Tydi, fy Arglwydd, yw fy rhan, A doed y drygau ddêl; Ac er bygythion uffern fawr, Dy gariad sy dan sêl. Oddi wrthyt rhed, fel afon faith, Fy nghysur yn ddi-drai; O hwyr i fore, fyth yn gylch, Dy gariad sy’n parhau. Uwch pob rhyw gariad is y nef Yw cariad pur fy Nuw; Anfeidrol […]
Tyred, Arglwydd, tyrd yn fuan, Dim ni’m boddia dan y ne’, Dim ond ti a ddeil fy ysbryd Gwan, lluddedig, yn ei le; Neb ond Ti a gyfyd f’enaid Llesg o’r pydew du i’r lan; Os Tydi sy’n gwneud im ochain, Ti’m gwnei’n llawen yn y man. Hwyl fy enaid sy wrth d’ewyllys, Fel y […]
Wel, dyma gyfoeth gwerthfawr llawn, Uwch holl drysorau’r llawr, A roed i’w gadw oll ynghyd, Yn haeddiant Iesu mawr. Ei gariad lifodd ar y bryn, Fel moroedd mawr di-drai; Ac fe bwrcasodd yno hedd Tragwyddol i barhau. Pan syrthio’r sêr fel ffigys ir, Fe bery gras fy Nuw, A’i faith ffyddlondeb tra fo nef; Anghyfnewidiol […]
Wrth dy orsedd ‘r wyf yn gorffwys, Llefain arnat fore a nawn, Am gael clywed llawn ddistawrwydd, Ar f’euogrwydd tanllyd iawn: A thangnefedd, Pur o fewn yn cadw’i le. ‘D oes ond gras yn eitha’i allu Ddaw â’m henaid i i’w le; Gras yn unig all fy nghadw O fewn muriau ‘i gariad E’: Uwchlaw […]
Wyddwn i fyth dy fod ti’n fy ngharu Union fel hyn, Wyddwn i fyth dy fod ti’n fy nerbyn Union fel hyn, Credwn fod ffìn yn rhywle oedd rhaid imi’i osgoi, Ond yn lle hynny mae ‘na foroedd o gariad di-derfyn. Cytgan: Mor bell ag yw’r dwyrain o’r gorllewin, Mor bell ag yw’r gogledd o’r […]
Ymhlith plant dynion, ni cheir un Yn ffyddlon fyth fel Iesu ei hun, Nid yw ei gariad, megis dyn, Yn gŵyro yma a thraw. Wel, dyna’r cariad sydd yn awr Yn curo pob cariadau i lawr, Yn llyncu enwau gwael y llawr Oll yn ei enw’i hun. O! fflam angerddol gadarn gref O dân enynnwyd […]
Yng Nghrist ei Hun mae ‘ngobaith i, Ef yw fy haul, fy nerth, fy nghân; Mae’n gonglfaen, mae’n dir mor gryf, Craig yw i mi mewn dŵr a thân. Ei gariad pur, Ei heddwch mawr, ‘Does ofn i mi nac ymdrech nawr! Fy nghysur yw, fy oll yn oll, Yng nghariad Crist mae’n sicrwydd i. […]
Yr Arglwydd Dduw sydd gyda thi, Y Brenin ydyw Ef; Fe orfoledda ynot ti, A’th adnewyddu ynddo’i hun; Fe lawenycha dy Dduw Gan ganu cân, canu cân, Canu cân, canu cân, Canu cân. The Lord your God is in your midst: anad. Cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones (Grym mawl 1: 153)