drysorau, Hwn ydyw’r brawd a’r cyfaill gorau, O! am gael byw i Iesu Grist bob dydd. ‘R wy’n mynd i fyw i Iesu Grist bob dydd, […]
O! Arglwydd , clyw fy llef, ‘Rwy’n addef wrth dy draed Im fynych wrthod Iesu cu, Dirmygu gwerth ei waed. Ond gobaith f’enaid gwan, Wrth nesu dan fy mhwn, Yw haeddiant mawr yr aberth drud; Fy mywyd sydd yn hwn. A thrwy ei angau drud Gall pawb o’r byd gael byw: Am hyn anturiaf at […]
O! Cenwch fawl i Dduw Tra gweddus yw y gwaith, Am ei drugaredd ryfedd rad, Pob llwyth a gwlad ac iaith. Pan ddwg ei blant ynghyd Yn hyfryd fe’u iachâ; Gan rwymo’r galon ysig friw; Mab Duw sydd Feddyg da. O! Seion, canmol di Y Duw sy’n rhoddi hedd, A phob cysuron it ynghyd, Nes […]
O! Dewch yn rhydd, Gadewch yr ŵyn a’r defaid, O! dewch yn awr O’r borfa lân i lawr. Na fyddwch brudd, Ond llawenhewch, fugeiliaid O! brysiwch ato ‘nghyd Ein Iôr, Ein Iôr Ein Iôr, iachawdwr mawr y byd. Cewch weld yn awr, Yng nghornel yr adeilad, Mewn preseb coed Yn faban diwrnod oed, Eich Ceidwad […]
O! dysg im, dirion Dad, Fy ngweddi fach a’m cân; Gwna fi yn well o ddydd i ddydd Dan rin dy fendith lân. Dy blentyn carwn fod, O! gwrando ar fy nghri; Dan wên yr haul, yn niwl y nos, Bydd di yn Dad i mi. O! rho yn awr i mi Dy fendith lawn […]