Jubilate, jubilate, canu cân o foliant wnawn i’r Arglwydd, jubilate, jubilate, gwaeddwn gyda’n gilydd, molwn ef; dewch i mewn i’w byrth â diolch, i’w gynteddau awn dan ganu, jubilate, jubilate, jubilate Deo. SALM 100: 1, 2, 4, 5 addas. FRED DUNN, 1908-79, cyf. NEST IFANS Hawlfraint © 1977 Kingsway’s Thankyou Music, P.O. Box 75, Eastbourne […]
Laudate omnes gentes, laudate Dominum; laudate omnes gentes, laudate Dominum. Canmolwch enw’r Arglwydd, holl bobloedd daear lawr; canmolwch enw’r Arglwydd, holl bobloedd daear lawr. CYMUNED TAIZÉ cyf. MAWL AC ADDOLIAD, 1996 (Caneuon Ffydd 59)
Llawryfon rhowch ar ben Yr Oen ar orsedd nef. Ni chân angylaidd nefol gôr I neb ond iddo Ef. Fy enaid cân i’r Hwn Fu farw yn dy le; Trwy dragwyddoldeb nid oes gwell Ar ddae’r nac yn y ne. Cododd o’r bedd yn fyw. Gorchfygodd Angau gawr. Ei rym achubol welir yn Ei fuddugoliaeth […]
Mae enw Calfari, Fu gynt yn wradwydd mawr, Yn ngolwg f’enaid i Yn fwy na’r nef yn awr: O! ddedwydd fryn, sancteiddiaf le, Dderbyniodd ddwyfol waed y ne’! ‘R wy’n caru’r hyfryd awr, Mi gara’r hyfryd le, Mi garaf bren y groes ’Fu ar ei ysgwydd E: Wel dyma ’Nuw a dyma ’Mhen, Ac oll […]
Mae enw Iesu Grist i mi Mor fwyn a llais o’r nef, Mae’n gwneud i’m henaid roddi llam – Ei hyfryd enw Ef. O! Enw’r Iesu, hyfryd yw; Enw fy Mhrynwr i a’m Duw; Enw sy’n gwneud i’m lawenhau Yw hyfryd enw Crist. Mae’n sôn am gariad Un a ddaeth I farw i’m rhyddhau, […]
Mae fy meiau fel mynyddoedd Amlach hefyd yw eu rhi’ Nag yw gwlith y bore wawrddydd, Nag yw sêr y nefoedd fry: Gwaed fy Arglwydd Sydd yn abl i olchi ‘mai. Golchi’r ddu gydwybod aflan Lawer gwynnach eira mân; Gwneud y brwnt, gan’ waith ddifwynodd Yn y domen, fel y gwlân: Pwy all fesur Lled […]
Mae fy nghalon i yn eiddo llwyr i ti: Iesu, arwain fi ar lwybrau Duw. Mae fy nghalon i yn eiddo llwyr i ti: Rhof fy hun yn aberth sanctaidd byw. DYNION Ac fe addolaf fi, MERCHED Fe addolaf fi. DYNION A chanaf am dy gariad di, MERCHED Canaf am dy gariad di, DYNION A […]
Mae gen i ddwylo i’w curo i Dduw, Mae gen i goesau, i neidio i Dduw, Mae gen i ‘sgwyddau i blygu i Dduw, a fy nghorff i gyd i foli fy Nuw. Diolch, diolch, diolch i Ti, Dduw, Diolch, diolch, diolch i Ti, Dduw. Mae gen i glustiau i wrando ar Dduw, Mae gen […]
Mae gobaith sicr yn fy nghalon i, Sy’n rhoddi nerth i ddioddef dyddiau du; Wrth weled mymryn o d’ogoniant yma nawr amheuaeth ffodd o’m tu: Maddeuwyd im pob pechod cas; Mae gobaith nefoedd ynof fi! Fy mraint, fy ngalwad a’m llawenydd pur Yw gwneud d’ewyllys Di. Mae gen i obaith cryf sy’n ’sgafnu maich Yn […]
Mae ‘nghalon i yn llawn edmygedd I ti fy Nuw, fy Mrenin mawr; Dy fawredd di yw fy ysgogiad, Geiriau dy ras yw alaw’r gân o’m mewn. O garu’r da, ac nid drygioni – Fe rydd dy Dduw dy wobr i ti, Ac ar dy ben, rhydd olew sanctaidd A thaenu persawr dros dy […]